Beichiogrwydd a mamolaeth: y gyfraith  

 

Dyma’r prif ddeddfau sy’n rhoi hawliau i chi yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth:

  • Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 2002)
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Rheoliadau Amser Gwaith 1998

On this page

 

Gwyliau ac absenoldeb mamolaeth ychwanegol

Nid yw’r gyfraith yn glir ar hyn o bryd a ddylech chi barhau i grynhoi gwyliau statudol o dan y Rheoliadau Amser Gwaith yn ystod absenoldeb mamolaeth ychwanegol.

Mewn achos yn y Llys Apêl yn ddiweddar, dyfarnwyd nad yw gwyliau statudol o dan y Rheoliadau Amser Gwaith yn cronni yn ystod y cyfnodau pan fo gweithiwr cyflogedig ar absenoldeb salwch (Comisiynydd Cyllid y Wlad v Gray ac Ainsworth 2005 EWCA Civ 441). Mae hyn wedi codi amheuon ynghylch a ddylai menyw barhau i gronni gwyliau o dan y Rheoliadau Amser Gwaith yn ystod seibiant mamolaeth ychwanegol.

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn dweud nad yw’n anghyfreithlon i wrthod unrhyw fuddion yn amodau a thelerau ei chyflogaeth i fenyw yn ystod absenoldeb mamolaeth ychwanegol (gyda rhai eithriadau penodol). Nid yw’n glir a yw hyn yn berthnasol i wyliau am dâl a gronnwyd o dan y Rheoliadau Amser Gwaith. Y gobaith yw y bydd y sefyllfa'n dod yn gliriach mewn cyfraith achos yn y dyfodol.

Yn achos Gomez v Continental Industrias del Coucho (2004 IRLR 407) ym Mhortiwgal roedd Ms Gomez yn gweithio mewn ffatri lle’r oedd gweithwyr cyflogedig yn gorfod cymryd eu gwyliau yn ystod yr haf pan oedd y ffatri ar gau. Roedd Ms Gomez ar absenoldeb mamolaeth yn ystod y cyfnod hwn ac ni wnaeth ei chyflogwr ganiatáu iddi gymryd ei gwyliau rywbryd arall. Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop y dylai hi allu cymryd y gwyliau statudol yr oedd wedi’u cronni o dan y Rheoliadau Amser Gwaith y tu allan i’r adeg yr oedd y ffatri ar gau yn yr haf. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr sy’n cael gwyliau ar adegau penodol o’r flwyddyn yn gallu dadlau, ar sail Gomez, y dylent allu cymryd eu gwyliau ar adeg arall os ydynt ar eu colled oherwydd absenoldeb mamolaeth. Hynny yw, dylent allu cymryd eu gwyliau cyn neu ar ôl dychwelyd o absenoldeb mamolaeth.

Mae’n dal yn aneglur a yw hyn yn golygu y dylai menywod allu cario gwyliau y maent wedi’u cronni ymlaen i flwyddyn wyliau blynyddol newydd, yn enwedig gan nad yw’r Rheoliadau Amser Gwaith fel arfer yn gadael i chi gario gwyliau statudol â thâl ymlaen i flwyddyn newydd. Ar y llaw arall, rhesymau iechyd a diogelwch sydd wrth wraidd hyn (i wneud yn siŵr bod pawb yn cymryd isafswm o wyliau bob blwyddyn). Gellid dadlau na ddylai hyn atal menyw sydd wedi bod ar absenoldeb mamolaeth rhag cario’i gwyliau ymlaen i flwyddyn wyliau newydd pan fydd yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth. Y gobaith yw y bydd y sefyllfa yn cael ei egluro mewn cyfraith achos yn y dyfodol.


Back to top^