Mae pobl ifanc wedi gofyn y cwestiynau hyn i ni 

 

hafan | rhyw | cwestiynau | hawliauarweiniad | cymorthlawrlwytho | adnoddau

A yw’r enghreifftiau go iawn isod yn swnio’n gyfarwydd i chi neu’ch ffrindiau?

Three Asian young women  

  • "Dwi ar gwrs hyfforddi i fod yn drydanwr. Mae’r athro yn fy anfon i nôl brechdanau a gwneud te tra bo’r dynion ifanc yn gwneud gwaith ymarferol. Beth alla i ei wneud?"
  • "Dwi’n gweithio’n rhan-amser mewn archfarchnad ac wedi cael gwybod na chaf i ddim mwy o hyfforddiant am mai dim ond y rhai sy’n gweithio’n llawn amser sy’n gymwys. Ydy hyn yn deg?"
  • "Rydw i’n cael fy mhoeni yn y gwaith drwy’r amser am fy mod i’n gwisgo hijab. Sut alla i wneud iddyn nhw fy nhrin i â pharch?"
  • "Es i am brentisiaeth fel nyrs feithrin ond fe ddwedon nhw nad oedden nhw’n derbyn dynion ifanc. Allan nhw wneud hyn?"
  • "Dwi yn fy swydd gyntaf ac wedi canfod bod dynion yn cael mwy o gyflog na menywod. Mae’r bos yn dweud mai’r rheswm yw bod dynion yn defnyddio peiriannau mwy cymhleth ond rydyn ni fenywod yn defnyddio’r rhan fwyaf o’r un peiriannau. Allwn ni wneud rhywbeth am y gwahaniaeth yn ein cyflog?"
  • "Dwi wastad wedi gobeithio bod yn blymwr ond mae fy nghynghorydd gyrfa yn dweud nad yw’n swydd addas i fenyw ifanc. Ydy hi’n iawn?"
  • "Fe ddwedes i wrth fy nghyflogwr mod i’n feichiog. Y peth nesaf dyma fe’n dweud nad yw fy ngwaith i’n ddigon da ac yn fy niswyddo. Beth alla i wneud?"
  • "Dwi yn y coleg ac mae un o’r darlithwyr yn holi am fy mywyd rhywiol drwy’r adeg a gofyn i mi fynd allan gydag e. Mae hyn yn gwneud i fi deimlo’n anghyfforddus. Beth alla i wneud?"

Wrth lwc, fe wnaeth y bobl a holodd y cwestiynau hyn siarad â ni. Mae’n hawdd cael cyngor.

>> Edrychwch ar eich hawliau fel unigolyn ifanc a dysgwch sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn