Rhentu eiddo
English Language Version : Renting a property
Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n gyfrifol am rentu neu reoli eiddo preswyl neu fasnachol i wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred, neu anabledd trwy:
- wrthod rhentu eiddo i chi
- gosod yr amodau rhentu maent yn eu cynnig
- ymdrin â rhestr o bobl sydd angen math arbennig o eiddo
- darparu neu wrthod gadael i chi fanteisio ar fuddion neu gyfleusterau
- gwneud gwaith atgyweirio ac adnewyddu, neu
- eich troi allan o’ch cartref neu eich niweidio mewn rhyw ffordd arall, megis aflonyddu.
Pan fydd angen caniatâd i osod neu ail-osod eiddo, mae’n anghyfreithlon i’r sawl sy’n rhoi’r caniatâd wahaniaethu trwy wrthod rhoi caniatâd.
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg mewn unrhyw un o’r meysydd hyn, mae gennych chi hawl i gyflwyno achos cyfreithiol. Cyn gwneud hyn, dylech chi ystyried mynd at un o’r canlynol:
Enghraifft
Mae landlord preifat yn rhoi hysbyseb ar-lein am ‘fflat i’w osod i deuluoedd Cristnogol yn unig’. Gallai hyn fod yn gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred. Gallai’r landlord a’r unigolyn sy’n cyhoeddi’r hysbyseb wynebu achos cyfreithiol.
Enghraifft
Mae asiant gosod yn diswyddo gweithiwr dros dro am brotestio pan ddywedodd rheolwr wrth staff i beidio â dangos eiddo i’w rhentu i gwsmeriaid o Ddwyrain Ewrop, am eu bod ‘i gyd yn gwastraffu amser’.
Mae’r cyfarwyddyd anghyfreithlon hwn yn gwahaniaethu yn uniongyrchol ar sail hil yn erbyn cwsmeriaid Ddwyrain Ewrop. Cafodd y gweithiwr dros dro ei ddiswyddo oherwydd ei fod wedi cwyno am y gwahaniaethu. Mae hyn yn erledigaeth anghyfreithlon yn erbyn y gweithiwr dros dro.
Byddai’r asiant gosod yn gorfod wynebu achos cyfreithiol ar sail gwahaniaethu hiliol ac erledigaeth.
On this page
Blaendal
Triniaeth lai ffafriol yw gwahaniaethu; hynny yw, trin rhywun yn llai ffafriol na rhywun arall am reswm sy’n ymwneud â’i hil, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred. Mae yna rai amgylchiadau lle mae’n gyfreithlon i wahaniaethu, ond rhaid cyfiawnhau hyn yn llawn gyda rhesymau gwrthrychol ar gyfer pob achos.
Enghraifft
Mae landlord yn mynnu cael mwy o flaendal nag arfer ar un eiddo am fod y tenant yn fenyw. Byddai hyn yn gwahaniaethu yn uniongyrchol ar sail rhyw, gan na ellir cyfiawnhau’r penderfyniad i drin y fenyw yn wahanol. Byddai’r landlord yn wynebu achos cyfreithiol o wahaniaethu ar sail rhyw.
Os ydych chi’n anabl ac yn rhentu eiddo, mae yna ddarpariaethau arbennig sy’n ymwneud â blaendal (yr arian rydych chi’n ei dalu i’r landlord pan fydd eich les yn cychwyn, ac a gewch yn ôl ar ddiwedd eich cyfnod yn yr eiddo os nad oes difrod wedi cael ei wneud i’r eiddo a’r cynnwys). Mewn amgylchiadau prin, gellir cyfiawnhau trin rhywun yn llai ffafriol wrth ad-dalu blaendal.
