Cyflog a buddion
Os ydych chi’n gwneud yr un gwaith â rhywun arall, mae gennych hawl i dderbyn yr un tâl â nhw.
Nid eich cyflog sylfaenol yn unig yw’r tâl hwn. Dylech chi gael yr un buddion eraill yn y gwaith hefyd, fel:
Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal <link to section about that legislation> yn ymwneud yn benodol â chyflog cyfartal rhwng dynion a menywod.
Fodd bynnag, os bydd cyflogwr yn talu llai o gyflog i rywun am wneud gwaith tebyg, neu’n gwrthod rhoi buddion iddo y mae gweithwyr cyfatebol yn eu cael, oherwydd ei oedran, rhyw, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol, gallai fod yn gwahaniaethu anghyfreithlon.
On this page
Cyfraddau cyflog
Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn dweud bod rhaid i ddynion a menywod dderbyn yr un tâl am wneud:
-
‘gwaith tebyg’ – gwaith sydd yr un fath neu’n eithaf tebyg
-
gwaith sy’n gyfwerth yn ôl astudiaeth gwerthuso swydd, neu
-
waith o werth cyfartal.
Mae’r gyfraith yn berthnasol i weithwyr llawn amser a rhan-amser (gweler Gweithio rhan-amser am fwy o fanylion). Er enghraifft, os yw gweithiwr rhan-amser benywaidd yn gwneud yr un gwaith â gweithiwr llawn amser gwrywaidd, dylai gael yr un gyfradd gyflog fesul awr.
Back to top^
Strwythurau cyflog
Mae gennych chi’r hawl i gael gwybod sut y cyfrifir eich cyflog. Er enghraifft, os oes gan eich cyflogwr gynllun bonws, rhaid iddynt ddweud yn glir beth sydd angen i chi wneud i ennill bonws, a sut y cyfrifir y bonws.
Ni ddylai eich cyflogwr wahaniaethu yn erbyn grwpiau arbennig o bobl, er enghraifft, trwy roi llai o fonws i fenywod neu bobl o oedran arbennig. Yn ddelfrydol, dylai fod gan eich cyflogwr ganllawiau ar y detholiad arferol o daliadau bonws sydd ar gael.
Back to top^
Pensiynau
Os oes gan eich cyflogwr gynllun pensiwn galwedigaethol, rhaid iddo ei gyflwyno’n deg a heb wahaniaethu’n anghyfreithlon.
Er enghraifft: os oes gennych chi neu’ch partner gynllun pensiwn sy’n cynnig buddion i bartneriaid priod, rhaid iddo gynnig yr un manteision i bartneriaid sifil. Os yw’r cynllun yn cynnig buddion i gyplau heterorywiol sy’n byw gyda’i gilydd, rhaid iddo gynnig yr un manteision i gyplau o’r un rhyw sy’n byw gyda’i gilydd.
O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan bob cynllun pensiwn galwedigaethol reol “gwrth-wahaniaethu”, sy’n rhoi dyletswyddau tebyg i gyflogwyr ar ymddiriedolwyr a rheolwyr cronfeydd pensiwn i beidio â’ch trin yn llai ffafriol os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd difrifol.
Gall cyflogwyr wneud rheolau ar sail oedran yn y cynlluniau pensiwn maent yn eu cynnig heb fod yn euog o wahaniaethu anghyfreithlon.
Back to top^
Buddion o fath arall
Rhaid darparu buddion sydd â gwerth ariannol, fel ceir cwmni neu yswiriant iechyd preifat, yn deg a heb wahaniaethu.
Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd ac mae’ch cyflogwr yn gwrthod i chi ymuno yng nghynllun yswiriant iechyd preifat y cwmni dan yr un telerau â’ch cydweithwyr nad ydynt yn anabl oherwydd hyn, rhaid iddynt gynhyrchu tystiolaeth i gyfiawnhau’r penderfyniad hwn.
Back to top^
Hyd gwasanaeth
Gall cyflogwyr ddarparu rhai buddion sy’n cynyddu gyda hyd gwasanaeth, ond dim ond hyd at bum mlynedd. Mewn rhai amgylchiadau, gall cwmni gynnig buddion sy’n cynyddu tu hwnt i’r pum mlynedd, ond rhaid i’r cwmni ddangos ei fod yn gallu cyfiawnhau polisi o’r fath yn wrthrychol.
I gael mwy o wybodaeth ar gyflog cyfartal, edrychwch ar y Cod Ymarfer ar Gyflog Cyfartal.
Gall gwefan Acas ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ar gyflog cyfartal.
Back to top^