Allai eich triniaeth fod yn ymwneud â’ch rhyw? 

 

hafan | rhyw | cwestiynauhawliauarweiniad | cymorthlawrlwytho | adnoddau

Young girl

Rydych chi’n ifanc, newydd ddechrau yn y coleg, ar gwrs hyfforddi neu’n newydd i’ch swydd. Dylai pethau fod yn gyffrous i chi - ffrindiau newydd, sgiliau newydd, pennod newydd yn eich hanes... ond mae rhywbeth o’i le. Efallai eich bod chi’n wynebu sefyllfa anodd heb wybod ble i droi?

Efallai bod y driniaeth yn ymwneud â’ch rhyw.

A dyma’r newyddion da - gallwch chi wneud rhywbeth am y peth!

Efallai eich bod yn teimlo i chi gael eich trin yn annheg ynghylch:

  • dewisiadau gyrfa
  • hyfforddiant
  • prentisiaethau
  • addysg bellach neu uwch
  • cael swydd
  • yn y gwaith 

Os felly, fe allwch weithredu. Mae cyngor a chymorth ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael â’r broblem.

Edrychwch ar rai o’r cwestiynau y mae pobl ifanc wedi gofyn i ni