Eich hawliau: cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal  

 

Mae gennych hawl i beidio â chael llai o gyflog na’ch cydweithwyr oherwydd eich rhyw, os yw’r gwaith yn wahanol ond o werth cyfartal o ran gofynion y swydd. ‘Gwaith o werth cyfartal’ yw’r enw ar hyn.

On this page

 

Beth yw ystyr gwerth cyfartal?

Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn disgrifio gwerth cyfartal yn nhermau gofynion y swydd. Mae’n rhoi 'ymdrech, sgil a phenderfyniad' fel enghreifftiau o ofynion arbennig. Nid yw hyn yn golygu mai dyma’r unig ofynion y dylid edrych arnyn nhw i benderfynu ar werth cyfartal. Bydd angen asesu elfennau unigol pob swydd. Yr hyn y mae gofyn i’r gweithwyr cyflogedig ei wneud yn y gwaith sy’n bwysig, yn hytrach na gwerth y gwaith i’r cyflogwr.


Back to top^  

Pa swyddi sydd wedi’u dyfarnu yn rhai o werth cyfartal?

Mae tribiwnlysoedd wedi dyfarnu bod sawl swydd o werth cyfartal. Mewn un achos dyfarnwyd bod gwaith cogyddes o werth cyfartal i waith yr oedd saer yn ei wneud, peintiwr a pheiriannydd insiwleiddio tai. Mewn achos arall, roedd menywod wedi’u cyflogi i bacio yn gwneud gwaith o werth cyfartal i labrwr. Mae nifer o fenywod sy’n beirianyddion gwnïo yn y diwydiant cynhyrchu dodrefn wedi cymharu’u gwaith yn llwyddiannus â dynion sy’n gwneud clustogwaith, ac mae menywod sy’n therapyddion lleferydd wedi ennill hawliadau gwerth cyfartal wrth gymharu eu hunain â dynion sy’n fferyllwyr a seicolegwyr galwedigaethol.

Mae’n bwysig cofio bod tribiwnlysoedd yn penderfynu pob achos yn ôl ei ffeithiau ei hun. Nid yw penderfyniad mewn un achos, boed yn ffafriol neu’n anffafriol, yn penderfynu canlyniad achosion eraill yn awtomatig, lle mae swyddi tebyg yn cael eu cymharu.


Back to top^