Hawl i addysg 

 

English version: Right to education

Mae gan bawb hawl i addysg effeithiol.

Mae gan rieni hawl i sicrhau hefyd bod eu credoau crefyddol ac athronyddol yn cael eu parchu yn ystod addysg eu plant.

On this page

 

Cyfyngiadau

Nid yw’r hawl i addysg yn rhoi hawl i chi ddysgu beth bynnag rydych chi’n ei ddymuno, pryd bynnag rydych chi’n dymuno.

Mae’r llysoedd wedi barnu bod a wnelo’r hawl i addysg â’r system addysg sy’n bodoli eisoes. Nid yw’n ei wneud yn ofynnol i’r llywodraeth ddarparu na chymorthdalu unrhyw fath penodol o addysg.

Caniateir i’r llywodraeth reoleiddio’r ffordd y cyflwynir addysg.  Er enghraifft, gall basio cyfreithiau sy’n gwneud addysg yn orfodol neu osod gofynion iechyd a diogelwch ar ysgolion.

Caniateir i ysgolion gael polisïau derbyniadau cyhyd â’u bod yn wrthrychol ac yn rhesymol.

Er bod gan rieni hawl i sicrhau y perchir eu credoau crefyddol neu athronyddol yn ystod addysg eu plant, nid yw’n hawl ddiamod. Cyhyd ag y caiff y credoau hyn eu hystyried yn briodol, gall awdurdod addysg ymadael wrthynt ond dim ond os bydd rhesymau da am wneud hynny ac os caiff ei wneud mewn ffordd wrthrychol, hanfodol ac amlblwyfol.


Back to top^  

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Protocol 1, Erthygl 2: Hawl i addysg

Ni wrthodir yr hawl i addysg i unrhyw un. Wrth arfer unrhyw swyddogaethau a ddefnyddir ganddo mewn perthynas ag addysg ac addysgu, bydd y Wladwriaeth yn parchu hawl rhieni i sicrhau bod yr addysg a’r addysgu hwn yn cydymffurfio â’u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol eu hunain.


Back to top^  

Achosion enghreifftiol

Simpson v Y Deyrnas Unedig (1989)

Gall rhieni plant ag anghenion arbennig ddadlau bod angen cyfleusterau arbennig ar gyfer eu plant y gall y bydd yn rhaid i’r awdurdodau addysg eu parchu. Fodd bynnag, nid hawl ddiamod yw hon, a bydd gan yr awdurdodau ddisgresiwn o ran sut y byddant yn dyrannu adnoddau prin.

Gall awdurdodau wneud cais cyfreithlon i gynnwys plentyn ag anghenion arbennig mewn ysgol yn y brif ffrwd, hyd yn oed os nad dyma fydd dymuniad y rhiant.

(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)

R (Cyngor Bwrdeistref Llundain Hounslow v Panel Apêl Mynediad Ysgol Cyngor Bwrdeistref Llundain Hounslow (2002)

Roedd ysgol gynradd yng ngorllewin Llundain yn rhoi blaenoriaeth i dderbyn plant a oedd yn byw yn nalgylch dynodedig yr ysgol. Apeliodd rhieni rhai plant a oedd yn byw y tu allan i’r dalgylch ond yr oedd eu brodyr neu chwiorydd yn mynychu’r ysgol yn erbyn y penderfyniadau i beidio â derbyn eu plant ar sail y ffaith y byddai eu derbyn yn gwneud maint dosbarthiadau yn rhy fawr. Barnodd y llys nad oedd polisi derbyn yr ysgol, a roddai blaenoriaeth i drigolion ardal benodol dros roi mynediad i frodyr neu chwiorydd, yn torri ar yr hawl i addysg. Pwysleisiodd y llys lle bydd ceisiadau yn rhagori ar nifer y lleoedd mewn ysgol, y bydd yn rhaid i awdurdodau derbyn wneud penderfyniadau ymarferol o ran derbyn sy’n wrthrychol deg a thrwy broses sy’n deg. Ymysg pethau eraill, mae hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried pob cais yn briodol ar ei rinweddau cyn gwneud penderfyniad terfynol.

(Darparwyd y crynodeb achos hwn gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)

Y Frenhines ar Gais K v Bwrdeistref Llundain Newham (2002)

Roedd Mwslim defosiynol yn dymuno i’w ferch 11 oed gael ei haddysgu mewn ysgol un rhyw. Am resymau crefyddol, teimlai ei fod yn amhriodol i ferch y tu hwnt i’r oedran hwn gymysgu â bechgyn neu ddynion ifanc yn yr ysgol. Nid oedd unman ar y ffurflen dderbyniadau iddo nodi’r farn hon ac ni chafodd ei ystyried gan yr awdurdod derbyniadau na’r panel apelio ychwaith. Barnodd y llys bod hwn yn torri ar ei hawl i sicrhau parch ar gyfer ei gredoau crefyddol mewn perthynas ag addysg ei ferch. Pwysleisiodd y llys mai diffyg ystyried argyhoeddiad crefyddol y tad a oedd yn achosi’r drosedd, ac nid y penderfyniad ei hun.

(Darparwyd y crynodeb achos hwn gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)


Back to top^