Os ydych chi’n wynebu gwahaniaethu ar sail eich rhyw, mae gennych hawl i gyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Dyma’r cam eithaf i’r rhan fwyaf o bobl, a dylech yn gyntaf geisio datrys pethau’n fewnol gyda’ch cyflogwr. Os ydych yn mynd i gyflwyno hawliad, bydd er lles i chi ddangos eich bod wedi gwneud pob dim posibl i ddatrys y broblem yn y gweithle. Os ydych o’r farn bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn mae’n syniad da cadw dyddiadur o ddigwyddiadau gyda dyddiadau ac amserau a manylion yr hyn a ddigwyddodd. Gallech chi geisio codi’r mater gyda’ch rheolwr llinell uniongyrchol neu os mai hwnnw yw’r sawl sy’n achosi’r problemau, gallech fynd at ei reolwr yntau neu at eich adran Adnoddau Dynol os oes un. Os oes gennych undeb neu gymdeithas staff, dylech gysylltu â nhw am gymorth.
Achwyn
Os nad ydych chi’n gallu datrys y broblem yn anffurfiol ac yn penderfynu mynd â’r peth ymhellach, dylech ysgrifennu llythyr achwyn at eich cyflogwr. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’n orfodol achwyn cyn cofrestru eich hawliad gyda’r tribiwnlys cyflogaeth. Y rheswm am hyn yw bod y llywodraeth wedi cyflwyno gweithdrefn achwyn statudol sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o hawliadau o wahaniaethu ar sail rhyw, er mwyn annog pobl i ddatrys eu hanghydfod yn y gweithle heb yr angen i fynd i dribiwnlys cyflogaeth. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno llythyr achwyn ysgrifenedig i’ch cyflogwr am y gwahaniaethu ar sail rhyw ac aros 28 diwrnod am ateb cyn cyflwyno’ch cais i’r tribiwnlys cyflogaeth. Os na wnewch chi hyn, bydd y tribiwnlys yn gwrthod eich cais.
Pan fyddwch chi wedi anfon llythyr achwyn ysgrifenedig dylech chi gydymffurfio â gweddill y weithdrefn achwyn cyn cyflwyno eich hawliad. Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod i drafod eich cwyn. Mae gennych hawl i fynd â chynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr dibynadwy gyda chi. Os yw eich cwyn yn cael ei gwrthod, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, a dylech ddefnyddio’r hawl hon. Os na fyddwch chi’n dilyn y weithdrefn, er enghraifft trwy fethu â mynychu cyfarfod neu beidio â gweithredu eich hawl i apelio, gall y tribiwnlys ostwng unrhyw iawndal y byddwch chi’n ei ennill hyd at 50%. Yn yr un modd, os na fydd eich cyflogwr yn dilyn y weithdrefn achwyn, gall eich iawndal gael ei godi hyd at 50%. Dylech anfon eich cwyn cyn gynted â phosibl a chofio’r terfynau amser cyffredinol ar gyfer cyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth fel y trafodir isod.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r weithdrefn achwyn statudol yn berthnasol i’ch hawliad, dylech ddal i anfon cwyn ysgrifenedig gan y gallai hyn helpu i ddatrys yr achos heb yr angen i fynd i dribiwnlys cyflogaeth.
Os ydych yn cwyno am fod eich cyflogwr wedi’ch diswyddo (gan gynnwys dileu eich swydd), mae gweithdrefn wahanol yn berthnasol. Gweithdrefn Disgyblu a Diswyddo yw hon lle mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniad i’ch diswyddo. Am wybodaeth am effaith y Weithdrefn hon ar eich terfynau amser ar gyfer cofrestru hawliad, gweler yr adran sut i ddefnyddio’ch hawliau ar y wefan hon. Os ydych chi hefyd yn cwyno am rywbeth heblaw diswyddo, yna dan rai amgylchiadau efallai y bydd y Weithdrefn Achwyn Statudol hefyd yn berthnasol i’r rhan honno o’ch hawliad felly bydd yn rhaid i chi gyflwyno cwyn ysgrifenedig at y driniaeth honno hefyd.