Os bydd yr eiddo neu’r cynnwys wedi cael eu difrodi, gallai’r landlord wrthod ad-dalu peth o’ch blaendal neu’r cyfan, hyd yn oed os yw’r rheswm dros y difrod yn ymwneud â’ch anabledd. Byddai’n rhaid i’r landlord ddangos bod hyn yn rhesymol dan bob amgylchiad, gan gynnwys dangos bod y difrod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau cadw arian yn ôl o’r blaendal fel rheol.
Back to top^
Gwneud addasiadau rhesymol i eiddo rhent
Mae diogelwch ychwanegol ar gael i bobl anabl sy’n rhentu, neu eisiau rhentu, eiddo. O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan landlordiaid neu reolwyr rhentu ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i’r eiddo. Fodd bynnag, rhaid i chi ofyn am yr addasiad.
Mae yna amgylchiadau prin<insert link to Gwneud addasiadau rhesymol i eiddo rhent: Gwahaniaethu cyfreithlon > lle nad yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i ddarpariaeth tai.
Back to top^
Cymhorthion a gwasanaethau ategol
Os ydych chi’n anabl ac yn rhentu eiddo, mae gan y landlord neu’r rheolwr rhentu ddyletswydd i ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol pe bai’r rhain yn caniatáu i chi, neu yn ei wneud yn rhwyddach i chi, fwynhau’r eiddo neu ddefnyddio unrhyw fudd neu gyfleuster mae gennych chi hawl i’w ddefnyddio fel rhan o rentu’r eiddo. Ond, dim ond pan fodlonir dau amod y mae’n gorfod gwneud hynny:
-
rhaid i’r cymhorthion neu’r gwasanaethau fod o ychydig werth neu’n ddiwerth i chi oni bai eich bod yn rhentu neu’n byw yn yr eiddo, a
-
byddai’n amhosibl, neu’n afresymol o anodd, i chi ddefnyddio neu fwynhau’r eiddo neu unrhyw fudd neu gyfleuster perthnasol mae gennych chi hawl i’w ddefnyddio heb y cymhorthion neu’r gwasanaethau.
Dyma rai enghreifftiau o gymhorthion a gwasanaethau ategol posibl yn cynnwys:
-
darparu dodrefn, celfi, deunyddiau neu offer, cael gwared arnynt neu osod rhai newydd
-
darparu arwyddion neu hysbysiadau neu osod rhai newydd
-
gosod tapiau neu handlenni drysau newydd
-
darparu neu addasu clychau drws neu systemau agor a chau drysau, neu osod rhai newydd
-
newid lliw arwyneb (megis wal neu ddrws).
Pan fydd nodweddion ffisegol yn ei gwneud hi’n amhosibl neu’n afresymol o anodd i unigolyn anabl ddefnyddio’r eiddo, mae gan landlordiaid ac asiantwyr rhentu ddyletswydd i ystyried eu newid neu gael gwared arnynt.
Mae nodweddion ffisegol yn cynnwys:
-
unrhyw nodwedd a ddaw yn sgil y ffordd y cynlluniwyd neu yr adeiladwyd yr eiddo
-
unrhyw nodweddion wrth agosáu at yr eiddo ac wrth fynd i mewn ac allan ohono
-
unrhyw osodiadau o fewn neu ar yr eiddo
-
unrhyw elfen neu ansawdd ffisegol arall i unrhyw dir sy’n rhan o’r eiddo.
Enghraifft
Mae landlord yn gwrthod gosod ramp cadair olwyn mewn bloc mawr o fflatiau, gan olygu na all tenant anabl ddefnyddio’r ardd gymunedol. Gallai hyn fod yn achos anghyfreithlon o wneud addasiad rhesymol.
Back to top^
Grant Cyfleusterau i’r Anabl
Os ydych chi’n anabl, neu os oes rhywun sy’n byw yn eich eiddo’n anabl, ac y byddwch chi neu nhw’n byw yn yr eiddo am y pum mlynedd nesaf, fe allech chi fod yn gymwys i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Bydd y grant hwn yn talu am gost addasu eich eiddo, neu ran o’r gost, er mwyn ei wneud yn hollol hygyrch. Eich incwm a’ch gwariant fydd yn pennu a ydych yn gymwys ar gyfer y grant.
