Dim cosb heb gyfraith
English version: No punishment without law
Ni ellir eich cyhuddo o drosedd am weithred nad oedd yn drosedd pan wnaethoch ei chyflawni.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod cyfreithiau yn esbonio’n eglur yr hyn sy’n cyfrif yn drosedd, er mwyn i chi wybod pan fyddwch yn torri’r gyfraith.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i lysoedd rhoi dedfryd fwy i chi nag oedd ar gael pan wnaethoch gyflawni trosedd.
On this page
Cyfyngiadau
Mae’r hawl i ddim cosb heb gyfraith yn ddiamod. Mae hyn yn golygu na ellir ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd.
Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn caniatáu eithriadau ar gyfer gweithredoedd a oedd “yn groes i gyfraith gyffredinol cenhedloedd gwaraidd” pan gawsant eu cyflawni. Er enghraifft, caniataodd y math hwn o ddarpariaeth erlyn troseddau rhyfel ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Erthygl 7: Dim cosb heb gyfraith
1. Ni cheir unrhyw un yn euog o unrhyw drosedd o ganlyniad i unrhyw weithred neu esgeulustod nad oedd yn drosedd o dan gyfraith genedlaethol pan gafodd ei gyflawni. Ni chaiff cosb fwy llym ei gorfodi ychwaith na’r un a oedd yn gymwys adeg cyflawni’r drosedd.
2. Ni fydd yr Erthygl hon yn rhagfarnu prawf na chosb unrhyw unigolyn am unrhyw weithred neu esgeulustod a oedd, adeg ei gyflawni, yn droseddol yn unol ag egwyddorion cyffredinol y gyfraith fel y’i cydnabyddir gan genhedloedd gwaraidd.
Back to top^
Achos enghreifftiol
R v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, ex parte Uttley (2004)
Ym 1995, cafwyd dyn yn euog o droseddau rhywiol amrywiol, gan gynnwys trais rhywiol. Fe’i dedfrydwyd i 12 mlynedd o garchar. Fe’i rhyddhawyd ar ôl gwasanaethu dau draean o’i ddedfryd, yn destun amodau trwydded tan cyrraedd tri chwarter cyfnod ei ddedfryd. Fodd bynnag, petai wedi’i gael yn euog a’i ddedfrydu adeg cyflawni’r troseddau, byddai’r darpariaethau cyfreithiol a oedd ar waith ar y pryd wedi rhoi’r hawl iddo gael ei ryddhau gan ddileu peth o’i ddedfryd heb amodau. Dadleuodd fod gorfodi amodau’r drwydded yn golygu ei fod yn destun cosb drymach nag a fu’n gymwys adeg cyflawni’r drosedd, a bod hyn yn torri ar yr hawl i ddim cosb heb gyfraith. Anghytunai Tŷ’r Cyffredin. Gwnaethant farnu y byddai’r gyfraith hawliau dynol ond yn cael ei thorri petai dedfryd a roddwyd i ddiffynnydd yn fwy na’r gosb fwyaf y gellid wedi’i gorfodi yn unol â’r gyfraith a oedd mewn grym adeg cyflawni’r drosedd. Nid oedd hyn yn gymwys yn yr achos hwn oherwydd, hyd yn oed ar ddyddiad y troseddau, y ddedfryd fwyaf difrifol am drais rhywiol oedd carchar am fywyd. Nid bwriad yr hawl i ddim cosb heb gyfraith oedd sicrhau cosbi’r troseddwr yn yr union ffordd a fyddai’n wir adeg y drosedd, ond yn syml sicrhau na chawsai ei gosbi’n fwy llym na’r gosb fwyaf a oedd yn gymwys adeg y drosedd. Beth bynnag, nid oedd gorfodi amodau trwydded yn golygu bod y ddedfryd yn fwy difrifol nag a fuasai o dan y drefn gynharach.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Back to top^