Gwahaniaethu ar sail rhyw fel defnyddiwr: eich hawliau  

 

Mae gennych hawl i beidio â chael eich trin yn annheg oherwydd eich rhyw pan fyddwch chi’n defnyddio nwyddau a gwasanaethau, waeth a ydych chi’n talu amdanyn nhw neu beidio.

Mae’r hawl hon yn berthnasol i ddynion a menywod, ond ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth sy’n gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

Eithriadau

Nid oes rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gadw at y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw o dan rai amgylchiadau, sef:

  • lle mae angen gwahanol sgiliau
  • gofal neu ofynion arbennig
  • eithriadau crefyddol
  • os byddai triniaeth gyfartal yn achosi embaras difrifol
  • cysylltiad corfforol
  • sefydliadau gwirfoddol
  • elusennau
  • chwaraeon

Am fwy o fanylion ar yr eithriadau hyn, gweler Gwahaniaeth ar sail Rhyw mewn gwasanaethau: y gyfraith.

Am fwy ar wahaniaethu wrth ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau, gweler Hawliau ar waith: gwasanaethau.

On this page

 

Llety

Mae gennych yr hawl i beidio gorfod wynebu gwahaniaethu oherwydd eich rhyw pan fo rhywun yn darparu llety ar eich cyfer.

Mae hyn yn cynnwys landlordiaid preifat, asiantwyr rheoli a chymdeithasau tai yn ogystal â darparwyr llety cyhoeddus megis awdurdodau lleol. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau o safbwynt llety, gweler Hawliau ar waith: tai [insert link to section]

Enghraifft:

Ar hyn o bryd, dwi’n ceisio rhentu fflat i mi fy hun a thri dyn arall. Dywedodd y gwerthwr tai yr aethon ni ato ei fod yn codi blaendal uwch ar grwpiau un rhyw. Ond, pan ffoniodd menyw sy’n ffrind i mi i ofyn am eiddo ar gyfer grŵp o fenywod yn unig, wnaeth e ddim sôn am hyn.  A yw hyn yn gyfreithlon?

Os yw’r asiant yn wirioneddol yn trin pob grŵp o ddynion yn llai ffafriol na grwpiau o fenywod byddai hyn yn wahaniaethu ar sail rhyw.

Eithriadau

Mae rhai eithriadau i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw wrth ddarparu llety.

Mae’n gyfreithlon cyfyngu tenantiaeth i un rhyw os yw’r sawl sy’n rhentu’r eiddo neu berthynas agos iddo yn byw yn yr eiddo, a’r eiddo yn fach.

Enghraifft:

Mae tair myfyrwraig am is-osod pedwaredd ystafell yn y tŷ, ac yn dweud yn benodol yn eu hysbyseb mai dim ond menywod y byddan nhw’n eu hystyried. Mae hyn yn debygol o fod y gyfreithlon am fod y sawl sydd â’r pŵer i osod yr eiddo yn byw yn yr eiddo.

Gall cyrff gwirfoddol ar gyfer un rhyw, sydd ddim yn gwneud elw ac sydd heb eu sefydlu o dan unrhyw gyfraith, gyfyngu aelodaeth i un rhyw a darparu llety i’r aelodau hynny. Gallant hefyd ddarparu llety i aelodau’r cyhoedd o un rhyw yn unig os mai dyna yw prif amcan y sefydliad.

Mae eithriad tebyg ar gyfer elusennau un rhyw os yw darparu llety un rhyw wedi’i gynnwys mewn offeryn elusennol.

Gellir cyfyngu llety cymunedol - llety preswyl sy’n cynnwys ystafelloedd cysgu neu lety i nifer o bobl - i un rhyw am resymau preifatrwydd a gwedduster neu oherwydd natur y cyfleusterau ymolchi sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth am hawliau ym maes tai, gweler Hawliau ar waith: tai.


Back to top^  

Hysbysebu

Mae yn erbyn y gyfraith i gyhoeddi hysbyseb sy’n awgrymu bwriad i wahaniaethu yn anghyfreithlon ar sail rhyw. Mae hyn yn berthnasol i roi hysbyseb yn ogystal â’i hargraffu. Felly, rhaid i bapurau newydd, cyfryngau cyhoeddi eraill, a’u cleientiaid fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw wrth ymdrin â hysbysebion gyda darluniau.

