Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau cam wrth gam ynglŷn â sut i ddefnyddio’ch hawliau. Dilynwch y dolenni isod i ganfod popeth y mae’n rhaid i chi ei wybod am wneud hawliad gwahaniaethu. Mae gennym wybodaeth ynglŷn â defnyddio’ch hawliau dynol hefyd.
Os ydych chi o’r farn i rywun wahaniaethu yn eich erbyn, rhaid i chi ystyried eich dewisiadau yn ofalus. Efallai y byddwch yn penderfynu dwyn achos gerbron y llys neu’r tribiwnlys cyflogaeth, neu efallai y byddwch o’r farn y gellir datrys eich cwyn yn well mewn ffordd arall. Gall yr adran hon eich helpu i benderfynu p’un a ddylech wneud hawliad ai peidio. Os byddwch chi’n penderfynu gwneud hawliad, bydd yr adrannau canlynol yn eich cynorthwyo i bennu sut i wneud hynny.
Mae’r broses o wneud hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth yn un eithaf cymhleth. Mae’r adran hon yn eich tywys drwy’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gan gynnwys y gweithdrefnau y bydd yn rhaid i chi eu dilyn yn gyntaf. Mae’r adran sy’n dilyn yr adran hon, sef 'Proses y tribiwnlys cyflogaeth’, yn esbonio’r hyn sy’n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiad ei hun.
Mae’r adran hon yn esbonio'r hyn y mae’n rhaid i chi wybod am broses y tribiwnlys ei hun, gan gynnwys y math o wrandawiadau a gynhelir a’r hyn sy’n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiadau. Pe bai eich hawliad yn ymwneud ag addysg neu unrhyw wasanaeth, dylech gyfeirio at y canllawiau cam-wrth-gam o ran Dwyn achos gerbron y llys sirol (Cymru a Lloegr) a llys y siryf (Yr Alban).
Pan fydd rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu safle, gallwch ddwyn cwyn gerbron llys. Ni ellir dwyn y cwyn gerbron y tribiwnlys cyflogaeth. Yng Nghymru a Lloegr, defnyddir y llys sirol. Ar gyfer hawliadau yn Yr Alban, gweler y canllaw i Ddwyn achos gerbron llys y siryf.