Mynediad i wasanaethau, triniaeth a chymorth
English Language Version: Access to services, treatment and support
Ni chaiff sefydliadau a phobl sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wahaniaethu’n anghyfreithlon wrth ddarparu gwasanaethau i chi ar sail eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau sy’n awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys sefydliadau’r GIG, gyfrifoldeb cyfreithiol ychwanegol i gymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo cydraddoldeb. Mwy o wybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol awdurdodau cyhoeddus.
Enghraifft
Mae meddyg teulu mewn practis ar y cyd yn cyfeirio’r holl gleifion croenddu at feddyg croenddu, a hynny oherwydd lliw eu croen nid eu hanghenion penodol. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil.
Gellir cyfiawnhau achos o wahaniaethu mewn rhai amgylchiadau. Mwy o wybodaeth am wahaniaethu cyfreithlon.
O dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, mae’n rhaid i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wneud addasiadau rhesymol fel y gall cwsmeriaid ag anableddau ddefnyddio eu gwasanaethau.
On this page
Codau ymarfer gofal cymdeithasol
Yn Lloegr, y General Social Care Council sy’n gyfrifol am amddiffyn defnyddwyr gwasanaethau, eu cynhalwyr a’r cyhoedd yn well trwy reoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau bod gan y sector gofal cymdeithasol safonau o’r radd flaenaf. Mae wedi datblygu codau ymarfer ar gyfer pawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol sy’n cynnwys gwybodaeth ar amddiffyn hawliau a hybu buddiannau defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr. Cyngor Gofal Cymru sy’n gwneud y gwaith hwn yng Nghymru.
Yn yr Alban, mae’r SSSC (Scottish Social Services Council) yn gyfrifol am gofrestru pobl sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol a rheoleiddio eu haddysg a hyfforddiant. Ei swyddogaeth yw amddiffyn pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol yn well, codi safonau ymarfer a chynyddu hyder y cyhoedd yn y sector.
Pan fo gweithiwr cymdeithasol yn gwneud cais i gofrestru gyda’r SSSC, rhaid iddo ef neu hi gytuno i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, sy’n cyflwyno ymddygiad disgwyliedig gweithwyr cymdeithasol a’r safonau y gall pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol a’r cyhoedd eu disgwyl. Mae’r SSSC yn gallu ymchwilio i ymddygiad gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig.
Wedi i’r SSSC dderbyn honiad o gamymddwyn, bydd yn ystyried a yw hi’n addas i’r gweithiwr cymdeithasol barhau i fod ar y gofrestr.
Back to top^
Iechyd meddwl
Mae gofalu bod pobl yn cael yr un cyfle i gael gofal iechyd meddwl yn gryn her. Efallai nad yw defnyddwyr y gwasanaethau hyn yn gallu mynegi eu safbwyntiau mor glir ag eraill, neu ddweud eu bod yn anhapus gyda’r driniaeth neu’n teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eu herbyn. Os ydych chi’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, gallech fod yn berson anabl yn ôl y diffiniad cyfreithiol. Er hynny, ni ddylai darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gymryd eich bod chi wedi’ch cynnwys dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 wrth benderfynu ynglŷn â’ch anghenion, neu ddarparu cyfleusterau i chi. Gall dyletswyddau cyfreithiol eraill ddisodli dyletswyddau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Mewn achosion lle mae’r rhywun yn dioddef problem iechyd meddwl difrifol, a bod y meddyg neu glinigwr arall yn penderfynu y dylid ei gadw neu ei drin yn erbyn ei ewyllys, mae hyn yn enghraifft amlwg o ymyrryd â hawliau dynol yr unigolyn. Efallai bod modd cyfiawnhau hynny, neu ei fod yn angenrheidiol, oherwydd bod y penderfyniad i gadw neu drin rhywun nid yn unig â’r unigolyn dan sylw, ond hefyd â’r perygl y gall achosi iddo ef neu hi ei hun neu i bobl o’i gwmpas.
