Beth yw’r adran hon?
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am hawliau dynol. Mae’n esbonio sut maent yn hyrwyddo rôl hawliau dynol wrth hyrwyddo egwyddorion megis urddas, cydraddoldeb a pharch yn eich bywyd beunyddiol; ac yn gosod allan yr hawliau dynol penodol a ddiogelir gan gyfraith y DU.
I bwy mae’r adran hon?
Mae gan bawb hawliau dynol felly mae’r adran hon yn berthnasol i chi beth bynnag fo’ch amgylchiadau. Gallwch ei defnyddio i wybod beth yw eich hawliau dynol a sut maent yn berthnasol i’ch bywyd. Ond bydd yn ddefnyddiol hefyd os credwch fod eich hawliau dynol wedi cael eu torri.
Os ydych yn gyflogwr ac yn dymuno gwybod sut mae hawliau dynol yn effeithio ar eich polisïau cyflogi, ewch i’r tudalennau cyflogwyr <Dolen gyswllt i’r adran cyflogwyr>.
Yn yr adran hon:
Cyflwyniad i hawliau dynol
Cael eich trin yn deg ac ag urddas
Chwarae rhan yn y gymuned
Byw’r bywyd a ddewiswch
Bod yn ddiogel a chael eich diogelu rhag niwed
Sut mae hawliau dynol yn gweithio?
Beth allaf i ei wneud yn ei gylch?
Hawliau dynol yng nghyfraith Prydain