English version: Being safe and protected from harm
Mae rhyddid a diogelwch yn bwysig i ni gyd.
Dylech fod yn rhydd o niwed ac o’r bygythiad o niwed – boed yn gorfforol neu’n seicolegol. Mae hyn yn cynnwys byw mewn gofid o ddieithriaid neu gymdogion. Ond, yr un mor bwysig, mae’n cynnwys byw mewn gofid o aelodau o’ch teulu.
Ni ddylai’r llywodraeth gipio’ch rhyddid heb reswm teilwng. Wrth gwrs, bydd adegau pan fydd gofyn cadw rhywun yn yr ysbyty yn erbyn eu hewyllys neu eu carcharu am droseddu. Ond mae’r gallu i symud o gwmpas yn rhydd yn un o’r hawliau pwysicaf yn ein cymdeithas.
Os ydych yn cael eich bygwth gan rywun, mae gan y llywodraeth ddyletswydd i’ch diogelu.
Mae cyfraith y DU yn cynnwys ystod o hawliau dynol i’ch diogelu rhag niwed.
Pa hawliau dynol sy'n berthnasol?
Yr hawl i fywyd
Diogelwch rhag artaith a thriniaeth greulon a diraddiol
Diogelwch rhag caethiwed a llafur a orfodir
Yr hawl i ryddid a diogelwch
Yr hawl i barch am fywyd preifat a theuluol
Diogelwch rhag gwahaniaethu