Diogelu rhag gwahaniaethu
English version: Protection from discrimination
Bydd gwahaniaethu yn digwydd pan gewch eich trin yn llai ffafriol nag unigolyn arall mewn sefyllfa debyg ac na ellir cyfiawnhau’r driniaeth hon yn wrthrychol ac yn rhesymol.
Mae’n bwysig i chi ddeall nad yw’r Deddf Hawliau Dynol yn eich diogelu rhag gwahaniaethu ym mhob maes o’ch bywyd. Yn hytrach, mae’n eich diogelu rhag gwahaniaethu wrth fwynhau’r hawliau dynol hynny a ddiogelir gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hyn yn adlewyrchu’r syniad craidd bod pob un ohonom, ni waeth pwy ydym, yn mwynhau’r un hawliau dynol ac y dylem gael mynediad cyfartal atynt.
Mae cyfreithiau eraill sy’n eich diogelu rhag gwahaniaethu yn fwy cyffredinol.
Nid yw’r diogelwch yn erbyn gwahaniaethu yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn rhydd-sefyll. Mewn geiriau eraill, er mwyn dibynnu ar yr hawl hon, rhaid i chi ddangos yr effeithiwyd ar eich gallu i fwynhau un neu fwy o’r hawliau eraill yn y Ddeddf Hawliau Dynol gan y driniaeth wahaniaethol. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i chi brofi y torrwyd ar yr hawl ddynol arall hon mewn gwirionedd.
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gwahardd gwahaniaethu ar ystod eang o seiliau, gan gynnwys ‘rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu ethnig, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall’.
Mae’r gyfraith achosion sy’n ymwneud â’r hawl hon wedi dangos bod y term ‘statws arall’ yn cynnwys, ymysg pethau eraill, tueddfryd rhywiol, anghyfreithlondeb, statws priodasol, aelodaeth undeb llafur, trawsrywioldeb a charchariad. Gellir ei ddefnyddio hefyd i herio gwahaniaethu ar sail oedran neu anabledd.
Enghraifft
Defnyddiwyd y diogelwch gwrth-wahaniaethu yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn llwyddiannus ar ran cwpl hoyw a oedd yn dymuno cael eu trin yn yr un ffordd â chwpl heterorywiol at ddibenion y rheolau a oedd yn ymwneud ag olyniaeth a thenantiaeth.
(Cymerwyd yr enghraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Mae’r llysoedd wedi sefydlu hefyd bod diogelu rhag gwahaniaethu o dan yr hawliau dynol yn cynnwys gwahaniaethu anuniongyrchol. Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd polisi sy’n ymddangos ei fod yn gymwys i bawb yn rhoi rhai grwpiau dan anfantais mewn gwirionedd. Er enghraifft, efallai y bydd gofyniad i bob gweithiwr fod yn dalach na chwe throedfedd o uchder yn achos o wahaniaethu anuniongyrchol lle na fydd yn gwbl ofynnol ar gyfer y swydd, am y bydd menywod a phobl o grwpiau hil penodol dan anfantais.
On this page
Cyfyngiadau
Nid yw pob math o driniaeth wahaniaethol yn anghyfreithlon. Bydd gwahaniaethu yn digwydd pan na ellir cyfiawnhau triniaeth wahaniaethol yn wrthrychol nac yn rhesymol.
Bydd yn gyfreithlon trin pobl yn wahanol o bryd i’w gilydd. Er enghraifft, gall llys orfodi dedfryd ar rywun y’i cafwyd yn euog o drosedd. Yn y sefyllfa hon, bydd y llys yn trin yr unigolyn hwn yn wahanol i rywun nad yw wedi’i gael yn euog o gyflawni trosedd, ond caniateir hyn oherwydd gellir cyfiawnhau’r driniaeth lai ffafriol yn wrthrychol ac yn rhesymol yn unol â’n polisïau cyfiawnder troseddol.
Bydd gwahaniaethu cadarnhaol yn digwydd pan gaiff grŵp dan anfantais ei drin yn fwy ffafriol er mwyn goresgyn sefyllfa o anghydraddoldeb sy’n bodoli eisoes. Lle gellir cyfiawnhau hynny’n wrthrychol ac yn rhesymol, caniateir triniaeth fwy ffafriol o ran mwynhau hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Erthygl 14: Gwahardd gwahaniaethu
Caiff mwynhau’r hawliau a’r rhyddid a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol ei sicrhau heb wahaniaethu ar unrhyw sail, fel rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Back to top^
Achos enghreifftiol
Lindsay v Y Deyrnas Unedig (1986)
Cwynodd cwpl priod, lle’r wraig oedd yr unig aelod cyflogedig, fod trefn dreth incwm y DU yn trethu cyplau cymharol mewn ffordd wahaniaethol ar sail rhyw, statws priodasol a chrefydd. Yn gyntaf, roedd cyplau priod lle’r gŵr oedd yr unig aelod cyflogedig yn cael eu trethu’n drymach na chyplau priod lle’r wraig oedd yr unig un a oedd yn ennill cyflog. Yn ail, roedd cyplau priod yn cael eu trethu’n drymach na chyplau a oedd yn cyd-fyw ac nad oeddent yn briod. Canfu’r Comisiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol bod i’r mesurau treth a oedd yn rhoi manteision ychwanegol i wraig a oedd yn unig aelod cyflogedig mewn teulu gyfiawnhad gwrthrychol a rhesymol yn y ffordd yr oedd yn mynd ati i annog menywod priod i weithio. Nid oedd y llys yn derbyn bod cyplau priod mewn sefyllfa debyg i gyplau a oedd yn cyd-fyw at ddibenion trethiant, a dim ond pobl sy’n cael eu trin yn llai ffafriol o’u cymharu â phobl eraill mewn sefyllfa debyg y mae Erthygl 14 yn eu diogelu rhag gwahaniaethu. Yn unol â hynny, nid oedd unrhyw drosedd yn erbyn Erthygl 14.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Back to top^