Parch i’ch meddyliau, eich credoau a’ch crefydd
English version: Freedom of thought, belief and religion
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn amddiffyn eich hawl i gael eich meddyliau, eich credoau a’ch crefydd eich hun. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i newid eich crefydd neu gredoau ar unrhyw bryd.
Mae gennych hawl hefyd i roi eich meddyliau a’ch credoau ar waith. Er enghraifft, ni all awdurdodau cyhoeddus eich atal rhag arfer eich crefydd, yn gyhoeddus neu’n breifat, heb reswm da iawn fel yr amlinellir yn y cyfyngiadau.
Yn bwysig, mae’r hawl hon yn amddiffyn ystod eang o gredoau crefyddol a chredoau eraill, gan gynnwys feganiaeth, heddychiaeth, agnosticiaeth ac anffyddiaeth.
Enghraifft
Mae’r Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi barnu na ellir gorfodi unigolyn i amlygu barnau sy’n gysylltiedig â chrefydd benodol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylai awdurdodau lleol ofalu wrth ddyfeisio gweithdrefnau ar gyfer tyngu llwon. Byddai gofyniad i dyngu llw ar destun crefyddol fel y Beibl yn torri cyfraith hawliau dynol. Felly, dylai fod gan awdurdodau cyhoeddus fath gwahanol o gadarnhad defodol heb orfod dibynnu ar ffurfiau crefyddol.
(Tynnwyd yr enghraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006)
See also:
On this page
Cyfyngiadau
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd awdurdodau cyhoeddus yn ymyrryd ar eich hawl i gael parch tuag at eich meddyliau, eich credoau a’ch crefydd.
Yr unig achosion lle gellir gwneud hyn yw lle gall yr awdurdod ddangos bod sail gyfreithiol briodol i’r camau hyn, a’u bod yn angenrheidiol ac yn ‘gymesurol’ er mwyn amddiffyn:
Mae ymateb ‘cymesurol’ i broblem yn un nad yw’n fwy na’r hyn sy’n ofynnol, ac sy’n briodol a heb fod yn ormodol yn yr amgylchiadau.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd
1. Mae gan bob unigolyn hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; mae’r hawl hon yn cynnwys ychydig o ryddid i newid ei grefydd neu gredo a rhyddid, naill ai fel unigolyn neu mewn cymuned ag eraill, ac yn gyhoeddus neu’n breifat, i arfer ei grefydd neu gredo, ar ffurf mawl, arfer addysgu a defodau..
2. Bydd y rhyddid i arfer crefydd neu gredoau personol yn amodol ar y cyfyngiadau a ragnodir gan y gyfraith yn unig, ac sy’n ofynnol mewn cymdeithas ddemocrataidd er lles diogelwch y cyhoedd, er mwyn amddiffyn trefn gyhoeddus, iechyd neu foesau, neu er mwyn diogelu hawliau a rhyddid pobl eraill.
Mae i’r hawl hon arwyddocâd arbennig o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae Adran 13 y Ddeddf yn ei wneud yn ofynnol i lysoedd neu dribiwnlysoedd, wrth wrando ar achosion a allai effeithio ar ymarfer yr hawl hon gan sefydliad crefyddol, roi ‘ystyriaeth benodol i bwysigrwydd yr hawl honno’.
Back to top^
Achosion enghreifftiol
R (ynghylch cymhwyso Begum) v Ysgol Uwchradd Dinbych
Ataliwyd merch ysgol Fwslimaidd rhag mynychu ysgol am ei bod yn gwrthod gwisgo gwisg shalwar kameeze yr ysgol, am ei fod yn well ganddi wisgo jilbab mwy gwylaidd yn hytrach. Dadleuodd fod hyn yn torri ar ei hawliau o dan Erthygl 9 i arfer ei chrefydd. Barnodd Tŷ’r Arglwyddi nad oedd unrhyw drosedd yn erbyn ei hawl i arfer ei chrefydd am y gallai fod wedi mynychu ysgolion eraill yn y dalgylch a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr wisgo’r jilbab. Yn ogystal, roedd yr ysgol wedi gweithio’n galed i ddatblygu polisi o ran gwisg a oedd yn cymryd credoau ei myfyrwyr Mwslimaidd i ystyriaeth, ac roedd wedi datblygu’r polisi mewn ffordd gynhwysol. O dan yr amgylchiadau hyn, roedd yn amhriodol i’r llysoedd ymyrryd ym mhenderfyniad yr ysgol, a oedd mewn sefyllfa llawer gwell i asesu’r mater sensitif hwn.
(Darparwyd y crynodeb achos hwn gan y Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
R (Williamson ac eraill) v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth ac eraill (2005)
Cyfeiriwyd at Erthygl 9 mewn ymgais i ddymchwel y gwaharddiad yn erbyn cosbi plant yn gorfforol gan athrawon. Honnwyd mai rhan o ddyletswydd addysg mewn cyd-destun Cristnogol oedd y dylai fod modd i athrawon gymryd lle rhieni a chosbi’n gorfforol plant a oedd yn euog o ddiffyg disgyblaeth. Barnodd Tŷ’r Arglwyddi fod y gwaharddiad statudol yn dilyn nod cyfreithlon a’i fod yn gymesur. Roedd plant yn ddiamddiffyn, a nod y ddeddfwriaeth oedd eu hamddiffyn a hyrwyddo eu lles. Roedd cosb gorfforol yn cynnwys mynd ati’n fwriadol i achosi trais corfforol. Bwriad y ddeddfwriaeth oedd diogelu plant yn erbyn y pryder, y poen a’r effeithiau niweidiol eraill y gallai defnyddio trais corfforol fel hyn eu hachosi.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Pendragon v Y Deyrnas Unedig (1998)
Cafodd safle treftadaeth genedlaethol a ddefnyddiwyd yn draddodiadol gan dderwyddon yn ystod heuldro'r haf ei gau’n gyfreithlon gan yr awdurdodau. Honnodd derwydd fod yr awdurdod wedi ymyrryd yn anghyfreithlon â’i hawliau o dan Erthygl 9. Anghytunodd y llys. Barnodd, yn gyntaf, fod yr awdurdodau wedi gweithredu yn unol â’r gyfraith, am fod ganddynt rym i gau’r safle o dan Ddeddf Seneddol. Ac, yn ail, y rheswm am gau’r safle oedd nad oedd modd iddynt warantu diogelwch y bobl a oedd yn dathlu heuldro’r haf. Felly, roeddent yn gweithredu er lles diogelwch y cyhoedd, ac roedd yr ymyrraeth yn gyfiawn.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Back to top^