Pobl drawsrywiol: Y gyfraith
Diogelir eich hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu am eich bod yn berson trawsrywiol gan:
On this page
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth, addysg ac wrth ddarparu tai, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.
Back to top^
Y Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Newid Rhyw)
Mae’r Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Newid Rhyw) wedi ehangu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail newid rhyw, ond dim ond ym meysydd cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Nid yw’r Rheoliadau’n ymdrin â gwahaniaethu mewn addysg nac wrth ddarparu tai, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.
O 21 Rhagfyr 2007, ni fydd yn gyfreithlon i wahaniaethu ar sail hunaniaeth o ran rhywedd wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.
Mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn diogelu pobl sy’n dioddef gwahaniaethu am eu bod:
-
yn bwriadu newid rhyw
-
yn y broses o newid rhyw
-
eisoes wedi newid rhyw.
Gall unrhyw un sy’n cael ei drin yn llai ffafriol gan gyflogwr neu gorff hyfforddi galwedigaethol ar sail unrhyw un o’r uchod, o gymharu â rhywun nad yw materion newid rhyw yn berthnasol iddo ef neu hi, gyflwyno achos o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.
Back to top^
Erledigaeth
Mae gan bobl yr hawl i beidio â chael eu trin yn llai ffafriol nag eraill am eu bod wedi ymddwyn yn ddidwyll i fynnu eu hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Gallwch gyflwyno achos o erledigaeth os yw eich cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr arall am eich bod wedi cwyno am wahaniaethau ar sail newid rhyw; er enghraifft, os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo neu’n gwrthod eich dyrchafu oherwydd eich cwyn.
Back to top^
Gwahaniaethu mewn hyfforddiant galwedigaethol
Nid yw’n gyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol sy’n gwneud cais am hyfforddiant galwedigaethol a ddarperir gan gyflogwr sefydliadau hyfforddi, gan gynnwys y Cynghorau Hyfforddiant a Menter a’u cyflenwyr (y ‘Local Enterprise Companies’ yn yr Alban). Nid yw’n gyfreithlon i gyrff o’r fath wahaniaethu yn eich erbyn trwy derfynu eich hyfforddiant. Mae hyn yn golygu mynediad cyfartal i hyfforddiant ar delerau cyfartal - a chyfle cyfartal i’w gwblhau.
Back to top^