Back to top^
Newid arferion, polisïau neu weithdrefnau
Os ydych chi’n anabl, gallwch chi ofyn i arfer, polisi neu weithdrefn gael ei newid os yw’n ei gwneud yn amhosibl, neu’n afresymol o anodd, i chi naill ai fwynhau’r eiddo neu ddefnyddio unrhyw fudd neu gyfleuster y mae gennych chi hawl i’w ddefnyddio fel rhan o rentu’r eiddo.
Back to top^
Newid amod mewn les
Os ydych chi’n anabl, gallwch ofyn i newid amod o’ch les sy’n ei gwneud yn amhosibl, neu’n afresymol o anodd, i chi fwynhau’r eiddo. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i’r amod beidio â chael yr un effaith pe na baech chi’n anabl.
Mae’r un peth yn wir am unrhyw fudd neu gyfleuster y mae gennych chi hawl i’w ddefnyddio fel rhan o rentu’r eiddo.
Back to top^
Gwahaniaethu cyfreithlon
Nid yw’r cyfyngiadau ar wahaniaethu wrth rentu eiddo’n berthnasol i ‘eiddo bach’. ‘Eiddo bach’ yw eiddo lle mae rhannau o’r llety (heb gynnwys mannau storio neu fynedfa megis cyntedd a rennir) yn cael ei rannu gyda’r perchennog, neu berthynas agos iddo ef neu hi, ac yntau’n byw yno ac yn bwriadu parhau i fyw yno.
Yn ôl y gyfraith, diffinnir y term ‘perthynas agos’ fel gŵr neu wraig, partneriaid sifil, rhieni, teidiau a neiniau, plant, wyrion, brodyr a chwiorydd, gan gynnwys hanner- a llysfrodyr a chwiorydd (gall y berthynas fod o ganlyniad i briodas, partneriaeth sifil neu fabwysiadu).
Back to top^
Gwahaniaethu ar sail anabledd
Nid yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol chwaith i ‘eiddo bach’ sy’n bodloni’r meini prawf uchod, os yw, neu oedd, yr eiddo yn unig gartref neu’n brif gartref i’r sawl sy’n ei osod. Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol os defnyddir gwerthwr tai i osod yr eiddo.
Gellir cyfiawnhau gwahaniaethu ar sail anabledd hefyd os yw’r unigolyn sy’n rhentu neu’n rheoli’r eiddo yn credu’n rhesymol mewn un o’r pwyntiau canlynol:
-
Mae angen gwahaniaethu er mwyn osgoi peryglu iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn (a allai gynnwys chi).
-
Nid ydych yn ddigon abl i arwyddo contract y gellir ei orfodi’n gyfreithiol, neu o roi caniatâd gwybodus, ac felly mae’r gwahaniaethu’n rhesymol yn yr achos hwn.
-
Lle mae’r gwahaniaethu’n ymwneud â’r ffordd y caniateir i chi ddefnyddio budd neu gyfleuster, mae angen hynny fel y gallwch chi, neu ddeiliaid eiddo arall sy’n ffurfio rhan o’r adeilad, ddefnyddio’r budd neu’r cyfleuster.
-
Lle mae’r gwahaniaethu’n ymwneud â gwrthod, neu beidio â chaniatáu i chi ddefnyddio budd neu gyfleuster, mae angen hynny fel y gall deiliaid eiddo eraill sy’n ffurfio rhan o’r adeilad ddefnyddio’r budd neu’r cyfleuster.
-
Gwahaniaethir er mwyn adfer costau a dalwyd wrth osod neu reoli’r eiddo oherwydd eich anabledd. Nid yw hyn yn cynnwys costau a gafwyd wrth wneud addasiadau rhesymol, ac nid yw’n caniatáu eich troi allan o’r eiddo.
Back to top^