Mae’r adran sut i ddefnyddio’ch hawliau yn ymdrin â’r ddwy Weithdrefn yn fwy manwl ac yn cynnwys cyngor ar ysgrifennu at eich cyflogwr. Am gyngor pellach ar y gweithdrefnau hyn cysylltwch ag ACAS. Mae’r Adran Masnach a Diwydiant hefyd wedi paratoi canllawiau: Resolving Disputes at Work sy’n egluro’r gweithdrefnau.
Gweithdrefn holiadur Adran 74
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno hawliad, gallech ddefnyddio ffurflen holiadur arbennig (SD74) i gasglu mwy o wybodaeth am eich cwyn a gofyn cwestiynau i’ch cyflogwr am y rhesymau dros y driniaeth a gawsoch. Gall yr holiadur eich cynorthwyo i benderfynu a ydych am gyflwyno hawliad. Rhaid ei anfon at y cyflogwr cyn pen 3 mis ar ôl dyddiad y gwahaniaethu honedig neu cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y derbyniodd y tribiwnlys cyflogaeth eich cwyn. Gellir lawrlwytho’r holiadur o’r wefan hon neu gallwch chi archebu copi caled gan ein Llinell Gymorth. Am fwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r holiadur, gweler sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Cyflwyno hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw i’r tribiwnlys cyflogaeth
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr ac am wneud cwyn, rhaid i chi anfon eich cwyn ar y Ffurflen Gais Tribiwnlys Cyflogaeth swyddogol (ET1) i’r tribiwnlys cyflogaeth agosaf at eich gweithle. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, rhaid i chi anfon eich ET1 i Swyddfa Ganolog y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (COET). Os yw’r weithdrefn achwyn statudol yn berthnasol, rhaid i chi gyflwyno cwyn ysgrifenedig i’ch cyflogwr ac aros 28 niwrnod cyn cyflwyno cais i’r tribiwnlys. Fel arall, fe wrthodir eich cais. Gallwch gael ffurflen ET1 gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Neu, gallwch lenwi a chyflwyno eich cais ar-lein ar wefan y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gyflwyno hawliad tribiwnlys yn sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Terfynau amser ar gyfer eich cwyn
Os byddwch chi’n penderfynu cyflwyno cwyn, rhaid i chi wneud eich cwyn i’r tribiwnlys cyflogaeth cyn pen 3 mis (namyn diwrnod) o ddyddiad y gwahaniaethu. Ni ellir cofrestru cwynion ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na gŵyl gyhoeddus, felly bydd angen i chi gyfrif yn ôl i’r diwrnod gwaith agosaf os bydd eich terfyn amser yn dod i ben ar un o’r diwrnodau hyn.
Gan ei bod bellach yn orfodol cyflwyno cwyn ysgrifenedig, os yw’r weithdrefn achwyn statudol yn berthnasol i’ch hawliad gellir ymestyn y terfyn amser hwn o 3 mis ychwanegol er mwyn i chi allu cwblhau’r weithdrefn. Gellir ymestyn y terfyn amser naill ai
-
os ydych wedi anfon cwyn ysgrifenedig at eich cyflogwr o fewn y terfyn amser gwreiddiol o 3 mis neu,
-
os ydych wedi ceisio cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth o fewn y terfyn amser gwreiddiol o 3 mis heb fod wedi anfon cwyn at eich cyflogwr, a bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwrthod eich cwyn. Rhaid i chi wedyn anfon cwyn ysgrifenedig at eich cyflogwr heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl diwedd y terfyn amser gwreiddiol o 3 mis.
Mae’n bwysig iawn cofio mai dim ond lle mae’r weithdrefn achwyn statudol yn berthnasol, y mae’r estyniad i’r terfyn amser yn berthnasol. Er enghraifft, dim ond i hawliadau a gyflwynir gan bobl sy’n dod o fewn diffiniad ‘gweithiwr cyflogedig’ yn y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (nid y diffiniad ehangach a ddefnyddir gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw a’r Ddeddf Cyflog Cyfartal) y mae’n berthnasol. Hefyd, os ydych chi’n cyflwyno hawliad o dan fwy nag un ddeddfwriaeth, efallai na fydd yn berthnasol i bob agwedd ar eich hawliad.
Os nad yw’r weithdrefn achwyn statudol yn berthnasol, neu os nad ydych chi’n siŵr a yw’n berthnasol, dylech wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch hawliad o fewn y terfyn amser gwreiddiol o 3 mis. Mae hwn yn faes cymhleth o’r gyfraith: am fwy o wybodaeth gweler yr adran sut i ddefnyddio’ch hawliau neu cysylltwch ag ACAS.
Peidiwch ag oedi cyn anfon eich hawliad hyd yn oed os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu’n disgwyl gweld a fydd eich undeb neu gorff arall yn eich cynrychioli. Os na fydd eich cwyn wedi’i datrys a bod y terfyn amser yn nesáu, cyflwynwch eich ET1 i’r tribiwnlys cyflogaeth. Dylech hefyd anfon llythyr ar wahân yn gofyn am beidio â rhestru eich achos ar gyfer gwrandawiad nes y byddwch yn gwybod canlyniad eich cwyn. Er bod yn rhaid i’r tribiwnlys ostwng eich iawndal o dan rai amgylchiadau os byddwch chi’n ffeilio’ch cwyn cyn i’r weithdrefn ddod i ben, mae’n bwysicach eich bod chi’n ffeilio’ch hawliad mewn pryd.
Beth os ydw i y tu allan i'r terfyn amser i gyflwyno fy hawliad gyda'r tribwnlys cyflogaeth?
Efallai y bydd y tribiwnlys yn barod i ymestyn y terfynau amser os yw’n gyfiawn a theg i wneud hynny. Efallai y bydd yn ymestyn y terfyn amser, er enghraifft, os oeddech chi’n rhy sâl i anfon hawliad neu yn disgwyl i’ch cyflogwr gymryd rhyw gamau penodol. Mae’n dal yn werth gwneud hawliad ac egluro’n llawn ym Mocs 10 ar y ffurflen ET1 (sy’n gofyn am wybodaeth ychwanegol) pam rydych chi wedi oedi, ond ni ddylech chi fyth ddibynnu ar hyn.
Beth os yw'r gwahaniaethu wedi bod yn parhau dros gyfnod o amser?
Weithiau mae gwahaniaethu parhaus yn cael ei drin fel cwrs parhaus o ymddygiad. Os felly, ni fydd gwahaniaeth os bydd rhai digwyddiadau wedi digwydd dros 3 mis yn ôl. Ond, y peth mwyaf diogel i’w wneud yw cyflwyno eich hawliad cyn pen 3 mis o’r digwyddiad cyntaf i wneud yn siŵr bod pob digwyddiad yn dod o fewn y terfyn amser. Mae pob digwyddiad yn bwysig i ddangos patrwm o ymddygiad felly dylech gynnwys pob un ar yr ET1.
Beth sy'n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys?
Mae tribiwnlys cyflogaeth yn llai ffurfiol na llys ynadon neu lys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu lys siryf yn yr Alban, ond fel llys mae ganddo weithdrefnau a rheolau. Mae panel o dri aelod. Mae’r unigolyn â gofal, sef y cadeirydd, yn gyfreithiwr. Mae un o’r ddau arall yn gynrychiolydd sefydliad gweithwyr cyflogedig, a’r llall yn gynrychiolydd sefydliad cyflogwyr. Mae tribiwnlysoedd yn agored i’r cyhoedd felly gallwch weld beth sy’n digwydd trwy fynd i wrandawiad, ond gan fod y rhan fwyaf o hawliadau tribiwnlys yn ymwneud â diswyddo annheg, mae’n bosibl na fyddwch yn gweld achos gwahaniaethu ar sail rhyw. Gallwch gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys i gael gwybod ar ba ddyddiadau y mae achosion gwahaniaethu ar sail rhyw yn cael gwrandawiad, ond beth bynnag fydd pwnc yr achos, mae’n ddefnyddiol cael gwybod yn gynnar sut beth yw tribiwnlys.