Dyma rai enghreifftiau o wahaniaethu ar sail rhyw mewn hysbysebion:

  • mae perchennog tŷ bwyta yn rhoi cerdyn yn y ffenest yn dweud bod "angen gweinyddwr". Mae hyn yn awgrymu bod y swydd ar agor i ddynion yn unig. Mae angen i’r hysbyseb ei gwneud yn glir bod y swydd yn agored i ddynion a menywod ee "angen gweinyddwr/gweinyddwraig"
  • mae archfarchnad yn rhoi posteri yn hysbysebu gostyngiadau i fenywod ond nid i ddynion
  • mae landlord, gwerthwr tai neu asiantaeth llety yn hysbysebu mewn papur newydd bod fflat hunangynhaliol yn "addas ar gyfer gŵr bonheddig parchus".
  • mae cyflogwr yn hysbysebu am 'unigolyn 6 troedfedd o daldra sy’n chwarae rygbi’  pan nad yw’r gofynion hyn yn angenrheidiol i gyflawni’r gwaith
  • mae clwb nos yn hysbysebu 'diodydd am ddim i bawb sy’n gwisgo sgert'.

Beth yw hysbyseb?

Yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw diffinnir hysbyseb fel unrhyw fath o hysbyseb, boed i'r cyhoedd neu beidio, a ph'un ai mewn papur newydd neu gyhoeddiad arall, ar y teledu neu'r radio; trwy arddangos hysbysiadau; arwyddion; labeli; cardiau neu nwyddau; trwy ddosbarthu samplau; cylchlythyron; catalogau; rhestri prisiau neu ddeunydd arall; drwy arddangos darluniau; modelau neu ffilmiau; neu mewn unrhyw ffordd arall...

Byddai 'hysbyseb' felly yn cynnwys hysbysebu ar y cyfryngau ac ar y Rhyngrwyd, yn ogystal â hysbysebu uniongyrchol trwy’r post, hysbysebu o fewn cwmni a ffilmiau cyngor gyrfa.

Pwy sy’n atebol os cyhoeddir hysbyseb sy’n gwahaniaethu?

Os cyhoeddir hysbyseb o'r fath, mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn nodi bod yr hysbysebwr (y cyflogwr neu’r darparwr gwasanaethau) a'i asiantau (megis asiantaethau recriwtio) a chyhoeddwr yr hysbyseb yn atebol. Mae cyhoeddwyr yn cynnwys papurau newydd, cylchgronau, gorsafoedd teledu a radio ac ati; a hefyd yn cynnwys asiantaethau cyflogi, Canolfannau Gwaith ac asiantaethau hysbysebu.

Hysbysebu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw un sy'n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i'r cyhoedd drin menywod yn llai ffafriol na dynion (ac fel arall). Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r nwyddau, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau'n cael eu darparu am ddim. Dyma enghreifftiau o'r nwyddau, y cyfleusterau a'r gwasanaethau sy'n cael eu cwmpasu:

  • cyfleusterau mewn lleoedd cyhoeddus megis gwestai, bwytai, clybiau nos, tafarnau, canolfannau hamdden, ac ati – o ran eu defnyddio a chael mynediad atynt
  • cyfleusterau ariannol sy'n cael eu darparu gan fanciau, cwmnïau cardiau credyd, siopau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, ac ati
  • cyfleusterau ar gyfer addysg, ee amrywiol fathau o hyfforddiant proffesiynol neu alwedigaethol, neu rai dosbarthiadau addysg i oedolion (mae addysg reolaidd mewn ysgolion a phrifysgolion ac ati yn cael ei thrafod o dan adrannau addysg y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, ar y cyfan)
  • unrhyw gyfleusterau cludiant cyhoeddus, neu gyfleusterau teithio neu gludiant a gynigir gan gwmnïau preifat neu drefnwyr teithiau, ac
  • unrhyw un o'r gwasanaethau a gynigir gan awdurdodau lleol.

