Gall gweithwyr rhan-amser ddefnyddio cyfraith cyflog cyfartal i herio gwahaniaethu ar sail cyflog ac amodau a thelerau cyflogaeth eraill.
Mae gan weithwyr rhan-amser yr un hawl i’r un cyflog a buddion â gweithwyr llawn amser sy’n gwneud gwaith tebyg neu waith o werth cyfartal.
Gellir gwahaniaethu ar sail cyflog yn erbyn gweithwyr rhan-amser mewn sawl ffordd. Dyma’r rhai mwyaf cyffredin:
-
cael cyfradd yr awr is, neu gyflog llai na pro-rata, o gymharu â gweithwyr llawn amser
-
dim hawl i fuddion cyflog eraill (megis pensiwn galwedigaethol, taliadau bonws, tâl shifft) o gymharu â gweithwyr llawn amser
-
dim hawl i fuddion cyflog pro-rata (megis hawl i wyliau, tâl salwch, tâl shifft) o gymharu â gweithwyr llawn amser.
Mae hyn yn dod o dan ddeddfwriaeth cyflog cyfartal oherwydd bod llawer mwy o fenywod yn debygol o weithio’n rhan-amser na dynion. Mae hyn yn golygu bod gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr rhan-amser yn debygol o gyfateb i wahaniaethu yn erbyn menywod, oni bai bod rheswm clir a diduedd dros wneud hynny.
Os yw menyw sy’n gweithio’n rhan-amser yn gwneud hawliad llwyddiannus am gyflog cyfartal â chydweithiwr llawn amser, gall dyn sy’n weithiwr rhan-amser wedyn hawlio’r un amodau a thelerau â’r fenyw. Gelwir y rhain yn hawliadau 'piggyback'.
Os yw’r gwahaniaethu yn amlwg yn gysylltiedig â’r ffaith eich bod yn gweithio’n rhan-amser, ac nad yw’n gwahaniaethu ar sail rhyw, efallai y gallwch gyflwyno achos o dan y Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser.