English Language Version : Hotels, hostels, bed and breakfasts
Mae gwestai, hostelau a B&Bs (llety ‘gwely a brecwast’) yn gyfleusterau a gynigir i’r cyhoedd. Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n darparu llety o’r fath wahaniaethu yn eich erbyn ar sail hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred. Nid yw gwahaniaethu ar sail oedran yn anghyfreithlon ar hyn o bryd wrth ddarparu gwasanaeth.
Mae hyn yn cynnwys y meysydd canlynol:
Enghraifft
Mae perchennog gwesty gwely a brecwast yn gwrthod gadael i gwpwl o’r un rhyw aros yno pan fyddant yn holi am ystafell.
Mae hyn yn gwahaniaethu yn uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Gallai’r perchennog wynebu achos cyfreithiol.
Enghraifft
Mae dyn Sikh o dras Indiaidd yn archebu ystafell mewn llety gwely a brecwast. Ar ôl cyrraedd, mae’r derbynnydd yn dweud wrtho nad yw’r ystafell ar gael bellach. Mae’n ei gyfeirio at westy gerllaw. Pan mae’n dechrau holi mwy, mae’r derbynnydd yn dweud wrth y dyn nad yw’r perchennog yn hoffi cael pobl Asiaidd yn aros yno am y gallent fod yn derfysgwyr.
Mae hyn yn gwahaniaethu yn uniongyrchol ar sail hil yn erbyn y dyn. Mae perchennog y gwesty wedi rhoi cyfarwyddyd anghyfreithlon i’w staff hefyd wahaniaethu, a gallai wynebu achos cyfreithiol am hyn. Mae hefyd yn gwahaniaethu yn anghyfreithlon ar sail crefydd, a gallai’r perchennog wynebu achos cyfreithiol oherwydd hyn hefyd.
Nid yw eich hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail eich rhyw wrth ddefnyddio gwesty, hostel neu lety tebyg yn berthnasol mewn llety cymunedol.