Cyflog cyfartal: eich hawliau
Mae Deddf Cyflog Cyfartal 1970 yn golygu y dylai pobl gael yr un tâl waeth beth yw eu rhyw. Mae gennych hawl i beidio â chael llai o dâl na rhywun o’r rhyw arall sy’n gwneud:
Am fanylion pellach ar sut mae gwaith tebyg, gwaith o werth cyfartal, gweithwyr rhan-amser a beichiogrwydd a mamolaeth yn cael eu diffinio mewn perthynas â chyflog cyfartal, darllenwch:
Eich hawliau: gwaith tebyg
Eich hawliau: gwaith o werth cyfartal
Eich hawliau: gweithwyr rhan-amser
Eich hawliau: beichiogrwydd a mamolaeth
On this page
Beth yw gwahaniaethu ar sail cyflog?
Gall gwahaniaethu ar sail cyflog ddigwydd mewn sawl ffordd, er enghraifft:
-
mae menyw yn cael ei phenodi ar gyfradd cyflog lai na’r dynion sy’n cydweithio â hi
-
nid yw menyw ar absenoldeb mamolaeth yn cael bonws y mae gweddill y staff yn ei gael
-
rhoi gwahanol deitlau a gwahanol raddau ar swyddi menywod o gymharu â rhai’r dynion sy’n gwneud gwaith tebyg
-
peidio â rhoi hawl i dâl salwch na thâl gwyliau i staff rhan-amser, sef menywod yn bennaf
-
yr holl staff yn cael contractau unigol, heb fod hawl ganddyn nhw drafod eu cyfraddau cyflog
Mae gan ddynion sy’n cael llai o gyflog na’r menywod sy’n cydweithio â hwy hawl i gyflog cyfartal hefyd.
Os ydych chi’n credu eich bod yn wynebu gwahaniaethu ar sail cyflog, gallwch fynd at dribiwnlys cyflogaeth i hawlio cyflog cyfartal. Fel rheol, gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw bryd tra’ch bod chi yn y swydd neu cyn pen chwe mis o adael y gyflogaeth honno. Fodd bynnag, gall amryw o ffactorau effeithio ar y terfyn amser, gan gynnwys y weithdrefn canllawiau statudol a rhai newidiadau i’r contract.
Back to top^
Pa fuddion y mae cyflog cyfartal yn eu cynnwys?
Mae cyfraith cyflog cyfartal yn diffinio cyflog yn gyffredinol iawn. Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn cwmpasu holl amodau a thelerau’r contract ac yn debygol o gynnwys:
Back to top^
A yw cyflog cyfartal yn berthnasol i mi?
Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithwyr ym Mhrydain waeth beth yw hyd eu gwasanaeth ac a ydyn nhw ar gontractau llawn amser, rhan-amser, achlysurol neu dros dro.
Gall gweithiwr rhan-amser ddefnyddio cyfraith cyflog cyfartal i herio gwahaniaethu ar sail cyflog ac amodau a thelerau cyflogaeth eraill, lle mae’n gallu nodi cydweithwyr rhan-amser neu lawn amser o’r rhyw arall sy’n gwneud gwaith cyfartal ac sy’n gweithio yn yr un lle.
A oes unrhyw delerau yn fy nghontract nad yw’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn eu cwmpasu?
Oes, mae rhai telerau sydd wedi’u heithrio. Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn ymestyn i bob mater o fewn contract gweithiwr cyflogedig ac eithrio’r canlynol:
-
-
Nid yw pobl sy’n cael eu cyflogi yn gyfan gwbl y tu allan i Brydain yn gallu cyflwyno hawliadau o dan y Ddeddf, oni bai eu bod wedi’u cyflogi gan gorff neu gwmni sydd â sefydliad ym Mhrydain, a bod eu gwaith yn cael ei gyflawni i’r sefydliad hwnnw, a naill ai bod yr unigolyn fel arfer yn byw ym Mhrydain pan wnaeth gais am y swydd neu ddechrau yn y swydd, neu ei fod wedi byw fel arfer ym Mhrydain unrhyw bryd yn ystod cyfnod y contract dramor.
-
Dylid trin pobl sydd wedi’u cyflogi ar fwrdd llong wedi’i chofrestru ym Mhrydain neu ar awyren neu hofrenfad wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig, fel gweithwyr cyflogedig sefydliad o Brydain. Fodd bynnag, os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni dramor, neu’r tu allan i ddyfroedd tiriogaethol Prydain yn gyfan gwbl neu’n bennaf, ni fyddant yn cael eu hystyried fel gweithwyr cyflogedig sefydliad ym Mhrydain oni bai eu bod yn gallu bodloni’r meini prawf a amlinellir uchod.
Back to top^
Beth yw cymharydd? Cymharu eich gwaith â gwaith rhywun arall
Efallai eich bod yn wynebu gwahaniaethu ar sail cyflog os oes rhywun arall sy’n gwneud gwaith tebyg neu waith o werth cyfartal:
‘Cymharydd’ yw’r enw ar yr unigolyn hwn, a rhaid i chi nodi rhywun o’r fath mewn unrhyw achos cyflog cyfartal. Allwch chi ddim hawlio bod eich cyflogwr fel arfer yn talu llai i fenywod na dynion, heb brofi’r peth.
Ni ellir defnyddio’r Ddeddf Cyflog Cyfartal i fynd i’r afael â chyflog anghyfartal os yw’r cymharydd o’r un rhyw, waeth pa mor annheg neu pha mor afresymol yw trefniadau cyflog y cyflogwr.
Mae ‘gweithio i’r un cyflogwr’ yn cynnwys pobl sy’n gweithio:
-
i’r un cyflogwr yn eich gweithle chi
-
i’r un cyflogwr mewn gweithle arall
-
i gyflogwr cysylltiedig (ee os yw’r cymharydd yn gweithio i brif gwmni’r cyflogwr)
-
yn yr un gwasanaeth (e.e. os ydych chi’n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG a bod eich cymharydd yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG wahanol)
Back to top^