Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau cyhoeddus: beth mae’r gyfraith yn ei ddweud 

 

Y canlynol sy’n eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau a ddarperir gan gyrff cyhoeddus:

  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Y Gyfraith Ewropeaidd

Newidiadau i’r gyfraith

Disgwylir Gyfarwyddeb Nwyddau a Gwasanaethau Ewropeaidd 2004/113 ddod i rym erbyn 21 Rhagfyr 2007, a bydd hon yn ehangu’r diffiniad o wahaniaethu anuniongyrchol wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

On this page

 

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Mae’r adran hon yn rhoi cyfarwyddyd ar sut dylai awdurdodau cyhoeddus ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau pan fyddant yn gwneud hyn fel swyddogaeth gyhoeddus er mwyn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf.

Darpariaethau hirdymor o dan adran 29 o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw sy’n berthnasol i ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw eisoes yn berthnasol i sefydliadau cyhoeddus a phreifat sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd.  Mae adran 29 o’r Ddeddf yn nodi ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu, am resymau sy’n gysylltiedig â rhyw, wrth ddarparu’r nwyddau, cyfleusterau a’r gwasanaethau hynny.  Mae hyn yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus (er enghraifft, cyfleusterau nofio, hamdden a llyfrgell a ddarperir gan awdurdod lleol) ac i gyrff preifat (er enghraifft, siopau, bwytai, cwmnïau hurio ac ati).  I gael mwy o wybodaeth am hyn, edrychwch ar Hawliau’r Defnyddiwr a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.

Pryd fydd Adran 29 o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ddim yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau?

Dim ond i’r gwasanaethau neu’r cyfleusterau hynny sy’n debyg i’r rheiny y gallai unigolion preifat eu darparu y mae Adran 29 o’r Ddeddf yn berthnasol.  Er enghraifft: Trafnidiaeth, gan fod sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn darparu’r gwasanaeth hwn; gwasanaethau iechyd y gallai’r GIG a’r sector preifat eu darparu. 

Nid yw Adran 29 o’r Ddeddf yn berthnasol i weithredoedd a gyflawnir ar ran y Goron (swyddogaethau cyhoeddus) gan fod y rhain yn cael eu hystyried yn wahanol i’r rheiny y gallai unigolyn preifat eu cyflawni.  Er enghraifft, nid yw’n debygol y byddai unigolyn neu sefydliad preifat yn gallu darparu’r rhan fwyaf o faterion yn ymwneud â nawdd cymdeithasol a mewnfudo.

Pa ddiogelwch ychwanegol sydd ar gael?

Nid oes gan awdurdodau cyhoeddus yr hawl i wahaniaethu wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus (yn ogystal â’r diogelwch cyfredol o dan adran 29 o’r Ddeddf) wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd.  Swyddogaeth gyhoeddus yw gweithgaredd a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus na ellir ei gyflawni gan gorff preifat.  Dyma rai mathau o sefyllfaoedd y mae adran 21A o’r Ddeddf yn ymdrin â nhw:

Llunio neu weithredu polisi cyhoeddus (er enghraifft, llunio polisïau a blaenoriaethau mewn iechyd, addysg a thrafnidiaeth ac ati, neu benderfynu sut i ddosbarthu arian cyhoeddus).

Gweithredu pwerau i orfodi rheoliadau neu gyfreithiau (er enghraifft: pwerau’r heddlu sy’n ymwneud â stopio a chwilio, arestio a dod o hyd i bobl dan amheuaeth; pwerau gorfodi rheoliadau a chyfreithiau cyrff fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol; arolygu a chasglu trethi; gweithgareddau’r safonau masnach).

Gweithredu dyletswydd statudol neu bwerau statudol neu arfer doethineb mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod rhoi caniatâd i rywun gael mynediad neu aros o dan ddarpariaethau mewnfudo). 

Beth os yw’r awdurdod cyhoeddus yn darparu gwasanaeth wrth gyflawni swyddogaeth gyhoeddus?

Pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu gwasanaeth o ganlyniad i gyflawni swyddogaeth gyhoeddus, er enghraifft, awdurdod lleol sy’n gofalu am blant, bydd hyn fel arfer yn dod o fewn adran 29 o’r Ddeddf. Y prawf i weld ai adran 29 neu adran 21A sy’n berthnasol i unrhyw  weithgaredd yw ystyried a yw’r gweithgaredd penodol yn ‘wasanaeth i’r cyhoedd’ yn hytrach na, er enghraifft, swyddogaeth gyhoeddus i gyflawni dyletswydd statudol fel rheoli mewnfudo neu gasglu trethi.

Mewn rhai sefyllfaoedd, fe allai awdurdod cyhoeddus fod yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus ac yn darparu gwasanaeth ar yr un pryd.  Er enghraifft, mae Cyllid y Wlad yn cyflawni dau weithgaredd ar wahân: yn gyntaf, swyddogaeth gyhoeddus a ddiffinnir gan statud, sef casglu trethi ac yn ail, gwasanaeth, sef rhoi gwybodaeth i dalwyr trethi am eu hawl i gael ad-daliad treth.  Adran 21A o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw sy’n berthnasol i’r cyntaf, ac adran 29 o’r Ddeddf sy’n berthnasol i’r ail.  Bydd adran 21A dim ond yn gymwys pan na fydd y gwahaniaethu y cwynir amdano’n cael ei wneud yn anghyfreithlon gan adran arall o’r Ddeddf.

Pryd fydd Adran 21A o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ddim yn berthnasol?

Fodd bynnag, bydd yna nifer o eithriadau i adran 21A o’r Ddeddf a fydd yn caniatáu i fenywod a dynion, mewn amgylchiadau penodol, gael eu trin yn wahanol.  Mae’r rhain yn cynnwys Gwasanaethau a ddarperir gan Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi ac asiantaethau diogelwch amrywiol.

Awdurdodau cyhoeddus sy’n ymwneud â pharatoi, llunio neu ystyried Deddfau Seneddol, neu sy’n ymwneud â pharatoi, llunio, cadarnhau, cymeradwyo neu ystyried deddfwriaeth arall.

Gweithredoedd gan awdurdodau cyhoeddus sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddf Seneddol neu ddeddfwriaeth arall.

Ni fydd swyddogaethau a phenderfyniadau barnwrol i beidio â dechrau neu barhau ag achosion troseddol yn cael eu cynnwys.

A all awdurdodau cyhoeddus ddarparu gwasanaethau un rhyw?

Bydd Adran 21A o’r Ddeddf yn caniatáu ar gyfer darparu gwasanaethau ar wahân neu wasanaethau un rhyw hefyd mewn rhai amgylchiadau.

Darparu gwasanaeth ar gyfer un rhyw yn unig pan mai dim ond unigolion o’r rhyw hwnnw sydd angen y gwasanaeth.

Darparu gwasanaethau ar wahân ar gyfer dynion a menywod lle byddai neu gallai gwasanaeth ar y cyd fod yn llai effeithiol.

Darparu gwasanaeth ar gyfer un rhyw yn unig pan fydd:

  • y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar y cyd hefyd ar gyfer y ddau ryw, a
  • phan na fyddai’r gwasanaeth yn ddigon effeithiol o bosibl, pe câi ei ddarparu ar y cyd yn unig.
  • Darparu gwasanaeth ar gyfer un rhyw yn unig:
  • pan fydd y gwasanaeth, neu pan allai fod, yn llai effeithiol pe bai’n cael ei ddarparu ar gyfer y ddau ryw, a
  • phan na fydd yn rhesymol o ymarferol i ddarparu gwasanaethau ar wahân i’r rhyw arall oherwydd maint y galw am y gwasanaeth gan y rhyw hwnnw. 

