View this page in English
Y llynedd cyhoeddodd y Comisiwn fanylion ei rhaglen grantiau a chyllido dros dro lle gwahoddwyd sefydliadau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltiadau da a hawliau dynol i ymgeisio am ddyfarniadau ariannol.
Bellach mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei ddyfarniadau ar gyfer rhaglen 2008/2009. Dyfarnwyd arian i dri maes blaenoriaeth: hyrwyddo cysylltiadau da, hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol a gwaith achos cyfreithiol.
Mae rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w gweld yma. (ar gael yn Saesneg yn unig)
Y rhaglen grantiau a chyllido
Mae Adran 17 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn caniatáu i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol roi cymorth ariannol i sefydliadau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltiadau da a hawliau dynol.
Trefnwyd bod rhaglen Gyllido Dros dro 2008/2009 ar gael i roi mynediad i gymorth i sefydliadau cymwys yn ystod y cyfnod pwysig hwn o ymgynghori a datblygu. Er mwyn derbyn yr arian, roedd rhaid i’r sefydliadau ddangos sut y byddai eu prosiectau’n sicrhau newid gwirioneddol ac ystyrlon, a dangos sut y byddent yn llwyddo i gyflawni hyn.
Ymgynghori
Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwaith gwerthfawr a gefnogwyd yn flaenorol gan y Comisiynau Etifeddiaeth (CRE, DRC ac EOC) ac mae wedi ymrwymo i gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu strategaeth a rhaglen grantiau a chyllido yn y tymor hirach. Er mwyn cyflawni hyn, cynhelir ymarfer ymgynghori yn 2008. Y bwriad yw gwahodd ceisiadau ar gyfer rhaglen grantiau 2009/10 tua diwedd 2008.
Am ragor o wybodaeth am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad anfonwch e-bost i’r tîm grantiau yn grantsconsultation@equalityhumanrights.com
Darllenwch ein datganiad i’r wasg ar gyhoeddi’r dyfarniadau.