Pan fyddwch yn cyflwyno hawliad o wahaniaethu, mae’n rhaid i chi argyhoeddi’r tribiwnlys bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Bydd y sawl rydych chi’n dweud sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn amddiffyn yr hawliad a cheisio perswadio’r tribiwnlys nad oedd neb wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Gydol y broses chi fydd yr ‘hawliwr’ a’ch gwrthwynebydd fydd yr ‘atebydd’. Gyda’ch gilydd, chi fydd ‘partïon’ yr hawliad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Beth fydda i'n ennill o gyflwyno hawliad?
Diben mynd i dribiwnlys yw er mwyn penderfynu a yw eich cyflogwr wedi torri’r gyfraith. Os bydd tribiwnlys yn penderfynu o’ch plaid gall:
-
ddatgan bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn anghyfreithlon
-
gorchymyn eich cyflogwr i’ch digolledu am eich colledion, a/neu
-
argymell bod eich cyflogwr yn cymryd camau i leihau effaith y gwahaniaethu arnoch chi.
Fe welwch fod y broses lawer yn haws os byddwch chi’n penderfynu beth rydych chi’n gobeithio ei ennill wrth gyflwyno hawliad. Ydych chi am ymddiheuriad? Geirda teilwng? Cyfiawnder? Iawndal? Ydych chi am atal yr atebydd rhag gwahaniaethu yn erbyn pobl eraill? Gall bod yn glir beth rydych chi’n gobeithio ei ennill eich helpu i baratoi eich hawliad. Bydd o help hefyd i chi benderfynu a ydych am dderbyn unrhyw gynnig o setliad neu beidio, yn hytrach na mynd i’r tribiwnlys.
Iawndal
Gall tribiwnlys orchymyn iawndal am y canlynol neu rai ohonynt:
Dim ond iawndal y gall tribiwnlys ei ddyfarnu; gall wneud argymhellion ond ni all orchymyn i chi gael eich gwaith yn ôl (oni bai eich bod hefyd yn cyflwyno achos o ddiswyddo annheg a bod hwnnw’n llwyddiannus. Mae’n bosibl weithiau i gael eich gwaith yn ôl mewn achos o’r fath), ac ni all orchymyn y cyflogwr i roi geirda y cytunwyd arno i chi.
Setliadau
Mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â’r hyn y carech ei weld yn digwydd cyn y gallwch benderfynu a ddylech dderbyn setliad neu fynd ymlaen i wrandawiad tribiwnlys.
Mae’n bwysig cofio nad oes angen mynd â’ch achos yr holl ffordd i wrandawiad mewn tribiwnlys o anghenraid, er mwyn sicrhau eich hawliau.
Os yw setliad yn gwneud i gyflogwr ailfeddwl ynglŷn â’i agweddau a newid ei arferion gwaith, efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod wedi gwneud eich pwynt ac yn barod i setlo heb wrandawiad tribiwnlys.
Dyma rai posibiliadau y dylech eu hystyried:
Faint fydd cost cyflwyno hawliad?
Nid yw’n costio dim i gofrestru hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth ac os na fyddwch yn cyflogi cyfreithiwr i’ch cynrychioli, ni ddylai gostio llawer i chi. Gellir hawlio’r rhan fwyaf o’ch treuliau (megis teithio a cholli enillion) yn ôl gan y tribiwnlys. Mae pob parti fel arfer yn ysgwyddo’u costau eu hunain o ran paratoi ar gyfer y gwrandawiad a chost unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol y maen nhw’n ei gyflogi, felly hyd yn oed os byddwch yn colli nid ydych yn debyg o orfod talu costau’r atebydd. Ar y llaw arall, mae gan y tribiwnlys y pŵer i ddyfarnu costau yn eich erbyn os byddwch yn ymddwyn “yn flinderus, yn ddifrïol, yn stwrllyd neu yn afresymol mewn ffordd arall”. Gall y tribiwnlys hefyd ddyfarnu costau yn eich erbyn lle mae o’r farn mai camsyniad oedd cyflwyno’r achos (hy, nad oedd gan eich hawliad unrhyw obaith rhesymol o lwyddo). Efallai y gofynnir i chi dalu blaendal unrhyw bryd yn ystod yr achos os bydd y tribiwnlys yn penderfynu nad oes gan eich hawliad unrhyw obaith rhesymol o lwyddo. Mae’n bosibl hefyd i’r tribiwnlys orchymyn i’r atebydd dalu costau i chi os byddan nhw’n ymddwyn yn flinderus, yn ddifrïol, yn stwrllyd neu’n afresymol mewn ffordd arall wrth amddiffyn yr achos. Nid oes llawer o beryg i hawlwyr sydd â hawliad dilys y gellir ei ddadlau yn gyfreithiol, ac sy’n cynnal eu hawliad yn rhesymol, orfod talu unrhyw gostau. Am fwy o wybodaeth ac enghreifftiau lle gofynnir i’r naill barti neu’r llall dalu costau gweler sut i ddefnyddio’ch hawliau.