Mae penderfyniadau ynghylch cadw neu drin cleifion sy’n dioddef anhwylder meddyliol neu ddiffyg gallu, yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Deddf Iechyd Meddwl 2007, Deddf Oedolion ag Analluogrwydd (Yr Alban) 2000, a Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003. Mae’r rhain y tu hwnt i gylch gorchwyl y Comisiwn Cyfle Cyfartal a Hawliau Dynol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am faterion iechyd meddwl trwy gysylltu ag un neu fwy o’r sefydliadau elusennol canlynol:
Mental Health Foundation
http://www.mentalhealth.org.uk/
MIND
http://www.mind.org.uk/
Rethink Severe Mental Illness
http://www.rethink.org/
The Sainsbury Centre for Mental Health
http://www.scmh.org.uk/
Scottish Association for Mental Health (SAMH)
http://www.samh.org.uk/frontend/index.cfm
SANE
http://www.sane.org.uk
Young Minds
http://www.youngminds.org.uk/
Office of the Public Guardian
http://www.publicguardian-scotland.gov.uk/
Mental Welfare Commission for Scotland
http://www.mwcscot.org.uk
Back to top^
Gwneud addasiadau rhesymol
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol wneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw rwystrau – ffisegol neu fel arall – a allai ei gwneud hi’n anodd i bobl anabl ddefnyddio eu gwasanaethau neu eu rhwystro rhag eu defnyddio’n gyfan gwbl.
Addasiadau i nodweddion ffisegol
Mae’n rhaid i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol wneud addasiadau rhesymol i adeiladau fel meddygfeydd, ysbytai neu glinigau trwy newid neu gael gwared ar nodweddion ffisegol sy’n ei gwneud hi’n anodd neu’n amhosibl i bobl anabl ddefnyddio eu gwasanaethau. Gallai hyn gynnwys:
-
grisiau
-
ymylon pafin
-
arwynebau a phalmentydd
-
lleoedd parcio
-
mynedfeydd ac allanfeydd (gan gynnwys dihangfeydd brys)
-
drysau a giatiau
-
toiledau a chyfleusterau ymolchi
-
lifftiau a grisiau symudol.
Hyd y gellir, dylai’r addasiadau olygu bod gwasanaethau yr un mor hwylus a hygyrch i bobl anabl ag y maent i aelodau eraill o’r cyhoedd.
Enghraifft
Mae ysbyty’n trefnu bod arbenigwr yn cyfarfod â rhywun sy’n ei chael yn anodd cerdded mewn lleoliad yn nes at fynedfa’r ysbyty.
Cymhorthion a gwasanaethau ategol
Mae gwneud addasiadau rhesymol hefyd yn gallu golygu rhoi cymhorthion ategol neu newid y dull o gyflwyno gwasanaethau fel eu bod yn fwy hygyrch i bobl anabl. Bydd disgwyl i sefydliadau mawr wneud mwy na rhai llai; er enghraifft, efallai y bydd disgwyl i ysbytai osod dolenni sain yn y dderbynfa, lle gallai meddygfeydd teulu llai brynu dolen sain gludadwy er mwyn i’r meddyg neu dderbynnydd eu gwisgo fel bo’r angen.
Enghraifft
Mae deintyddfa yn cadw cofnod o gleifion â nam ar y clyw. Bydd staff y dderbynfa’n gallu mynd yn uniongyrchol at y bobl hyn i ddweud bod y deintydd yn barod i’w gweld, yn hytrach na galw eu henwau’n unig.
Addasiadau i bolisïau a gweithdrefnau
Mae gan ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddyletswydd i fonitro eu polisïau a’u gweithdrefnau fel bod eu gwasanaethau a’r driniaeth i bobl anabl yn hygyrch. Gall hyn olygu rhoi cyfle i bobl drefnu apwyntiad mewn ffyrdd gwahanol; er enghraifft trwy ffonio, anfon e-bost neu neges testun, ac yn bersonol. Gall hefyd olygu sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion pobl anabl.
