Addysg: beth mae’r gyfraith yn ei ddweud
Y canlynol sy’n eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail rhyw yn bennaf:
On this page
Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
O dan adran 22 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, mae’n anghyfreithlon i ‘gorff cyfrifol’ sefydliad addysgol wahaniaethu ar sail rhyw. Mae hyn yn cynnwys gwahaniaethu gan:
-
ysgolion
-
colegau addysg bellach
-
prifysgolion
Yr awdurdod addysg lleol (AALl), y corff llywodraethu neu’r perchennog yw corff cyfrifol y sefydliad, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn rhoi rhestr lawn [insert link to list] o ba fathau o sefydliadau addysgol sy’n cael eu cynnwys yn y darpariaethau hyn.
Mae Adran 22(1) yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gorff cyfrifol wahaniaethu ar sail rhyw:
-
o ran yr amodau y mae’n eu gosod wrth gynnig lle i fyfyriwr, neu drwy wrthod cais neu beidio â’i dderbyn yn fwriadol.
-
lle mae’r unigolyn eisoes yn ddisgybl mewn sefydliad, nid oes hawl gan y corff cyfrifol i wahaniaethu yn y ffordd y mae’n cynnig unrhyw fuddion, cyfleusterau neu wasanaethau neu trwy ei wahardd o’r sefydliad neu drwy wneud iddo ddioddef unrhyw golled arall.
Yn ogystal â hyn, mae adrannau 22(2) a (3) yn nodi ei bod yn anghyfreithlon i gorff llywodraethu coleg neu brifysgol wahaniaethu:
Mae adran 23 ar ei phen ei hun yn nodi ei bod yn anghyfreithlon i Awdurdodau Addysg Lleol, Cyngor Dysgu a Sgiliau Lloegr, Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr a’r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion wneud unrhyw beth sy’n cael ei ystyried fel gwahaniaethu ar sail rhyw wrth gyflawni eu swyddogaethau dan y Deddfau Addysg amrywiol.
Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff cyfrifol eraill ddyletswydd arall o dan adran 25(1) i sicrhau bod y cyfleusterau addysg y maent yn eu darparu, ac unrhyw fuddion neu wasanaethau ategol eraill, yn cael eu darparu heb wahaniaethu ar sail rhyw.
Mae yna eithriadau er mwyn caniatáu ar gyfer ysgolion un rhyw. Fodd bynnag, mae’r gyfraith achosion yn nodi bod rhaid cael darpariaeth gyfartal i’r ddau ryw ble ceir darpariaeth ar gyfer sefydliadau un rhyw.
Back to top^
Y Ddeddf Addysg
Mae’r Ddeddf Addysg yn nodi dyletswyddau’r Awdurdodau Addysg Lleol pan fydd disgybl yn feichiog.
Os na all disgybl fynychu’r ysgol oherwydd beichiogrwydd, mae gan yr Awdurdod Addysg Lleol ddyletswydd o hyd i ddarparu addysg arall briodol, o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996. Diffinir ‘addysg briodol’ gan adran 19(6) fel addysg effeithlon sy’n briodol i oedran, gallu neu ddoniau’r plentyn neu berson ifanc neu i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo ef neu hi. Nid yw diffyg adnoddau’n ddigon o reswm i’r Awdurdod Addysg Lleol fethu â darparu addysg arall briodol.
Ni ellir defnyddio beichiogrwydd fel rheswm dros wahardd unigolyn. Ni ddylid defnyddio iechyd a diogelwch fel rheswm dros rwystro disgybl beichiog rhag mynychu’r ysgol. Dylai’r ysgol geisio cadw’r disgybl beichiog neu’r fam oed ysgol mewn addysg. Mae hyn yn golygu cadw’r disgybl ar gofrestr yr ysgol, hyd yn oed os na fydd hi’n gallu mynychu am gyfnod o amser; cael gwybod am ei datblygiad a gweithio gyda’r AALl i chwilio am amser priodol i’w hail-integreiddio i mewn i’r ysgol. Mae gan ddisgybl beichiog yr hawl i fod yn absennol am 18 wythnos galendr union cyn ac ar ôl genedigaeth y plentyn.
Dylai disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig sy’n feichiog gael eu trin yn yr un modd â merched eraill o dan strategaeth beichiogrwydd AALl ar gyfer disgyblion yn eu harddegau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i’r AALl adolygu’r datganiad er mwyn sicrhau, er enghraifft, bod y lleoliad a enwyd a’r ddarpariaeth ar wahân i addysg a nodwyd yn y datganiad yn dal i fod yn briodol.
Back to top^
Deddf Hawliau Dynol
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn dod â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o gyfraith y DU.
Mae Erthygl 14 y Confensiwn yn ymdrin â rhyddid rhag gwahaniaethu ac, er nad yw’n hawl ar ben ei hunan, gellir ei ddyfynnu ar y cyd â hawliau eraill y confensiwn, fel Erthygl 10 (rhyddid mynegiant) a allai fod yn berthnasol i achos ynglŷn â gwisg ysgol. Mae Erthygl 9 yn diogelu rhyddid crefyddol a gallai hon fod yn berthnasol mewn rhai achosion hefyd. Mae gan awdurdodau cyhoeddus fel ysgolion ddyletswydd ychwanegol hefyd i sicrhau bod eu harferion a’u gweithdrefnau’n cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Os ydych chi am ddibynnu ar y Ddeddf Hawliau Dynol, dylech gynnwys hyn ar eich ffurflen.
Back to top^