Aflonyddu rhywiol: eich hawliau
Ar 1 Hydref 2005, newidiwyd y diffiniad cyfreithiol o aflonyddu rhywiol. Mae’r diffiniad sy’n berthnasol i chi yn dibynnu pryd y digwyddodd yr aflonyddu rhywiol yr ydych chi’n cwyno yn ei gylch.
Mae rhai achosion o aflonyddu rhywiol yn ddigon difrifol i fod yn droseddau neu i ddwyn achosion sifil am ymosodiad. Yn yr achosion hyn, dylech chi roi gwybod i’r heddlu yn syth am yr aflonyddu. Dylech chi gael cyngor annibynnol gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn achosion troseddol hefyd.
Os nad ydych chi’n teimlo y gallwch fynd at yr heddlu, gallwch chi gael cyngor gan:
• eich undeb llafur neu gymdeithas staff
• ACAS
• Cyngor ar Bopeth
Os ydych chi wedi dioddef aflonyddu y tu allan i’r gweithle, gan gynnwys galwadau ffôn ymosodol a/neu ohebiaeth fygythiol, gallech chi gyflwyno achos o dan y Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddwch. Dylech chi gael cyngor arbenigol annibynnol gan gyfreithiwr ynglŷn â hyn.
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich diswyddo neu wedi cael eich gorfodi i ymddiswyddo o ganlyniad i aflonyddu, efallai y gallwch ddwyn achos hefyd yn honni i chi gael eich diswyddo yn annheg.
Cofiwch nad eich bai chi yw aflonyddu. Nid oes rhaid i chi ddioddef yn dawel.
On this page
Ar gyfer achosion a ddigwyddodd ar 1 Hydref 2005 neu wedi hynny
Mae yna ddau fath o aflonyddu rhywiol:
Ymddygiad digroeso ar sail eich rhyw:
Rhaid i chi allu dangos eich bod yn cael eich trin fel hyn am eich bod yn fenyw (neu’n ddyn). Enghraifft o hyn fyddai os oeddech chi’n cael eich bwlio yn y gwaith ac na fyddai’r aflonyddwr yn trin aelod o’r rhyw arall yn yr un modd. Nid oes rhaid i’r ymddygiad fod yn rhywiol ar gyfer y fath yma o aflonyddu.
Rhaid bod yr ymddygiad yn cael ei wneud gyda’r bwriad neu’r effaith o droseddu ar eich urddas, neu o greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus neu atgas i chi sy’n eich diraddio neu yn eich bychanu.
Ymddygiad corfforol, geiriol neu aneiriol digroeso, o natur rywiol:
Os yw’r ymddygiad yn rhywiol, mae hyn yn anghyfreithlon yn ei hunan ac nid oes rhaid i chi gymharu eich hunan â sut y byddai aelod o’r rhyw arall yn cael ei drin. Gallai hyn gynnwys:
-
Sylwadau ynglŷn â’ch ymddangosiad yr ydych chi’n teimlo’u bod yn ddiraddiol
-
Sylwadau anweddus
-
Cwestiynau am eich bywyd rhywiol
-
Galwadau rhywiol gan aelod o’r un rhyw â chi neu o’r rhyw arall
Mae achosion sy’n ymwneud â chyffwrdd a bygythiadau corfforol eraill yn droseddau a dylech roi gwybod i’r heddlu hefyd.
Unwaith eto, dylai’r ymddygiad gael ei wneud gyda’r bwriad neu’r effaith o droseddu ar eich urddas, neu o greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus neu atgas i chi sy’n eich diraddio neu yn eich bychanu.
Gallwch hawlio i chi ddioddef aflonyddu hefyd os bydd eich cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol am eich bod wedi gwrthod, neu wedi ildio i, un o’r ffurfiau o aflonyddu a ddisgrifiwyd uchod.
Back to top^
Ar gyfer achosion a ddigwyddodd cyn 1 Hydref 2005
Cyn 1 Hydref 2005, roedd aflonyddu rhywiol yn ffurf anghyfreithlon o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, ond nid oedd wedi cael ei ddiffinio’n benodol yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Sefydlodd achosion mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth fod aflonyddu rhywiol yn ymddygiad corfforol, geiriol neu aneiriol digroeso, o natur rywiol, a gallai gynnwys:
-
Sylwadau ynglŷn â’ch ymddangosiad yr ydych chi’n teimlo’u bod yn ddiraddiol
-
Sylwadau anweddus
-
Cwestiynau am eich bywyd rhywiol
-
Galwadau rhywiol gan aelod o’r un rhyw â chi neu o’r rhyw arall
Os hoffech chi gyflwyno achos o aflonyddu rhywiol yn seiliedig ar aflonyddu a ddigwyddodd cyn 1 Hydref 2005, byddwch chi’n cyflwyno achos o ‘wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw’, sy’n golygu y byddai’n rhaid i chi ddangos na fyddai aelod o’r rhyw arall wedi cael ei drin yn yr un modd. Mewn cwynion am aflonyddu rhywiol, mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn cymryd hyn yn ganiataol fel arfer.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn gymwys nid yn unig mewn sefyllfaoedd lle’r ydych chi’n weithiwr cyflogedig mewn cwmni, ond hefyd mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd cyflogaeth eraill. Mae’n gymwys i
-
rywun sy’n gweithio mewn partneriaeth
-
aelod o undeb llafur
-
aelod o gorff proffesiynol
-
aelod o sefydliad sy’n dosbarthu cymwysterau sydd eu hangen i gyflawni crefft neu broffesiwn arbennig
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn gymwys waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio yn rhywle neu faint o oriau rydych chi wedi gweithio, ac mae’n gymwys i nifer o sefyllfaoedd cyflogaeth, gan gynnwys y broses recriwtio.
Mae cyn-weithwyr yn cael eu diogelu gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw mewn rhai sefyllfaoedd.
Dim ond os digwyddodd yr aflonyddu rhywiol yn y gwaith neu mewn digwyddiad a oedd yn ymwneud â gwaith y gallwch gyflwyno achos o aflonyddu rhywiol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Golyga hyn bod rhaid i’r aflonyddu ddigwydd “yn ystod cyflogaeth".
Yn dibynnu ar ffeithiau eich achos, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais o dan ddeddfwriaeth arall yn ogystal â’r Ddeddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw. Darllenwch am y Ddeddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw, a chyfreithiau eraill sy’n rhoi hawliau i chi, yn adran Y Gyfraith o’r wefan.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gwaith, darllenwch Defnyddio eich hawliau i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais.
Back to top^