Enghraifft
Nid yw meddygfa yn caniatáu anifeiliaid anwes yn yr adeilad, ond mae’n newid ei pholisi i adael i bobl ddod i mewn gyda’u cŵn cymorth.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau mynediad os ydych chi’n anabl.
Back to top^
Rhestrau aros
Mae rhestrau aros yn rhan gyffredin o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac nid ydynt fel arfer yn golygu gwahaniaethu anghyfreithlon, oni bai eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall mewn amgylchiadau tebyg dim ond oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol.
Enghraifft
Mae menyw yn ffonio i drefnu apwyntiad wroleg gyda’i hysbyty lleol. Mae’r ysbyty’n dweud wrthi mai dim ond apwyntiad i ddynion sydd ar gael am y tro, ac felly’n mae’n cael ei rhoi ar restr aros.
Os mai’r rheswm am hyn yw nad oes gan yr wrolegydd sy’n arbenigo mewn trin dynion, y cymwysterau angenrheidiol neu’r arbenigedd i drin menywod am ei fod yn arbenigedd gwahanol, a bod gan yr wrolegydd sy’n trin menywod restr aros gwahanol, yna gall fod cyfiawnhad dros benderfyniad yr ysbyty.
Ond, os nad oes gwahaniaeth o ran trin dynion a menywod, a dim rhestr aros ar wahân, yna gallai hyn fod yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw.
Back to top^
Triniaeth
Ni chaiff darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol wahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol wrth benderfynu pa fath o driniaeth i’w rhoi i chi fel claf. Mae’r rhan hon yn trin a thrafod:
-
eich hawliau chi wrth dderbyn triniaeth mewn cyd-destunau gwahanol
-
eich dewisiadau o ran y math o driniaeth a dderbyniwch
-
y sefyllfaoedd lle gallech gael gwrthod triniaeth, neu lle gellir dod â’r driniaeth i ben.
Enghraifft
Mae clinig yn gwrthod cynnig gwasanaethau ffrwythlondeb i ddwy fenyw lesbaidd am nad ydynt yn gwpwl heterorywiol. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Ymreolaeth a thriniaeth feddygol
Os ydych chi, fel claf, yn alluog i wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch triniaeth eich hun, yna mae gennych hefyd yr hawl i wrthod unrhyw driniaeth arfaethedig, hyd yn oed pe gallai hyn arwain at eich marwolaeth. Er hynny, ni all meddyg (neu unrhyw un arall) roi triniaeth gyda’r bwriad o ddod â bywyd claf i ben, hyd yn oed os dyna ddymuniad y claf, a’i fod yn alluog i wneud y penderfyniad hwnnw. Bydd hyn yn gyfystyr â thorri’r gyfraith.
Ceir dadl bod y ddeddf hon yn gwrthdaro â’r hawl i fyw, ac y dylai rhywun sydd â’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniad gwybodus i farw, ond sy’n rhy wael i allu cyflawni hunanladdiad, gael cymorth i wneud hynny gan feddygon neu aelodau’r teulu heb i’r bobl hyn orfod torri’r gyfraith. Mae Llys Cyfiawnder Dynol Ewrop wedi gwrthod y ddadl hon, gan farnu nad yw’r hawl i fyw yn rhoi’r hawl i farw.
Weithiau, mae staff meddygol yn ystyried bod claf bron â marw, neu fod ansawdd eu bywyd yn eithriadol o wael. Mewn amgylchiadau o’r fath, gallant ystyried rhoi nodyn ‘Do not resuscitate’ (DNR) ar ffeil y claf. Mae hyn yn golygu na fydd y staff meddygol yn cymryd y camau arferol i’w adfer os bydd y claf yn peidio ag anadlu, neu ei galon yn peidio â churo.
Os bydd rhywun yn cyflwyno gorchymyn DNR heb eich caniatâd chi, yna mae hynny’n torri’r gyfraith o ran eich hawl i fyw. Mewn achosion lle nad ydych chi’n alluog i roi caniatâd, dylid ystyried beth sydd orau i chi. Os oes unrhyw anghytuno neu wrthdaro, fel rhwng meddygon a’r teulu, yna gallai’r llys ystyried y mater.
Mewn achosion cyfyngedig iawn, gellir rhoi’r gorau i roi triniaeth i glaf pe byddai parhau â hynny yn gwbl ofer; er enghraifft, pe bai mewn cyflwr disymud heb unrhyw bosibilrwydd realistig o wella. Eto, mae angen ystyried beth sydd orau i’r claf, a bydd llawer o’r achosion hyn yn cael eu hystyried gan y llysoedd.
Mae ‘blaengyfarwyddebau’ neu ‘ewyllysiau byw’, yn eich galluogi i benderfynu pa driniaeth rydych yn dymuno, neu ddim yn dymuno ei chael, pe baech chi’n colli’r gallu i wneud penderfyniadau ynglyn â’ch triniaeth. Byddant yn gytundebau gorfodol ar ôl bodloni rhai gofynion cyfreithiol. Hyd yn oed os nad yw’r blaengyfarwyddeb yn gyfreithiol ddilys yn dechnegol, dylid ei chadw mewn cof wrth ystyried beth sydd orau i chi fel claf.
Rhoi triniaeth feddygol
Mae’r mater o ba driniaeth ar gyfer pa gleifion ddylid ei hariannu o goffrau cyfyngedig y GIG yn bwnc llosg ar hyn o bryd. Y sefyllfa gyffredinol yw na all claf orfodi meddyg i roi triniaeth y mae’n dymuno ei chael, os nad yw’r meddyg yn meddwl fod y driniaeth honno’n un briodol. Er hynny, mae mwy a mwy o gyffuriau drudfawr ar gael ar gyfer cyflyrau cronig sy’n peryglu bywydau; cyffuriau nad ydynt yn cael effaith negyddol ond a allai wneud rhyw gymaint o les. Mae hyn wedi arwain at wrthdaro - sef i ba raddau y mae gan rywun ‘hawl i gael triniaeth’ pan fo triniaeth feddygol briodol ar gael.
Wrth benderfynu pa gleifion ddylai gael triniaeth benodol, rhaid i sefydliadau’r GIG ystyried sut mae sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb.
Enghraifft
Mewn achos diweddar, daeth yr Uchel Lys i’r casgliad nad oedd canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (sy’n rhoi canllawiau cyffredinol sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr) ar ddefnyddio meddyginiaeth i gleifion ag achos cymhedrol o glefyd Alzheimer yn cydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol y sefydliad i beidio â gwahaniaethu. Nid oedd y canllawiau yn mynd i’r afael â sefyllfa cleifion ag anableddau dysgu, neu gleifion nad oeddynt yn rhugl iawn yn y Saesneg.
Oherwydd hyn, nid oedd y profion safonol ar gyfer asesu pa mor ddifrifol yw’r dementia yn debygol o gynhyrchu canlyniadau dibynadwy.
Roedd hyn o bosibl yn gwahaniaethu yn erbyn grwpiau o gleifion oherwydd eu bod yn llai tebygol o gael eu trin â chyffur penodol.
Rhoi’r gorau i driniaeth yn sgil alltudio’r claf
Mae’r llysoedd wedi penderfynu y byddai’n anghyfreithlon alltudio unigolyn nad yw’n Brydeiniwr ar sail ei record droseddol, pe bai hynny’n golygu ei atal rhag cael triniaeth feddygol a allai achub ei fywyd, ac y mae ef/hi yn ei derbyn wrth fyw yn y DU.
Er hynny, bu unigolyn arall yn fwy aflwyddiannus mewn achos tebyg (nid troseddwr, ond ceisiwr lloches aflwyddiannus) oherwydd nad oedd ar fin marw, ac y gallai barhau i fyw’n iach am ddegawdau gyda thriniaeth.
