Cael eich trin gyda pharch  

 

English Language Version : Being treated with respect 

 

 

Dylech gael eich trin yn deg a pharchus bob amser wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, beth bynnag fo’ch amgylchiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan rydych chi’n teimlo’n sâl neu’n dibynnu ar weithredoedd neu ofal pobl eraill; er enghraifft staff yr ysbyty neu gynhalwyr mewn cartref.

Mae gennych chi bob hawl i gael eich trin yn gywir a chyda pharch wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, boed fel claf neu gynhaliwr. Mwy o wybodaeth am enghreifftiau posibl o gam-drin neu esgeulustod mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol.

Enghraifft

Roedd dyn gydag anableddau dysgu yn byw mewn cartref gofal preswyl. Roedd yn aml yn cael ei glymu wrth ei wely neu’r gadair olwyn am 16 awr ar y tro, i’w atal rhag anafu ei wyneb a’i ben. Byddai sefyllfa fel hon yn torri ar ei hawl i beidio â chael ei drin mewn modd annynol neu ddiraddiol.

Fel awdurdod cyhoeddus, mae gan y GIG gyfrifoldebau cyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu yn y ffordd y mae’n cynnig gwasanaethau a thriniaethau. Mwy o wybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol awdurdodau cyhoeddus.

On this page

 

Preifatrwydd a chyfrinachedd

Mae gan bob claf yr hawl i breifatrwydd a chyfrinachedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, waeth beth fo’i amgylchiadau personol. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc o dan 16 oed a phobl anabl. Os ydych chi’n anabl, ac angen rhywun yn ystod y driniaeth i esbonio pethau i chi, fel eiriolwr, cynhaliwr, neu ddehonglydd iaith arwyddion, yna dylid caniatáu hyn. Yn yr un modd, dylid parchu’ch hawl i beidio â chael rhywun arall yn bresennol hefyd.


Back to top^  

Cael eich trin fel unigolyn

P’un a ydych yn defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, neu p’un a ydych chi’n anabl ai peidio, dylech gael eich trin fel unigolyn bob amser wrth gael triniaeth. Dylai darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol siarad yn uniongyrchol gyda chi fel claf bob amser, oni bai eich bod chi wedi gofyn iddynt gyfathrebu gydag eiriolwr neu rywun wedi’i enwebu sydd hefyd yn bresennol. Dylent ddefnyddio iaith glir a syml, heb fod yn nawddoglyd.

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi’r hawl i chi gael rhyddid o ran meddwl, cydwybod a chrefydd, a’r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol. Er enghraifft, gall fod yn anghyfreithlon i awdurdodau cyhoeddus fel ysbytai, eich atal rhag arddel eich crefydd - yn gyhoeddus neu’n breifat - gan gynnwys dilyn gofynion deietegol. Mae’r Ddeddf hefyd yn amddiffyn credoau eraill ar wahân i grefydd, fel feganiaeth neu heddychiaeth. Er hynny, dylech nodi mai hawl amodol ac nid un ddiamod yw hon.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau dynol yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol.

Enghraifft

Mae ysbyty wedi addo aildrefnu ward gymysg fel bod dynion un pen a menywod y pen arall. Ond ni wnaeth hyn, ac roedd menyw Iddewig Uniongred yn pryderu’n fawr iawn am orfod rhannu ward gyda dynion. Gall sefyllfa fel hon dorri’r hawl ddynol i barchu bywyd preifat rhywun. Gall hefyd fod yn enghraifft o wahaniaethu ar sail crefydd a chred wrth ddarparu gwasanaethau.


Back to top^