English Language Version : Eviction and harassment
Os ydych chi’n denant sy’n byw mewn eiddo rhent, neu’n berchennog sy’n byw yn eich eiddo eich hunan, mae gennych chi’r hawl i fyw ynddo heb gael eich aflonyddu.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i denantiaid cael eu troi allan mewn amgylchiadau arbennig - er enghraifft, lle’r ydych chi mewn dyled gyda’r rhent neu lle’r ydych chi wedi torri amod arall o’ch cytundeb tenantiaeth. Fodd bynnag, rhaid i unigolion dilyn proses gyfreithiol wrth droi tenantiaid allan. Os oes rhywun yn bygwth eich troi allan, mae gennych chi’r hawl i gael diogelwch cyfreithiol.
Rhaid i landlordiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ac, yn y rhan fwyaf o achosion, landlordiaid preifat, ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol penodol os ydynt am eich troi allan.
Enghraifft
Mae tenant tŷ wedi cael gwybod yn ddiweddar fod ganddo AIDS. Mae ei landlord yn rhoi wythnos o rybudd iddo adael y tŷ, er nad yw’n hwyr yn talu’r rhent nac wedi torri unrhyw amod o’i denantiaeth. Mae hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon.
Os ydych chi’n byw mewn cartref rhent a bod y landlord yn gwneud rhywbeth sy’n ymyrryd â’ch hawl i fyw yno er mwyn ceisio’ch gorfodi i adael, gallai hyn gael ei ystyried yn aflonyddu. Mae enghreifftiau o aflonyddu’n cynnwys ymosodiad geiriol neu gorfforol, difrodi eich eiddo a bygythiadau ysgrifenedig.
Gall aflonyddu fod yn drosedd hefyd. Os bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn eich erbyn, neu eich bod yn poeni y bydd trais yn cael ei ddefnyddio, dylech chi gysylltu â’r heddlu.
Mae’n gallu bod yn anodd gweithredu ar ôl i chi gael eich troi allan, felly mae’n bwysig i gael cyngor cyn gynted â bod y landlord yn dweud wrthych chi eich bod yn mynd i gael eich troi allan.
Mwy o wybodaeth am aflonyddu a throi allan.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i ymdrin ag aflonyddu yn erbyn eu tenantiaid ar sail hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd neu gred y tenant (neu unrhyw aelod o’r aelwyd). Gallai hyn gynnwys symud y teulu neu droi’r aflonyddwyr allan os ydyn nhw’n denantiaid i’r awdurdod lleol hefyd.
Bydd gan landlordiaid cymdeithasol eraill gymalau gwrth-aflonyddu yn eu cytundebau tenantiaeth a byddant yn ymdrin ag aflonyddu mewn ffordd debyg i’r awdurdodau lleol.
Dylai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys amodau sy’n eich gwahardd chi, aelodau o’ch aelwyd a’ch ymwelwyr rhag ymddwyn mewn ffyrdd a allai gael eu hystyried yn aflonyddu neu fathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r un peth yn wir am denantiaid eraill eich landlord. Gallech chi gael eich troi allan am dorri’r amodau hyn.
Er mwyn helpu eich landlord cymdeithasol i ymdrin ag aflonyddu, dylech chi roi gwybod i’ch swyddog tai am unrhyw ddigwyddiad, a bydd ef neu hi yn gallu rhoi cyngor i chi am beth all ei wneud.
Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswyddau cyfreithiol cyffredinol a phenodol i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl. Mae’n anghyfreithlon i landlord awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth gweithredu tai eich troi allan neu aflonyddu arnoch ar sail anabledd neu broblem iechyd sydd gennych. Er enghraifft, ni allant:
-
wrthod gadael i chi gadw ci tywys neu unrhyw gi cymorth arall
-
codi mwy o rent arnoch neu wneud i chi dalu mwy o flaendal na thenantiaid eraill
-
cynnwys amodau yn eich cytundeb tenantiaeth na chânt eu cynnwys mewn cytundeb rhywun sydd ddim yn anabl
-
gwneud i chi aros yn hirach ar restr aros cyngor neu gymdeithas tai am fod gennych chi anabledd
-
rhoi tenantiaeth lai diogel i chi nag y byddent wedi ei rhoi os na fyddech chi’n anabl.
Bydd rheolau tebyg yn berthnasol i gymdeithasau tai a reolir gan yr Housing Corporation.
Enghraifft
Mae perchennog safle lle mae grŵp o deithwyr Gwyddelig yn byw yn diffodd cyflenwad dŵr y safle yn fwriadol, gyda’r bwriad o’u hannog i adael eu carafannau neu adael y safle.
Mae teithwyr Gwyddelig yn grŵp hiliol a ddiogelir o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae perchennog y safle’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail hil a gallai’r perchennog wynebu achos llys am aflonyddu hiliol.