Alla'i osgoi cyhoeddusrwydd sy'n achosi embaras?
Mae gwrandawiadau tribiwnlys fel arfer ar agor i’r cyhoedd gan gynnwys y wasg. Gall tribiwnlys, o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, wneud gorchymyn cyfyngu ar adroddiad. Mae hyn yn golygu na all y cyfryngau gyhoeddi’ch enw nac enwau’r atebwyr yn ystod gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r gorchymyn hwn yn dod i ben fel arfer pan fo’r tribiwnlys yn dod i benderfyniad ac nid yw’r manylion na’r enwau bellach yn gyfrinachol.
Y Cod Ymarfer
Mae'r Comisiwn Cyfle Cyfartal wedi cyhoeddi Cod Ymarfer ar wahaniaethu ar sail rhyw. Mae’r Cod yn rhoi canllawiau i gyflogwyr, undebau llafur ac asiantaethau cyflogaeth ar gamau y gellir eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng menywod a dynion. Mae copi ar gael ar y wefan hon neu trwy’r Llinell Gymorth. Edrychwch a yw’r Côd yn trafod yr hyn rydych chi’n cwyno yn ei gylch. Os yw’r atebydd wedi torri’r cod, dylech dynnu sylw’r tribiwnlys at hyn.
Undeb Llafur
Os ydych chi’n perthyn i undeb llafur gallwch ofyn am gymorth naill ai gan gynrychiolydd lleol yr undeb neu trwy gysylltu â swyddog llawn amser. Os yw’ch undeb yn cael ei gydnabod yn swyddogol yna bydd eich cyflogwr yn disgwyl i chi fynd at yr undeb. Dylai’ch undeb fod mewn sefyllfa i drafod ar eich rhan. Os ydych chi’n cael anhawster gyda chynrychiolydd lleol eich undeb llafur, cysylltwch â’r swyddog ardal neu ranbarthol a dylai ef neu hi allu’ch cynorthwyo. Os ydych yn cael unrhyw anhawster ar lefel ardal neu ranbarthol, cysylltwch â swyddog cyfle cyfartal cenedlaethol eich undeb trwy brif swyddfa’r undeb. O dan rai amgylchiadau efallai y bydd yr undeb yn trefnu cyfreithiwr i’ch cynrychioli.
