English Language Version : Housing provided by social landlords
Ni all landlordiaid cymdeithasol, sy’n cynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a darparwyr llety gwarchod, wahaniaethu’n anghyfreithlon yn y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau. Rhaid i chi fodloni gofynion penodol er mwyn bod yn gymwys i gael un o’r tai cymdeithasol a ddarperir gan y landlordiaid hyn. Mae gan bawb sy’n byw yn yr ardal yr hawl i gael asesiad o’r fath, a’r awdurdod lleol sy’n ei gynnal fel arfer.
Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn ymgeisio am dy cymdeithasol. Er enghraifft, efallai eu bod yn byw mewn perthynas treisgar. Efallai y bydd angen iddynt symud cartref er mwyn dianc rhag y sawl sy’n eu cam-drin. Mewn achosion o’r fath, mae nifer o bobl yn gofyn i’r awdurdodau lleol asesu eu hawl i gael tŷ cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth am awdurdodau cyhoeddus a’u dyletswyddau cyfreithiol i ymdrin â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb.
Mwy o wybodaeth am sut gall sefydliadau tai cyhoeddus eich helpu i chwilio am rhywle i fyw.