Eich hawliau 

 


hafan | rhywcwestiynau | hawliau | arweiniad | cymorthlawrlwytho | adnoddau

Young man

Y Gyfraith... Y darn diflas? Y darn anodd? Y darn sy’n codi braw?

  

Byddwch chi’n falch o wybod bod y gyfraith yn y cyswllt hwn yn ddigon syml i’w deall... Gall y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw a’r Ddeddf Cyflog Cyfartal eich amddiffyn rhag cael eich trin yn annheg o’r diwrnod cyntaf mewn swydd neu rhag unrhyw agwedd ar eich hyfforddiant neu addysg ar ôl ysgol.

Mae’r ddeddf yna i’ch amddiffyn rhag triniaeth annheg boed hynny ym maes: cyngor gyrfa, hyfforddiant galwedigaethol, addysg bellach neu uwch, recriwtio, cyflogaeth a chyflog.

Nid yw’n ymwneud â rhyw yn unig

Rydych chi’n cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu am resymau eraill hefyd, megis eich oed, anabledd, hil, crefydd, neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Nid yw’n anghyffredin i wynebu gwahaniaethu am fwy nag un rheswm, er enghraifft, eich rhyw a’ch hil.

Mae cael cyngor gan arbenigwyr yn gam i’r cyfeiriad cywir. Mae ein gwybodaeth ar gael yn rhwydd ac am ddim, felly beth am ddysgu mwy!

>> Dysgwch beth allwch chi ei wneud i gael cymorth