Yr hawl i gynnal etholiadau rhydd
English version: The right to free elections
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei wneud yn ofynnol i’r llywodraeth gefnogi’ch hawl i fynegiant rhydd trwy gynnal etholiadau rhydd ar ôl cyfnodau rhesymol.
Rhaid i’r etholiadau eich caniatáu i bleidleisio’n gyfrinachol.
On this page
Cyfyngiadau
Mae’r hawl i gynnal etholiadau rhydd yn ddiamod, sy’n golygu bod yn rhaid peidio byth â’i gyfyngu mewn unrhyw ffordd.
Fodd bynnag, gall y llywodraeth roi rhai cyfyngiadau ar y ffordd y cynhelir etholiadau, a gall benderfynu pa fath o system etholiadol i’w defnyddio - fel ‘system y cyntaf i’r felin’ neu gynrychiolaeth gyfrannol.
Dim ond i bobl sy’n gymwys i bleidleisio o dan gyfraith y DU y mae’r hawl i gynnal etholiadau rhydd yn gymwys.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Protocol 1, Erthygl 3: Yr hawl i gynnal etholiadau rhydd
Mae’r Uwchbartïon Contract yn ymgymryd â chynnal etholiadau rhydd yn ôl cyfnodau rhesymol trwy bleidlais gyfrinachol, o dan amodau a fydd yn sicrhau mynegi barn y bobl yn rhydd o ran dewis corff deddfwriaethol.
Back to top^