Darparu gwasanaethau ar wahân ar gyfer dynion a menywod mewn gwahanol ffyrdd neu i wahanol raddau:

  • pan fydd neu pan allai fod, yn llai effeithiol i ddarparu’r gwasanaethau i’r ddau ryw gyda’i gilydd, a
  • phan na fydd yn rhesymol o ymarferol i ddarparu’r gwasanaeth ar gyfer un rhyw yn yr un ffordd neu i’r un graddau ag ar gyfer y rhyw arall, oherwydd maint y galw am y gwasanaeth gan y naill neu’r llall.
  • Gweithredu er mwyn cynorthwyo un rhyw i oresgyn:
  • anfantais (o’i gymharu â’r rhyw arall), neu
  • effeithiau gwahaniaethu

Dim ond pan fydd adran 21A o’r Ddeddf yn berthnasol y bydd yr eithriadau hyn yn berthnasol. Dim ond pan na fydd gweithgaredd eisoes yn anghyfreithlon o dan ddarpariaeth arall o’r Ddeddf y bydd adran 21A yn berthnasol.


Back to top^  

Y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol

Daeth y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol i rym ar 6 Ebrill 2007.  Mae’n mynnu bod awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn rhoi ystyriaeth lawn i’r angen i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod (adran 76A).

Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i bob awdurdod cyhoeddus (gyda rhai eithriadau) o ran pob un o’u swyddogaethau (hynny yw, darparu gwasanaeth, llunio polisïau, mewn materion cyflogi ac mewn perthynas ag arfer unrhyw ddoethineb a gwneud penderfyniadau statudol).  Mae’n berthnasol hefyd i awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â’r gwasanaethau a’r swyddogaethau hynny y mae’n eu contractio i awdurdod preifat.  Nod y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol yw gwneud cydraddoldeb rhywiol yn ganolog i’r ffordd y mae’r awdurdodau cyhoeddus yn gweithio, er mwyn:

  • creu prosesau penderfynu a datblygu polisi mwy gwybodus
  • sicrhau dealltwriaeth gliriach o anghenion y defnyddwyr gwasanaeth
  • darparu gwasanaethau o ansawdd gwell sy’n diwallu’r anghenion amrywiol 
  • targedu polisïau ac adnoddau’n fwy effeithiol
  • sicrhau canlyniadau gwell a mwy o hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus
  • defnyddio doniau’n fwy effeithiol yn y gweithlu.


Back to top^  

Deddf Hawliau Dynol 1998

Daeth Deddf Hawliau Dynol 1998 i rym ar 2 Hydref 2000.  Nod y Ddeddf hon yw sicrhau bod yr hawliau dynol sylfaenol a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn cael eu parchu i’r eithaf, ac y gellir eu gorfodi yn y DU.  Mae hyn yn golygu y bydd unigolion yn gallu dwyn achos llys yn erbyn sefydliad sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus os ydynt yn credu bod eu hawliau dynol wedi cael eu torri.


Back to top^  

Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae cyfraith yr UE yn diogelu unigolion, rhyw gymaint, mewn llysoedd cenedlaethol mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail rhyw y tu allan i’r meysydd cyflogi, o ran darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau.

Mae Cyfarwyddeb 79/7/EEC (Cyfarwyddeb Nawdd Cymdeithasol)yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail rhyw o ran cynlluniau nawdd cymdeithasol sy’n diogelu rhag perygl o salwch, analluedd, henaint, damweiniau yn y gwaith ac afiechydon galwedigaethol, a diweithdra.

Fodd bynnag, mae’r Gyfarwyddeb yn caniatáu oedrannau pensiwn gwahanol ar gyfer dynion a menywod, ac oedrannau gwahanol mewn perthynas â budd-daliadau eraill pan fydd angen. 

Mae’r Gyfarwyddeb Rhyw, Nwyddau a Gwasanaethau 2004/113/EC yn gwahardd cyrff cyhoeddus a phreifat rhag gwahaniaethu ac aflonyddu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.  Disgwylir i’r Gyfarwyddeb gael ei gweithredu o fewn cyfraith y DU erbyn diwedd 2007.


Back to top^