Triniaeth wael mewn lleoliad meddygol neu ofal
Gall achos o gam-drin neu esgeulustod mewn lleoliad meddygol neu ofal dorri amodau Erthygl 3 Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop (yr hawl i beidio â chael eich arteithio na chael eich cosbi na’ch trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol). Er hynny, rhaid eich bod wedi’ch trin yn ddifrifol er mwyn defnyddio Erthygl 3. Nid yw methu â chyrraedd y safonau y mae’r trigolion neu eu teuluoedd yn dymuno eu cael, neu fethu â dilyn yr ‘arferion gorau’ yn debygol o fod yn gyfystyr â thorri amodau Erthygl 3.
Dyma enghreifftiau o achosion lle gall rhywun dorri Erthygl 3 o bosibl:
-
atal rhywun yn gorfforol (er bod hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau)
-
gadael claf yn ei fudreddi ei hun am gyfnod hir
-
atal neu wrthod bwyd neu ddŵr
-
atal neu wrthod yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau ystafell ymolchi neu doiledau.
Hyd yn oed os nad awdurdod lleol sy’n darparu’r gofal (sy’n golygu na all yr unigolyn herio’r darparwr gofal o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998), efallai bod gan yr awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i arolygu’r darparwr gofal ac archwilio safon y gofal a ddarperir. Os nad yw’r awdurdod yn methu atal achos o gam-drin hawliau dynol, gall hyn olygu cam-drin pellach a gallai’r unigolyn gymryd camau i herio’r methiant hwn.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd neu gred wrth roi triniaeth mewn lleoliad meddygol neu ofal.
Enghraifft
Mae staff cartref nyrsio yn cam-drin ac yn aflonyddu ar rai o’r trigolion am eu bod yn Asiaid. Mae hyn yn enghraifft o gam-drin uniongyrchol ar sail hil.
Back to top^
Gofal preswyl
Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal preswyl, dyna’ch cartref chi, ac felly gall Erthygl 8 Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol) fod yn berthnasol i’r trefniadau sy’n ymwneud â’ch bywyd.
Mae hyn yn golygu y gallai’r canlynol fod yn torri’ch hawliau dynol os ydych chi’n byw mewn cartref gofal preswyl:
-
Penderfyniad i gau safle sydd wedi bod yn gartref i chi am gyfnod.
-
Penderfyniad i’ch symud i safle preswyl ar wahân i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, lle mae’n anodd i chi ddod i gysylltiad â’ch gilydd.
-
Penderfyniad i’ch symud i safle lle mae’n anodd i chi gadw mewn cysylltiad â’ch teulu a ffrindiau.
Nid yw hawliau Erthygl 8 yn rhai diamod, ac felly ni fyddai’r un o’r enghreifftiau uchod o anghenraid yn anghyfreithlon. Wrth ystyried beth sy’n gyfreithlon, bydd rhai cwestiynau yn hanfodol, er enghraifft pa drefniadau ymarferol eraill y gellid eu gwneud, ac i ba raddau y trafodwyd y mater gyda chi a pha gyfle a gawsoch i gyfrannu at y penderfyniad.
Mewn dyfarniad a roddwyd yn 2007, fe benderfynodd Tŷ’r Arglwyddi nad yw cartref gofal preifat sy’n rhoi llety i’r henoed yn rhwym wrth Gonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wrth roi gofal o’r fath ar ran awdurdod cyhoeddus.
Nid yw Erthygl 8 yn rhoi’r hawl i gael cartref neu ofal wedi’i ariannu. Er hynny, mae egwyddorion hawliau dynol wedi chwarae rhan bwysig wrth bennu’r gyfraith sy’n ymwneud ag ariannu gofal preswyl. Yn y flwyddyn 2000, daeth y Llys Apêl i benderfyniad pwysig iawn o ran pennu cyfrifoldebau awdurdodau lleol a’r GIG wrth ddarparu gofal preswyl. Mae hwn yn benderfyniad hanfodol gan fod y GIG yn darparu gofal ddim i’r derbynnydd, lle byddai gofal gan awdurdodau lleol fel arfer yn destun prawf modd. Mae llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i roi gofal personol am ddim i’r henoed.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau tai.
Back to top^