Yr hawl i ryddid mynegiant 

 

English version: The right to freedom of expression

Mae gennych hawl i gael eich barn eich hun ac i’w fynegi’n rhydd heb ymyrraeth gan y llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi’ch barn yn uchel neu drwy: 

  • erthyglau, llyfrau neu daflenni cyhoeddedig;
  • darllediadau teledu neu radio;
  • celfyddyd; a
  • chyfathrebu ar y rhyngrwyd.

Enghraifft

Mae’r hawl i ryddid mynegiant yn arbennig o bwysig i newyddiadurwyr a phobl eraill sy’n gweithio yn y cyfryngau. Rhaid iddynt fod yn rhydd i feirniadu’r wladwriaeth heb ofni cael eu herlyn – mae hon yn nodwedd bwysig o gymdeithas ddemocrataidd. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfryngau gadw llygad ar hawliau dynol eraill unigolion, fel yr hawl i gael parch am eu bywyd preifat.

Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn eich rhyddid i gael gwybodaeth gan bobl eraill drwy, er enghraifft, fod yn rhan o gynulleidfa neu ddarllen cylchgrawn.

On this page

 

Cyfyngiadau

Er bod gennych hawl i’r rhyddid i fynegi eich barn a’ch credoau, mae gennych ddyletswydd i ymddwyn yn gyfrifol ac i barchu hawliau pobl eraill.

Efallai y bydd awdurdodau cyhoeddus yn cyfyngu ar eich hawl i ryddid mynegiad os bydd modd iddynt ddangos bod i’r camau hyn sail briodol o dan y gyfraith, a’u bod yn angenrheidiol ac yn ‘gymesurol’ er mwyn:

  • amddiffyn diogelwch gwladol, tiriogaeth gydnabyddedig neu ddiogelwch y cyhoedd;
  • atal anrhefn neu drosedd;
  • amddiffyn iechyd neu foesau;
  • amddiffyn hawliau ac enwau da pobl eraill; neu
  • atal datgelu gwybodaeth a dderbyniwyd yn gyfrinachol; neu
  • gynnal awdurdod ac amhleidioldeb y farnwriaeth.

Efallai y caniateir cyfyngu ar eich rhyddid mynegiant os byddwch, er enghraifft, yn mynegi barn sy’n annog casineb hiliol neu grefyddol.

Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod cyhoeddus perthnasol ddangos fod y cyfyngu yn ‘gymesurol’, mewn geiriau eraill rhaid i’r cyfyngiad beidio â bod yn fwy na’r hyn sy’n ofynnol, ac sy’n briodol a heb fod yn ormodol yn yr amgylchiadau.

Gweler hefyd y wybodaeth <insert link to page on racial or religious hatred in the Equality section of this site <Link to relevant page>.>


Back to top^  

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 10: Rhyddid mynegiant

1. Mae gan bawb hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i gael barn a lledaenu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus a heb ystyried ffiniau. Ni fydd yr Erthygl hon yn atal Gwladwriaethau rhag ei wneud yn ofynnol trwyddedu mentrau darlledu, teledu neu sinema.

2. Efallai y bydd ymarfer y rhyddid hwn, am fod iddo ddyletswyddau a chyfrifoldebau, yn amodol ar ffurfioldebau, amodau, cyfyngiadau neu gosbau a ragnodir gan y gyfreithiol ac sy’n ofynnol mewn cymdeithas ddemocrataidd, er lles diogelwch gwladol, tiriogaeth gydnabyddedig neu drosedd, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, er mwyn diogelu enw da neu hawliau eraill, er mwyn atal datgelu gwybodaeth a gafwyd yn gyfrinachol, neu i gynnal awdurdod ac amhleidioldeb y farnwriaeth.


Back to top^  

Achos enghreifftiol

The Observer a The Guardian v Y Deyrnas Unedig (1991)

Cyhoeddodd papurau newydd The Guardian a The Observer rai dyfyniadau o lyfr Peter Wright, Spycatcher, a gynhwysai ddeunydd a honnai bod MI5 wedi gweithredu’n anghyfreithlon. Llwyddodd y llywodraeth i gael gwaharddeb a oedd yn atal cyhoeddi mwy tan i achos a oedd yn ymwneud â thorri cyfrinachedd wedi dod i ben. O ganlyniad, cyhoeddwyd y llyfr mewn gwledydd eraill ac yna yn y DU.  Cwynodd The Guardian bod parhau â’r waharddeb yn torri ar yr hawl i ryddid mynegiant yn Erthygl 10.

Barnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop er bod y waharddeb yn gyfreithlon, am ei fod er lles diogelwch gwladol, unwaith i’r llyfr gael ei gyhoeddi nid oedd rheswm digonol am barhau â’r gwaharddiad rhag cyhoeddi. Dylid wedi rhyddhau’r waharddeb pan nad oedd y wybodaeth yn gyfrinachol mwyach.

(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)


Back to top^