Hawl i fywyd
English version: Right to life
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei wneud yn ofynnol i’r llywodraeth ddiogelu bywyd dynol.
Mae hyn yn golygu na all unrhyw un - gan gynnwys y llywodraeth - geisio rhoi terfyn ar eich bywyd. Mae’n golygu hefyd bod gennych hawl i gael eich diogelu os bydd eich bywyd mewn perygl.
Yn yr un modd, dylai awdurdodau cyhoeddus ystyried eich hawl i fywyd wrth wneud penderfyniadau a allai eich rhoi mewn perygl neu sy’n effeithio ar eich disgwyliad oes.
Enghraifft
Defnyddiodd gweithiwr cymdeithasol o dîm trais yn y cartref awdurdod lleol ddadleuon hawliau dynol i sicrhau llety newydd i fenyw a’i theulu a oedd mewn risg o niwed difrifol gan gyn bartner. Roedd wedi cael hyfforddiant ynghylch rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i amddiffyn hawliau dynol y fenyw a’i theulu, gan gynnwys eu hawl i fywyd a’u hawl i beidio â chael eu trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol.
(Darparwyd yr enghraifft hon gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd yn gwahardd y gosb eithaf yn y DU.
Os bydd aelod o’ch teulu yn marw mewn amgylchiadau sy’n cynnwys y wladwriaeth, efallai y bydd gennych hawl i gynnal archwiliad.
Mae’r llysoedd yn mynnu nad yw’r hawl i fywyd yn cynnwys hawl i gymryd eich bywyd eich hun.
On this page
Cyfyngiadau
Mae’r hawl i fywyd yn ddiamod.
Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd lle na fydd yn gymwys.
Ni chaiff hawl unigolyn i fywyd ei dorri os bydd yn marw pan fydd awdurdod cyhoeddus (fel yr heddlu) yn defnyddio grym angenrheidiol:
-
i’w atal rhag cyflawni trosedd anghyfreithlon;
-
i wneud restiad cyfreithiol;
-
i’w atal rhag dianc o garchariad cyfreithiol; neu
-
i atal terfysg neu wrthryfel.
Wrth gwrs, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hyn, dylid osgoi marwolaeth lle bo modd, a rhaid i’r grym a ddefnyddir fod yn gwbl angenrheidiol a chymesurol.
Nid yw’r rhwymedigaeth gadarnhaol ar y wladwriaeth i ddiogelu bywyd unigolyn yn ddiamod. Er enghraifft, gellir cymryd adnoddau cyfyngedig i ystyriaeth. Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i’r wladwriaeth gynnig cyffuriau achub bywyd i bawb o dan unrhyw amgylchiadau.
Nid yw’r hawl i fywyd a ddiogelir gan y Ddeddf Hawliau Dynol yn cynnwys hawl i farw.
Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi barnu nad oes gan ffetws hawliau dynol tan iddo gael ei eni. Fodd bynnag, mae’r Llys wedi cydnabod yr amrywiaeth o safbwyntiau ar y mater hwn ar draws gwladwriaethau a chanddynt draddodiadau crefyddol gwahanol.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Erthygl 2: Hawl i fywyd
1. Caiff hawl pawb i fywyd ei ddiogelu gan y gyfraith. Ni amddifedir unrhyw un o’i fywyd yn fwriadol, ac eithrio wrth gyflawni dedfryd llys ar ôl ei gael yn euog o drosedd y mae’r gyfraith yn darparu’r gosb honno ar ei chyfer.
2. Ni ystyrir yr amddifadwyd unigolyn o’i fywyd yn groes i’r Erthygl hon pan fydd o ganlyniad i ddefnyddio grym nad yw’n fwy na’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol –
a. wrth amddiffyn unrhyw unigolyn rhag trais anghyfreithlon;
b. er mwyn arestio rhywun yn gyfreithiol neu atal unigolyn a garcharwyd yn gyfreithlon rhag dianc;
c. mewn camau a gymerwyd yn gyfreithlon er mywn tawelu terfysg neu wrthryfel.
Back to top^
Achosion enghreifftiol
Pretty v Y Deyrnas Unedig (2002)
Roedd menyw a oedd yn dioddef clefyd dirywiol nad oedd modd ei wella am reoli pryd a sut y byddai’n marw. Er mwyn osgoi marwolaeth anurddasol trwy fethiant resbiradol, roedd am i’w gŵr ei chynorthwyo i gyflawni hunanladdiad, a cheisiodd sicrwydd na chawsai ef ei erlyn am ei chynorthwyo. Canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop nad yw hawl i fywyd yn creu hawl i ddewis marw yn hytrach na byw. Felly, nid oedd hawl i farw wrth law trydydd parti neu gyda chymorth awdurdod cyhoeddus.
Osman v Y Deyrnas Unedig (1998)
Roedd athro wedi datblygu diddordeb afiach yn un o’i ddisgyblion a oedd yn cynnwys ei ddilyn adref, ei gloi mewn ystafell ddosbarth, fandaleiddio ei gartref ac erlid ei ffrind ysgol. Adroddwyd ymddygiad yr athro i bennaeth yr ysgol ac i’r heddlu. O ganlyniad i hyn, saethodd yr athro'r disgybl a’i dad, gan anafu’r disgybl a lladd ei dad. Canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oedd yr heddlu wedi methu yn ei ddyletswydd o dan Erthygl 2 i ddiogelu hawl i fywyd y tad. Roedd tystiolaeth annigonol bod yr athro yn fygythiad go iawn ac uniongyrchol i fywyd yr oedd yr heddlu yn hysbys ohono neu y dylent wybod amdano. Rhaid i’r rhwymedigaeth gadarnhaol i ddiogelu bywyd beidio â gosod baich amhosibl neu anghymesur ar awdurdodau cyhoeddus.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Back to top^