Adborth a chwynion 

 

English Language Version : Giving feedback and making complaints

 

Os ydych chi’n teimlo bod darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol wedi gwahaniaethu neu eich trin chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn annheg, dylech drafod y mater gyda’r darparwr gofal iechyd yn y lle cyntaf. Gallech anfon sylwadau ysgrifenedig fel bod cofnod o’ch cwyn.

Gallwch roi ymateb neu adborth mewn arolygon cleifion, neu fforwm cleifion (bydd Local Involvement Networks yn disodli’r rhain yn Lloegr yn 2008).

O dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, mae’n ofynnol i sefydliadau’r GIG ymgynghori â phobl anabl ynglŷn â’r gwasanaethau gofal iechyd, a sut maent yn cael eu cynllunio a’u darparu. O dan ddyletswyddau awdurdodau cyhoeddus sy’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a rhywiol, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG hefyd ymgynghori â phobl o leiafrifoedd ethnig, a chyda dynion a menywod, i asesu effaith neu effaith bosibl, unrhyw bolisïau ac arferion newydd a diwygiedig.

On this page

 

Lloegr

Os ydych chi’n anhapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, gallwch ofyn i’r Comisiwn Gofal Iechyd gynnal ‘adolygiad annibynnol’ o’ch achos. Efallai y bydd y Patient Advisory Liaison Service lleol yn gallu cynnig cymorth.

Os ydych chi’n dal yn anhapus ar ôl mynd drwy’r gweithdrefnau cwynion lleol a’r adolygiad annibynnol, gallwch gwyno hefyd wrth yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.


Back to top^  

Cymru

Os ydych chi’n anhapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, gallwch ofyn i’r  Ysgrifenyddiaeth Adolygiad Annibynnol gynnal ‘adolygiad annibynnol’. Efallai y bydd eich Cyngor Iechyd Cymuned yn gallu’ch helpu chi.


Back to top^  

Yr Alban

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn gwbl annibynnol o’r GIG a’r llywodraeth. Mae’r ombwdsmon yn gallu ymchwilio i gwynion am y GIG ac am ddarparwyr gofal iechyd preifat os cafodd y driniaeth ei hariannu gan y GIG.

Mae’r Mental Welfare Commission yn ymdrin â chwynion yn ymwneud â thriniaeth iechyd meddwl, sef awdurdod cyhoeddus a sefydlwyd i warchod buddiannau cleifion iechyd meddwl. Mae’n gallu ymchwilio i gwynion ynglŷn â defnyddio pwerau cyfreithiol mewn ysbytai iechyd meddwl a chartrefi nyrsio, a gallai helpu drwy system gwynion y GIG.


Back to top^  

Beth nesaf?

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef achos o wahaniaethu ar ôl  darllen y manylion uchod, a’ch bod eisiau gwybod mwy am eich hawliau o dan y ddeddf, darllenwch ‘Sut i ddefnyddio'ch hawliau’ ar ein gwefan i ddysgu sut gallwch chi herio achos o wahaniaethu anghyfreithlon.


Back to top^