English Language Version : Selling a property
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n gyfrifol am werthu eiddo preswyl neu fasnachol wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred, neu anabledd wrth werthu eiddo i chi.
Mae prynu eiddo’n golygu cytuno ar gontract cyfreithiol. Mae’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn prynwr am unrhyw un o’r rhesymau uchod, gyda dau eithriad:
-
Nid ydych yn 18 oed eto felly ni allwch lofnodi contract y gellir ei orfodi yn ôl y gyfraith.
-
Rydych chi’n unigolyn anabl sy’n analluog i lofnodi contract y gellir ei orfodi yn ôl y gyfraith, neu’n analluog i roi caniatâd gwybodus.
Rhaid iddi fod yn rhesymol i wrthod gadael unigolyn anabl brynu eiddo oherwydd anallu. Dylai gwerthwyr eiddo dybio bod unigolyn anabl yn gallu llofnodi contract oni bai fod yna dystiolaeth glir sy’n dweud fel arall.
Nid yw’r gwaharddiadau uchod ar wahaniaethu’n berthnasol i berchen-feddiannydd sy’n gwerthu’r eiddo’n breifat (heb ddefnyddio gwerthwr tai) ac sydd heb gyhoeddi hysbyseb.
Enghraifft
Mae menyw yn gwerthu ei thŷ trwy werthwr tai ac yn gwrthod derbyn cynnig gan gwpwl o’r un rhyw oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae’n dweud wrth y gwerthwr am wrthod y cynnig.
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn gwahaniaethu yn erbyn y cwpwl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r fenyw wynebu achos cyfreithiol am roi’r cyfarwyddyd i wahaniaethu. Os bydd y gwerthwr tai yn derbyn y cyfarwyddyd anghyfreithlon hwn, gallai’r cwmni wynebu achos cyfreithiol hefyd.