Mae’r gyfraith achosion ar godau gwisg wedi dangos y gall fod yn anodd perswadio tribiwnlys cyflogaeth bod côd gwisg arbennig yn trin un rhyw yn llai ffafriol, ac mae nifer o weithwyr wedi colli eu hachos.
Mae wedi cael ei benderfynu nad oes rhaid i gyflogwyr osod yr union yr un côd gwisg ar ddynion a menywod. Os yw’r côd gwisg yn nodi ‘safonau confensiynol o ran gwisg ac ymddangosiad’, yna bydd yn cael ei ystyried fel polisi sy’n trin dynion a menywod yn deg ac ni fyddai eich achos o wahaniaethu ar sail rhyw yn debygol o lwyddo.
Ar y llaw arall, mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol a chyfreithiau cydraddoldeb eraill wedi sefydlu na ddylai côdau gwisg wahaniaethu yn erbyn pobl o grwpiau hiliol a chrefyddol gwahanol, er enghraifft Sikhiaid sy’n gwisgo twrbanau a menywod sy’n gwisgo hijab (sgarff ar y pen).