English Language Version : Human rights and housing
Mae gennych chi nifer o hawliau dynol sy’n berthnasol i dai ac eiddo:
-
yr hawl i berchen, a mwynhau perchen, eiddo
-
yr hawl i barch tuag at eich bywyd preifat
-
yr hawl i barch tuag at eich bywyd teuluol, a’r
-
hawl i barch tuag at eich cartref.
Mae gennych chi’r hawl hefyd i beidio a dioddef gwahaniaethu o safbwynt unrhyw un o’r hawliau hyn. Os bydd awdurdod cyhoeddus yn gwahaniaethu yn eich erbyn trwy ymyrryd â’r hawliau hyn, fe allech chi ddwyn achos yn y llys. Gweler yr adran ar hawliau dynol am fwy o fanylion.
Efallai bod gennych chi hawliau cyfreithiol preifat hefyd, y gellid eu defnyddio i rwystro poendod, megis cerddoriaeth uchel tu hwnt yn ystod y nos. Mae’r hawliau hyn y tu allan i gylch gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Efallai bod eich awdurdod lleol yn gyfrifol am ymdrin â mathau arbennig o boendod, megis poendod sŵn. Dylech chi gysylltu â nhw’n gyntaf i weld sut gallant eich helpu.
Os oes gennych chi broblem sy’n ymwneud â’ch eiddo, gallech chi ystyried mynd at un o’r canlynol: