Gwahaniaethu ar sail rhyw fel defnyddiwr: y gyfraith  

 

Y canlynol sy’n eich amddiffyn rhag i ddarparwyr wahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhyw:

  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Hawliau Dynol 1998

Newidiadau i’r gyfraith

Disgwylir i Gyfarwyddeb Nwyddau a Gwasanaethau Ewropeaidd 2004/113 ddod i rym erbyn 21 Rhagfyr 2007, a bydd yn ehangu diffiniad gwahaniaethu anuniongyrchol wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau. 

On this page

 

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Yn gyffredinol, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn mynnu bod nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau a gynigir i’r cyhoedd, boed am ddim neu beidio, yn cael eu darparu ar yr un sail i’r ddau ryw. Mae enghreifftiau o wasanaethau o’r fath yn cynnwys: cyfleusterau hamdden a thrafnidiaeth, bancio, gwasanaethau personol a chartref. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Trin menyw yn llai ffafriol na dyn (neu i’r gwrthwyneb) oherwydd ei rhyw yw gwahaniaethu uniongyrchol.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo menywod a dynion yn gorfod bodloni amod neu ofyniad ond, mewn gwirionedd, y byddai llawer llai o aelodau o un rhyw yn gallu gwneud hynny, ac ni ellir cyfiawnhau’r amod neu ofyniad ar sail wrthrychol nad yw’n ymwneud â rhyw. Er mwyn dangos mai dyma’r achos, byddai’n rhaid i chi gael ystadegau i ddangos y byddai’r amod yn effeithio ar fwy o aelodau un rhyw.

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer eithriadau, ond oni bai y gellir defnyddio eithriad perthnasol i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, dylai cyfleusterau a gwasanaethau fod yn agored i’r ddau ryw yn yr un modd.

Dim ond y Llys Sirol all benderfynu yn y pen draw a oes gwahaniaethu ar sail rhyw wedi digwydd neu a yw un o’r eithriadau i’r Ddeddf yn berthnasol.

Eithriadau

Mae eithriadau yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw a all fod yn berthnasol i rai gwasanaethau.

Gwahanol sgiliau – a. 29(3)

Gellir cyfyngu gwasanaethau i un rhyw os ydyn nhw wedi’u llunio ar gyfer un rhyw yn unig oherwydd bod angen sgiliau gwahanol i ddarparu’r gwasanaethau i’r rhyw arall ee trin gwallt a theilwra.

Gofal, goruchwylio neu sylw arbennig - a. 35(1)(a)

Gellir cyfyngu gwasanaethau i un rhyw os ydyn nhw’n cael eu darparu mewn sefydliad ar gyfer unigolion sydd angen gofal, goruchwylio neu sylw arbennig, er enghraifft, ysbyty neu uned ailsefydlu.

Eithriad crefyddol - a. 35(1)(b)

Gellir cyfyngu gwasanaethau i un rhyw os ydyn nhw’n cael eu cynnal mewn man sydd ym meddiant neu’n cael ei ddefnyddio (yn barhaol neu dros dro) at ddibenion crefydd gyfundrefnol a bod y cyfleusterau neu’r gwasanaethau wedi’u cyfyngu i un rhyw er mwyn cydymffurfio ag athrawiaethau’r grefydd neu er mwyn osgoi tramgwyddo ar yr hyn sy’n dderbyniol i nifer sylweddol o’i dilynwyr.

Embaras difrifol a dadwisgo - a.35 (1)(c)

Gellir cyfyngu gwasanaethau i un rhyw os yw’r defnyddwyr yn debygol o ddioddef 'embaras difrifol' os bydd aelod o’r rhyw arall yn bresennol neu os yw’r defnyddwyr yn debygol o ddadwisgo ac y gall defnyddwyr yn rhesymol wrthwynebu i aelodau’r rhyw arall fod yn bresennol. Gall yr eithriad hwn fod yn berthnasol er enghraifft i gyfleusterau sawna. Mae rhai darparwyr gwasanaethau wedi nodi’r angen i ddarparu sesiynau chwaraeon megis nofio neu fadminton i fenywod yn unig. Byddai hyn yn anghyfreithlon oni bai y gallai’r darparwr brofi y byddai grwpiau cymysg yn achosi embaras difrifol i’r defnyddiwr(wyr).

