Ni chaniateir i gyflogwyr wahaniaethu ar sail newid rhyw:
-
wrth recriwtio – mae hyn yn cynnwys y trefniadau a wneir ar gyfer llenwi swydd a phenderfynu pwy ddylai gael y swydd
-
yn ystod cyflogaeth – mae hyn yn cynnwys triniaeth gyfartal o ran dyrchafiad, hyfforddiant, trosglwyddo, a’r hawl i fuddiannau sy’n ymwneud â’r swydd, gan gynnwys cyflog, ac mae’n rhoi’r hawl i chi weithio mewn amgylchedd lle nad oes aflonyddu ar sail newid rhyw
-
wrth ddod â’r gyflogaeth i ben – mae hyn yn cynnwys diswyddo a dewis swyddi i’w dileu.