Felly, ni all darparwyr gwasanaethau hysbysebu cyfleusterau neu wasanaethau a gynigir i ddynion a menywod, ond sy’n gwahaniaethu yn erbyn y naill neu’r llall. Er enghraifft, byddai'n anghyfreithlon i glwb nos gynnig mynediad am ddim i fenywod, tra bod dynion yn gorfod talu.

I ddysgu mwy am rwymedigaethau darparwyr gwasanaethau darllenwch Darparwyr gwasanaeth.

Hysbysebu cyrsiau addysg

Ni all ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n darparu addysg a hyfforddiant hysbysebu cyrsiau ar gyfer menywod yn unig na dynion yn unig. Dyma’r unig eithriadau:

  • os yw'n sefydliad ar gyfer un rhyw
  • os yw'r sefydliad addysgol yn darparu cwrs hyfforddi galwedigaethol ac yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer gweithredu cadarnhaol, yn ôl diffiniad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, ar gyfer y cwrs hwnnw'n unig. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn caniatáu i sefydliadau hyfforddi gymryd camau gweithredu cadarnhaol i hysbysebu cyrsiau menywod yn unig neu ddynion yn unig os gellir dangos nad oes fawr o neb o'r rhyw hwnnw, os o gwbl, wedi gwneud y math yna o waith yn y flwyddyn flaenorol. Gall darparwyr hyfforddiant hefyd ddefnyddio anogaeth arbennig, wrth hysbysebu, i ddenu'r rhyw sydd heb ei gynrychioli’n ddigonol i gyrsiau cymysg.
  • os yw'r sefydliad addysgol yn rhedeg cwrs wedi’i anelu at bobl sydd wedi bod yn cyflawni dyletswyddau cartref neu deuluol, ac felly heb fod mewn gwaith rheolaidd am gyfnod.

Dylai sefydliadau addysgol gymryd gofal nad yw taflenni, llawlyfrau coleg a deunyddiau eraill yn rhoi'r argraff mai dim ond un rhyw sy’n cael dilyn cyrsiau neu hyfforddiant.

I ddysgu mwy am rwymedigaethau darparwyr addysg, darllenwch Darparwyr addysg.


Back to top^  

Yswiriant

Mae gennych yr hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu oherwydd eich rhyw pan fyddwch chi’n prynu neu’n defnyddio gwasanaethau yswiriant. Ar y llaw arall, mae hawl gan gwmnïau yswiriant wahaniaethu os oes tystiolaeth ddibynadwy i ddangos bod gwahaniaeth perthnasol rhwng dynion a menywod.

Enghraifft:

Mae cwmni yswiriant yn cynnig yswiriant car rhatach i fenywod ar sail data ystadegol sy’n dangos bod menywod yn cael llai o ddamweiniau. Mae hyn yn debygol o fod yn gyfreithlon.

Ar y llaw arall, os yw’r cwmni yn gwrthod darparu yswiriant i ddynion o gwbl, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Eithriadau

Mae rhai amgylchiadau prin lle y gellir caniatáu gwahaniaethu. Mae yna eithriad cyffredinol ar gyfer yswiriant yn adran 45 o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, sy’n dweud nad yw’n anghyfreithlon i drin unigolyn mewn ffordd sy’n gwahaniaethu mewn perthynas â blwydd-daliadau, polisi yswiriant bywyd, polisi yswiriant damwain neu fater tebyg sy’n cynnwys asesu risg, os yw’r driniaeth:

(a) wedi’i heffeithio trwy gyfeirio at ystadegau yswiriant neu ddata arall o ffynhonnell yr oedd yn rhesymol i ddibynnu arni, a

(b) ei bod yn rhesymol i ystyried y data ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill.

Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i drefniadau credyd neu bensiynau galwedigaethol; rhaid trin dynion a menywod yn gyfartal.


Back to top^  

Cyllid

Mae gennych chi hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu oherwydd eich rhyw pan fyddwch chi’n prynu neu yn defnyddio cynhyrchion neu wasanaethau ariannol. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw fanc, cymdeithas adeiladu, neu sefydliad ariannu arall wrthod darparu gwasanaeth, neu ei ddarparu mewn ffordd lai ffafriol, i ddyn neu fenyw oherwydd ei ryw.