Cymodi trwy ACAS
Mae ACAS yn gorff annibynnol sydd â dyletswydd statudol i geisio datrys achosion sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Pan fyddwch wedi cofrestru eich hawliad gyda’r tribiwnlys cyflogaeth, bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’ch ET1 i ACAS. Bydd eich hawliad yn cael ei roi i swyddog cymodi. Bydd y swyddog hwn yn cysylltu â chi a’r atebydd ac yn cynnig cymodi neu’n ceisio trafod setliad rhyngoch. Os byddwch chi a’r atebydd yn barod i gymodi bydd y swyddog yn ceisio’ch cynorthwyo i ddod i setliad heb yr angen am wrandawiad tribiwnlys. Mater gwirfoddol yw cymodi ac felly mae’n rhydd i chi a’r atebydd wrthod cymorth ACAS neu ddod â’r broses i ben ar unrhyw adeg. Mae gan y swyddog cymodi ddyletswydd i fod yn ddiduedd ac annibynnol ac ni all weithredu fel cynrychiolydd ar ran y naill barti na’r llall. Bydd y swyddog yn esbonio trefniadau’r tribiwnlys, y gyfraith berthnasol a’r ffordd y mae tribiwnlysoedd wedi ymdrin ag achosion tebyg yn y gorffennol. Bydd y swyddog hefyd yn eich cynorthwyo i sefydlu ffeithiau’ch cwyn ac egluro’ch safbwyntiau. Bydd y swyddog yn esbonio eich safbwynt chi i’r atebydd, a safbwynt yr atebydd i chithau. Nid gwaith y swyddog yw ffurfio barn ar eich achos, nac ychwaith i fynegi ei farn ei hun arno. Nid gwaith y swyddog yw cymeradwyo na hyd yn oed argymell unrhyw setliad penodol. Eich cyfrifoldeb chi a’r atebydd yw trefnu a chytuno ar amodau. Mae felly’n bwysig iawn fod gennych syniad clir o’r hyn yr ydych yn fodlon setlo arno a’ch bod wedi gwneud rhestr ar wahân o’r holl eitemau yr ydych yn hawlio iawndal amdanynt. Os cytunwch ar setliad caiff yr amodau eu rhestru ar ffurflen o’r enw COT3. Mae hon yn eich rhwymo chi a’r atebydd yn gyfreithiol. Os nad ydych eisiau derbyn setliad, bydd eich achos yn mynd i dribiwnlys i gael gwrandawiad llawn.
Sut all y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol helpu?
Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
-
ddweud mwy wrthych am eich hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, yn enwedig os ydych o’r farn bod gennych sail ar gyfer hawliad
-
eich cynghori ar y camau y gallwch eu cymryd i ddatrys eich cwyn ar eich pen eich hun
-
eich cynghori ar gyflwyno hawliad gwahaniaethu ar sail rhyw i’r tribiwnlys cyflogaeth
-
mewn rhai achosion, rhoi cymorth cyfreithiol neu ariannol
Nid yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gallu rhoi dyfarniad cyfreithiol ar hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw; dim ond y llysoedd all wneud hynny.
Mae ein adran cyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth yn rhoi canllawiau ar:
- gwblhau’r cais i’r tribiwnlys
- casglu eich tystiolaeth ynghyd
- cael tystiolaeth gan yr atebydd; a
- gwrandawiad y tribiwnlys ei hun a’r hyn sy’n digwydd ar ôl y gwrandawiad
Am fwy o wybodaeth am gyflwyno achos i dribiwnlys cyflogaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth neu ewch i’w wefan.
The Gender Trust
Elusen gofrestredig sy’n cynorthwyo pobl drawsrywiol
Llinell Gymorth: 07000 790347
Press for Change
Sefydliad addysgiadol a lobïo gwleidyddol sy’n ymgyrchu i gael hawliau sifil cyfwerth a rhyddid i’r holl bobl drawsrywiol yn y DU, trwy ddeddfwriaeth a newid cymdeithasol. Mae’r wefan yn cynnwys testun llawn y rheoliadau newid rhyw.
Liberty
Sefydliad annibynnol, anllywodraethol sy’n gweithio i ymestyn hawliau sifil pobl Prydain.
Llinell Gymorth: 0845 123 2307
(Oriau agor cyfyngedig - Dydd Llun a dydd Iau, 6.30pm-8.30pm, a dydd Mercher,12.30pm-2.30pm)
Adran Addysg a Sgiliau
Mae wedi paratoi canllawiau ar Wahaniaethu ar sail Rhyw (Rheoliadau Newid Rhyw 1999).
Llinell Gymorth: 0870 000 2288
Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Llinell Gymorth: 08457 474747
Gwasanaeth Tribiwnlys Cyflogaeth
Llinell Gymorth: 08457 959 775
Adran Masnach a Diwydiant
Cyngor Ar Bopeth (CAB) a Chanolfannau'r Gyfraith
Mae CAB a Chanolfannau’r Gyfraith yn rhoi cyngor am ddim ac weithiau’n gallu darparu cynrychiolaeth yn y tribiwnlys cyflogaeth. I ganfod eich CAB agosaf ewch i :