H4 Cysylltiad corfforol - a.35 (2)

Mae hawl cyfyngu cyfleusterau i un rhyw os yw’r defnyddiwr yn debygol o ddod i gysylltiad corfforol ag unigolyn arall ac y gall yr unigolyn arall yn rhesymol wrthwynebu os byddai’r defnyddiwr yn aelod o’r rhyw arall. Er enghraifft, gall yr eithriad hwn fod yn berthnasol i ddosbarth hunanamddiffyn.

H4 Sefydliadau Gwirfoddol Un Rhyw - a.34

Nid yw’n anghyfreithlon i sefydliad gwirfoddol dderbyn aelodau o un rhyw yn unig. Hefyd, nid yw’n anghyfreithlon i gorff gwirfoddol ddarparu gwasanaethau a manteision i un rhyw yn unig os mai dyma brif amcan y corff, hy, y prif reswm pam y cafodd ei sefydlu. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os na chafodd y sefydliad ei ffurfio o dan Ddeddf Seneddol, ac nad yw’n gweithredu i wneud elw.  Er enghraifft, gallai adran 34 fod yn berthnasol i grŵp gwirfoddol a sefydlwyd i ddarparu gwasanaeth tacsi am ddim i fenywod yn unig neu grŵp gwirfoddol i fechgyn sy’n gwrthod derbyn merched yn aelodau. Pan fydd corff wedi penderfynu naill ai dderbyn y ddau ryw neu ddarparu gwasanaethau i’r ddau ryw, ni fydd hawl ganddo wedyn wahaniaethu rhwng dynion a menywod (gan anwybyddu unrhyw fân eithriadau i reolau aelodaeth neu ddarparu unrhyw wasanaethau i’r rhyw arall sy’n eithriadol neu’n lled ddi-nod).

H4 Elusennau - a.43

Gall elusennau ddarparu buddiannau i un rhyw yn unig os cafodd ei sefydlu yn benodol at y diben hwn o dan offeryn statudol. Nid yw hyn yn golygu bod pob elusen wedi’i heithrio o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.

H4 Eithriad cyffredinol ar gyfer chwaraeon - a.44

Mae’n gyfreithlon i gyfyngu cystadleuwyr i un rhyw mewn unrhyw chwaraeon, gêm, neu weithgaredd arall o natur gystadleuol lle mae cryfder, stamina neu gorffoledd y fenyw gyffredin yn ei rhoi o dan anfantais i’r dyn cyffredin. Er enghraifft, ni fyddai’n anghyfreithlon i’r Gymdeithas Pêl-droed wrthod caniatáu i fenywod chwarae yng nghynghrair pêl-droed y dynion. Mae cyfraith achos wedi dyfarnu bod yr eithriad hwn yn caniatáu cystadlaethau ar wahân i fechgyn a marched hefyd. Ni fyddai’r eithriad yn berthnasol i weithgaredd chwaraeon sydd ddim yn gystadleuol. Gweler Chwaraeon am fwy o wybodaeth.

Os ydych o’r farn fod gennych achos o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, gweler Defnyddio’ch hawliau am fwy o wybodaeth am sut i’w gyflwyno.


Back to top^  

Deddf Hawliau Dynol 1998

Daeth Deddf Hawliau Dynol 1998 i rym ar 2 Hydref 2000. Nod y Ddeddf hon yw sicrhau bod cyfres sylfaenol o hawliau dynol, a bennwyd gan y Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yn cael eu parchu’n llawn ac y gellir eu gorfodi yn y DU.

O dan y Ddeddf Hawliau Dynol mae gennych yr hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu. Os ydych o’r farn fod gennych achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, gweler Defnyddio’ch hawliau am fwy o wybodaeth am sut i’w gyflwyno.


Back to top^