Gall y gwasanaethau hyn gynnwys darparu grantiau, benthyciadau, morgeisi, credyd neu gyllid, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer bancio. Beth bynnag yw’r gwasanaeth neu gyfleuster ariannol, rhaid i fenyw gael ei thrin yr un fath â dyn o dan amgylchiadau tebyg.

Enghraifft:

Mae dyn a menyw sydd â sefyllfa ariannol debyg yn gwneud cais am fenthyciad o £10,000. Mae’r dyn yn cael y benthyciad ond dywedir wrth y fenyw bod yn rhaid iddi ddarparu gwarantwr. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw yn erbyn y fenyw.

Enghraifft:

Mae darparwr morgeisi yn rhoi morgeisi i weithwyr llawn amser yn unig. Byddai’r rheidrwydd i weithio’n llawn amser yn effeithio’n andwyol ar fwy o fenywod, gan fod mwy o fenywod yn gweithio’n rhan-amser. Ni ellid cyfiawnhau gwrthod morgais i bawb sy’n gweithio’n rhan-amser, a byddai hynny’n debygol o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail rhyw.


Back to top^  

Clybiau aelodau preifat

Pan fo clwb aelodau preifat yr ydych chi’n aelod ohono yn darparu gwasanaethau i chi, nid yw’r clwb yn rhwym wrth y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw fel darparwr gwasanaethau a gall wahaniaethu’n gyfreithlon ar sail rhyw. Er hynny, mae’n rhaid i glybiau preifat gadw at y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn y ffordd y maen nhw’n trin eu gweithwyr cyflogedig.

Dros y blynyddoedd mae rheolau ac arferion clybiau aelodau preifat wedi arwain at sawl cwyn ynglŷn â gwahaniaethu. Y prif fater sydd wedi codi yw’r gwahanol ddosbarthiadau o aelodaeth sy’n agor i un rhyw yn unig.

Enghraifft:

Dim ond dynion sy’n cael bod yn aelodau llawn o glwb golff. Dim ond aelodau llawn sydd â’r hawl i bennu rheolau’r clwb a chael mynediad llawn i’r clwb. Mae “Aelodau cyswllt” yw’r menywod, gyda llai o hawliau a mynediad cyfyngedig i’r clwb. Tra bo’r clwb yn wirioneddol breifat, byddai hyn yn gyfreithlon.

Clwb aelodau preifat yw un sy’n wirioneddol yn dethol ei aelodau ar sail bersonol, yn hytrach na derbyn unrhyw un sy’n talu ffi aelodaeth yn aelod er enghraifft.

Pan fo clwb yn cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd - er enghraifft, hurio ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau - mae’n rhaid iddo gadw at y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, a rhaid iddo ddarparu’r gwasanaeth hwn heb wahaniaethu’n annheg ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau clybiau aelodau preifat, gweler Darparwyr gwasanethau: Clybiau priefat a chymdeithasau.


Back to top^  

Tafarnau a chlybiau nos

Mae tafarnau a chlybiau nos yn ddarparwyr gwasanaethau a rhaid iddyn nhw osgoi gwahaniaethu ar sail rhyw. Fel yn achos darparwyr gwasanaethau eraill, mae hyn yn golygu na allan nhw wahaniaethu trwy:

  • wrthod darparu gwasanaeth i chi
  • darparu gwasanaeth o safon is i chi
  • darparu gwasanaethau ar delerau gwaeth

Enghraifft:

Mae tafarn yn rhoi diodydd am ddim i fenywod, ond mae’n rhaid i ddynion dalu. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail rhyw yn erbyn dynion.

Enghraifft:

Mae clwb nos yn cynnig mynediad am ddim i unrhyw un sy’n gwisgo sgert. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon yn erbyn dynion gan y byddan nhw’n llai tebygol o fodloni'r maen prawf hwn.


Back to top^  

Chwaraeon

Mae’r diffiniad “darparwr gwasanaethau” yn cynnwys y rhan fwyaf o sefydliadau chwaraeon, sy’n golygu bod gennych yr hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu ar sail rhyw yn y mannau hyn.

