Pan fo gwahaniaethu yn gyfreithiol
Mae yna rhai amgylchiadau penodol pan ei bod yn gyfreithiol i wahaniaethu wrth ddarparu gofal cymdeithasol a iechyd.
On this page
Llety un rhyw mewn ysbytai
Mae bod gyda chleifion eraill o’r un rhyw yn bwysig iawn o ran preifratwydd ac urddas.Mae’n ofynnol ar ysbytai GIG i ddarparu llety un rhyw i gleifion mewnol. Erbyn heddiw, mae tua 97% o ymddiriedolaethau GIG yn bodloni’r safonau a bennwyd gan yr Adran Iechyd o ran llety un rhyw.
Back to top^
Gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer grŵp penodol
Mae’n gyfreithlon darparu gwasanaethau neu gyfleusterau i bobl o grŵp hiliol penodol er mwyn bodloni gofynion penodol o ran addysg, hyfforddiant neu les. Mae awdurdod iechyd ardal yn darparu adnoddau i ganolfan sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth sgrinio anaemia cryman-gell a thalasaemia i bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd, Asiaidd a gwledydd Môr y Canoldir sy’n fwy tebygol o ddioddef o’r anhwylderau hyn yn ôl yr ystadegau.
Back to top^
Pobl â phroblemau seiciatrig
Mae’n bosibl gorfodi pobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu Deddf Iechyd Meddwl (Gofal ac Amddiffyn) (Yr Alban) 2003 i dderbyn triniaeth. Mae Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl yn amddiffyn cleifion sy’n analluog i roi caniatâd i gael triniaeth.
Back to top^
Mabwysiadu plant
Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail hil. Sut bynnag, mae’n gyfreithlon o hyd i awdurdodau lleol ymgeisio cartrefu plant maeth gyda gofalwyr o’r un gwreiddiau ethnig.
Back to top^
Gwasanaethau maethu
Mae Rheoliadau Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn rhoi’r hawl i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a heterorywiol beidio â dioddef gwahaniaethu wrth dderbyn a defnyddio nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau maethu a mabwysiadu. Er hynny, mae asiantaethau mabwysiadu sy’n seiliedig ar ffydd wedi cael cyfnod pontio i addasu, cyn gorfod cydymffurfio â’r rheoliadau hyn erbyn diwedd mis Mai 2008.
Yn y cyfamser, mae’n rhaid i unrhyw asiantaeth fabwysiadu neu faethu seiliedig ar ffydd gyfeirio cyplau o’r un rhyw at asiantaethau eraill a allai eu helpu.
Ym mhob achos, lles y plentyn sy’n hollbwysig wrth benderfynu lle i’w roi i gael ei fabwysiadu neu ei faethu.
Back to top^