Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau cyhoeddus  

Mae’r adran hon yn ymwneud â’ch hawl chi fel defnyddiwr gwasanaethau a ddarperir gan gyrff cyhoeddus i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw.

I gael mwy o wybodaeth am hawliau defnyddwyr, megis gwarantau cynnyrch a materion safonau masnach, ewch i wefan DirectGov

I gael gwybod mwy am gyfrifoldebau cyrff cyhoeddus i osgoi gwahaniaethu, ewch i Busnesau a sefydliadau: cyrff cyhoeddus [insert link to section in Businesses and organisations]

I gael gwybod mwy am eich hawliau eraill wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, ewch i Hawliau ar waith: gwasanaethau cyhoeddus [insert link to section in Rights in Action]



Read about your rights.
Read about what the law says.


Beth yw gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Pan fydd nwyddau neu wasanaethau’n cael eu darparu gan gorff cyhoeddus, rhaid iddynt gael eu darparu mewn ffordd sydd ddim yn gwahaniaethu’n annheg ar sail rhyw.

Yn ogystal â’r gofyniad cyfreithiol i beidio â gwahaniaethu, mae gan gyrff cyhoeddus gyfrifoldebau ychwanegol dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol i gymryd camau gweithredol i hyrwyddo cydraddoldeb.  I gael mwy o wybodaeth, darllenwch Cyrff cyhoeddus: y Ddyletswydd Cydraddoldeb Rhywiol [insert link to section in Public bodies].

Gallech ddioddef gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau a ddarperir gan gyrff cyhoeddus mewn meysydd fel:

  • darparu gwasanaethau trafnidiaeth
  • darparu triniaeth neu feddyginiaeth i gleifion o’r ddau ryw a sicrhau bod gwasanaethau iechyd ar gael yr un mor rhwydd i ddynion a menywod
  • darparu llety megis tai, llochesau ac ati

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn cael ei chymhwyso’n wahanol i gyrff cyhoeddus pan fyddant yn darparu gwasanaeth na allai corff preifat ei ddarparu (er enghraifft, penderfynu ar bwy fyddai’n cael y plant mewn achosion ysgaru). Fodd bynnag, fe allai’r Ddeddf Hawliau Dynol barhau i fod yn berthnasol. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwasanaethau cyhoeddus: beth mae’r gyfraith yn ei ddweud [insert link to section].

Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw

Gallai’r enghreifftiau gynnwys:

  • Gofyn cwestiynau am ofal plant mewn cyfweliad i fenyw, a pheidio â’u gofyn i ddyn
  • Trin menyw yn anffafriol am ei bod hi’n feichiog

Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw

Gallai fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw, lle gosodir yr un amod neu ofyniad ar fenywod a dynion, ond lle mae’r amod neu ofyniad hwnnw’n effeithio’n andwyol ar un rhyw, a hwnnw yn ddiangen mewn gwirionedd.  Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • Rhoi cyfyngiad taldra ar swydd
  • Gosod gofyniad bod rhaid i bob gweithiwr weithio’n llawn amser.