Eich hawliau: Cyflog cyfartal yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth
Mae gennych hawl i gyflog a buddion cyfartal pan rydych chi’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.
Yn wahanol i fathau eraill o hawliadau cyflog cyfartal, mae dwy sefyllfa lle nad oes angen i chi nodi dyn yn gymharydd:
-
lle na ystyriwyd codiad cyflog y byddech chi wedi’i gael pe na byddech chi wedi bod ar absenoldeb mamolaeth, wrth gyfrifo eich tâl mamolaeth
-
lle rydych chi heb gael taliadau bonws sy’n rhan o’ch contract, cyn neu ar ôl eich absenoldeb mamolaeth
Er hynny, o ran pob math arall o hawliad, mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn dal i’w gwneud yn ofynnol i chi nodi dyn yn gymharydd. Er enghraifft, os ydych chi heb gael gwyliau neu fuddion eraill yr oedd hawl gennych chi eu cael, yn ôl eich contract, tra’r oeddech chi ar absenoldeb mamolaeth, bydd dal angen i chi nodi dyn sy’n gwneud gwaith tebyg, neu waith o werth cyfartal i chi, a dderbyniodd y buddion hyn er mwyn cyflwyno hawliad.
On this page
Taliadau bonws
Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â thaliadau bonws ac absenoldeb mamolaeth yn gymhleth ac efallai y byddwch am chwilio am gyngor pellach sy’n berthnasol i’ch sefyllfa chi. Mae’r gyfraith yn y maes hwn yn dibynnu ar a yw’ch bonws yn ddewisol neu yn rhan o’ch contract; ac am beth mae’n cael ei ddyfarnu.
Mae rhai taliadau bonws a chomisiwn yn rhan o’ch contract ac, felly, yn rhan o’ch cyflog. Fel eich cyflog o dan gontract, nid oes hawl gennych chi gael y rhain yn ystod eich absenoldeb mamolaeth arferol neu ychwanegol, oni bai bod eich contract neu bolisi mamolaeth y cyflogwr yn dweud fel arall. Byddai hyn yn berthnasol er enghraifft os byddech chi’n cael bonws ar ben eich cyflog bob mis am yr hyn y gwnaethoch chi’i werthu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ar y llaw arall, os yw’n rhan o’ch contract bod eich cyflogwr yn talu bonws mewn perthynas â chyfnod amser arbennig (er enghraifft bonws blynyddol sy’n ymwneud â pherfformiad neu elw ar gyfer y flwyddyn dreth 2005-2006), bydd gennych hawl i gael bonws pro rata am yr amser cyn ac ar ôl i chi fynd ar seibiant mamolaeth. Mae hawl gennych hefyd i gael bonws am gyfnod yr absenoldeb mamolaeth gorfodol. Pythefnos gyntaf absenoldeb mamolaeth arferol (neu 4 wythnos os ydych chi’n gweithio mewn ffatri) yw hyn.
Os nad ydych chi’n cael y gyfran o’r bonws sy’n berthnasol i’r adeg yr oeddech yn y gwaith neu ar absenoldeb mamolaeth gorfodol, gallech gyflwyno achos o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal o bosibl. Diwygiwyd y Ddeddf Cyflog Cyfartal ar 1 Hydref 2005 felly, yn yr achos hwn, nid oes yn rhaid i chi gymharu’ch hun â’r ffordd y cafodd dyn ei drin er mwyn cyflwyno achos (yn wahanol i hawliadau eraill o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal). Am fwy o wybodaeth ewch i’r adran Cwestiynau Cyffredin.
Mae rhai taliadau bonws yn 'ddewisol' ac felly nid ydynt yn rhan o’ch cyflog o dan eich contract. Nid yw hyn yn glir bob amser hyd yn oed os yw’ch cyflogwr yn dweud bod bonws yn 'ddewisol'. Mewn gwirionedd gall fod yn rhan o’ch contract, er enghraifft os yw’n cael ei dalu yn rheolaidd. Os felly, byddai’n cael ei drin yn yr un ffordd â’r taliadau bonws eraill o dan gontract a ddisgrifir uchod.
Os yw’ch cyflogwr yn talu bonws dewisol o fath unigryw, ni fyddai hwn yn cael ei ystyried fel rhan o’ch cyflog o dan eich contract, felly fe ddylech ei gael boed i chi fod ar absenoldeb mamolaeth arferol neu ychwanegol.
Os nad ydych chi’n cael y bonws oherwydd eich beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth, efallai y gallwch gyflwyno achos o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn hytrach na’r Ddeddf Cyflog Cyfartal. Am fwy o wybodaeth am gyflwyno achos o wahaniaethu ar sail rhyw, ewch i’n gwybodaeth am Feichiogrwydd a Mamolaeth.
Mae’r ffin rhwng hawliadau sy’n dod o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal a hawliadau sy’n dod o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn aneglur. Weithiau mae’n well rhoi’r ddwy Ddeddf ar y ffurflen i’r tribiwnlys cyflogaeth er mwyn bod yn ddiogel. Os nad ydych chi’n siŵr, dylech ofyn am gyngor pellach.
Cofiwch mai 3 mis yw’r terfyn amser ar gyfer cofrestru hawliadau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, sy’n fyrrach nag o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal. Gweler Beichiogrwydd a Mamolaeth am fwy o fanylion.
Back to top^
Codiadau cyflog
Pan rydych chi ar absenoldeb mamolaeth, byddwch chi’n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol ac, mewn rhai achosion, tâl mamolaeth o dan amodau eich contract. Bydd y tâl y byddwch yn ei gael, neu ran ohono, yn seiliedig ar eich enillion arferol ar gyfartaledd.
Os oes gennych chi hawl i godiad cyflog gan eich cyflogwr rhwng yr adeg y cafodd eich cyflog mamolaeth ei gyfrifo (ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol, yr wyth wythnos hyd at ac sy’n cynnwys yr wythnos gymhwyso yw hwn) a diwedd eich absenoldeb mamolaeth, dylai’r codiad cyflog hwn gael ei ystyried wrth gyfrifo eich tâl mamolaeth.
Os nad yw’ch cyflogwr yn ystyried y codiad cyflog wrth gyfrifo’ch tâl mamolaeth, mae’n bosibl y byddech yn gallu cyflwyno achos o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal. Fel yn achos taliadau bonws, ar gyfer y math hwn o achos, ni fyddai angen i chi gymharu eich hun â’r ffordd yr oedd dyn wedi’i drin er mwyn cyflwyno hawliad.
Back to top^