Adnoddau 

 

hafan | rhywcwestiynauhawliauarweiniad | cymorthlawrlwytho | adnoddau

Rhagor os gwelwch yn dda

Female builder wearing a hard hat Os hoffech ddysgu mwy am faterion cydraddoldeb rhyw a’r hyn allwch chi ei wneud os bydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhyw, ewch i’n gwefan. Mae yna lawer o wybodaeth a chyngor a all fod o ddiddordeb neu’n ddefnyddiol.

  • Mae yna adran gyfan ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n rhoi gwybodaeth fanwl am eich hawliau yn y gwaith
  • Os ydych am wybod am gael eich trin yn wahanol fel menyw neu ddyn gan wasanaethau megis llety, tafarnau a chlybiau nos, clybiau preifat, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan fanciau neu gwmnïau yswiriant, ewch i’n hadran am eich hawliau fel defnyddiwr
  • Mae gennym ni lawer o gyhoeddiadau ffeithiol ar y wefan, a allai fod o ddiddordeb personol ond hefyd a allai fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n gwneud prosiect yn yr ysgol neu’r coleg.  Mae’r adran cyhoeddiadau ymchwil  yn lle da i edrych, er enghraifft o dan ystadegau am fenywod a dynion ym Mhrydain.
  • Efallai y byddwch chi am edrych ar ein microwefan works4me .  Mae hon wedi’i llunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc ac yn edrych ar fyd gwaith, dewisiadau gyrfa, prentisiaethau, profiad gwaith, a sut i fanteisio i’r eithaf ar y dewisiadau sydd ar gael.
  • Mae gwybodaeth am wisgoedd ysgol a gwahaniaethu yn ein hadran ar eich hawliau yn yr ysgol a’r coleg.

Eich tro chi nawr

Y gobaith yw bod y tudalennau hyn wedi rhoi cipolwg defnyddiol ar y mathau o wahaniaethu y gall pobl ifanc eu hwynebu. Cofiwch: efallai eich bod chi’n ifanc - ond nid yw’n golygu nad oes gennych chi hawliau neu na allwch chi eu lleisio.