Mae eithriad cyffredinol i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ar gyfer chwaraeon lle mae cryfder corfforol, stamina neu gorffoledd y fenyw gyffredin yn ei rhoi o dan anfantais i’r dyn cyffredin. Yn yr achosion hyn mae’n gyfreithlon gwahaniaethu ar sail rhyw.

Enghraifft:

Mae tîm dartiau lleol yn gwrthod caniatáu i fenywod chwarae yn y tîm. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.

Enghraifft:

Mae tîm bowlio yn mynnu bod y chwaraewyr yn dalach na rhyw ffigwr arbennig. Nid yw hyn yn ddim i wneud â gallu chwaraewyr ac yn debygol o roi menywod dan anfantais, felly mae’n debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon ar sail rhyw.

Mae’r rheol hon hefyd yn berthnasol i chwaraeon mewn cyd-destun addysg. Am fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail rhyw mewn addysg, gweler Cydraddoldeb ac amrywiaeth: rhyw: addysg.

Eithriadau

Mae rhai eithriadau sy’n caniatáu i sefydliadau chwaraeon wahaniaethu rhwng y ddau ryw.

Cyrff gwirfoddol - Gall corff gwirfoddol ddefnyddio’r eithriad hwn er mwyn cyfyngu aelodaeth i un rhyw a darparu ei wasanaethau i’r aelodau hynny. Rhaid iddo fod yn gorff gwirfoddol ar gyfer un rhyw, sydd ddim yn gwneud elw a heb ei sefydlu o dan unrhyw gyfreithiau. Er enghraifft, mae cynghreiriau neu dimau dynion yn unig neu fenywod yn unig, a chlybiau chwaraeon un rhyw wedi’u sefydlu yn aml fel cyrff gwirfoddol un rhyw ac felly â hawl i dderbyn aelodau o un rhyw yn unig.

Embaras difrifol - Gall gwasanaethau gael eu cyfyngu i un rhyw os yw’r defnyddwyr yn debygol o ddioddef 'embaras difrifol' os bydd aelod o’r rhyw arall yn bresennol neu os yw’r defnyddwyr yn debygol o fod yn dadwisgo. Os mai hyn yw’r rheswm dros ddarparu sawnas a chyfleusterau hamdden ar gyfer menywod yn unig, yna gallai’r eithriad hwn fod yn berthnasol.

Cysylltiad corfforol – Gellir cyfyngu cyfleusterau neu wasanaethau i un rhyw os bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dod i gysylltiad corfforol â’i gilydd, lle gall aelod o un rhyw yn rhesymol wrthwynebu os yw’r cysylltiad hwnnw gydag unigolyn o’r rhyw arall. Efallai y gall dosbarth hunanamddiffyn ar gyfer menywod yn unig ddibynnu ar yr eithriad hwn.

Clybiau aelodau preifat - Ar hyn o bryd nid yw’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn berthnasol i glybiau aelodau preifat go iawn. Clwb aelodau preifat yw un sy’n dethol aelodau ar sail bersonol e.e. rhaid i’r aelodau presennol gynnig aelod newydd, ei eilio a’i dderbyn. Felly gallant fod yn glybiau un rhyw neu, os ydyn nhw yn derbyn y ddau ryw, gallant fod â rheolau sy’n rhoi un rhyw o dan anfantais. Gall rhai clybiau ystyried eu hunain yn rhai 'preifat' ond eu bod nhw’n derbyn aelodau yn rhydd - os felly, ni fyddent yn cael eu hystyried yn glybiau aelodau preifat, ac yn gweithredu’n anghyfreithlon pe byddent yn trin dynion a menywod yn wahanol.

Yn aml, mae clybiau chwaraeon megis clybiau golff a bowlio yn gwahaniaethu trwy fod â gwahanol ddosbarthiadau aelodaeth i ddynion a menywod - mae hawl gan glybiau aelodau preifat wneud hyn o dan y gyfraith ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau y mae clybiau aelodau preifat yn eu darparu, gweler Clybiau aelodau preifat.


Back to top^