Eich hawliau: Cyflog cyfartal am waith tebyg  

 

Mae gennych hawl i gyflog cyfartal o dan amgylchiadau lle’r ydych chi’n gwneud yr un gwaith neu waith sy’n lled debyg. Yr enw ar hyn yw 'gwaith tebyg'.

On this page

 

Beth yw gwaith tebyg?

‘Gwaith tebyg’ yw gwaith sydd yr un fath â’r gwaith y mae’r cymharydd yn ei wneud, neu’n lled debyg iddo.

Mae’r un gwaith yn golygu eich bod chi’n gwneud yr un gwaith yn union â’ch cymharydd (ee dynion a menywod sy’n arianwyr banc ac sy’n gweithio ar yr un cownter; menywod a dynion yn gweini prydau bwyd yn yr un bwyty).

Mae gwaith lled debyg yn golygu eich bod chi’n gwneud gwaith o’r un natur â’ch cymharydd ond bod yna fân wahaniaethau rhwng y swyddi. Dyma enghreifftiau o waith lled debyg mewn achosion go iawn a ddaeth o flaen y llysoedd:

  • dynion a menywod sy’n gynorthwywr siop ond sy’n gweithio mewn gwahanol adrannau yn yr un siop fawr
  • cogyddes sy’n paratoi cinio i gyfarwyddwyr cwmni yn cymharu ei hun â chogydd a oedd yn coginio ar gyfer gweithwyr cyflogedig yn ffreutur y cwmni.

Mae’r llysoedd wedi penderfynu y gellir barnu a yw dwy swydd yn lled debyg trwy ystyried yn gyffredinol y math o waith sydd dan sylw a’r sgil a’r wybodaeth sydd eu hangen i’w cyflawni. Nid yw gwahanol deitlau swyddi, disgrifiadau swydd neu rwymedigaethau o dan gontract o reidrwydd yn eich rhwystro rhag cyflwyno achos gwaith tebyg. Yr hyn y mae deiliaid y swyddi yn ei wneud sy’n cyfrif, nid yr hyn y dylent ei wneud.


Back to top^