Beichiogrwydd a mamolaeth: eich hawliau
Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo am eich bod chi’n feichiog neu am resymau sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd a’ch absenoldeb mamolaeth. Mae’n anghyfreithlon hefyd i’ch cyflogwr wrthod tâl gwyliau, tâl salwch, hyfforddiant neu unrhyw fantais arall i chi y mae gan bob gweithiwr cyflogedig hawl iddynt o dan gontract.
Nid salwch yw beichiogrwydd ac nid ydych chi’n sydyn iawn yn dod yn llai galluog i wneud eich gwaith.
On this page
Hawl i absenoldeb mamolaeth arferol ac ychwanegol
Fel gweithiwr cyflogedig, mae gennych hawl i 26 wythnos o 'Absenoldeb Mamolaeth Arferol’ a 26 wythnos o ‘Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol’ - gan roi cyfanswm o flwyddyn i gyd. Ar yr amod eich bod chi’n bodloni rhai gofynion o ran rhoi gwybod i’ch cyflogwr, gallwch chi gymryd hwn waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn eich swydd, faint o oriau rydych chi’n eu gweithio na faint yw eich cyflog.
Am wybodaeth am eich hawliau cyflogaeth yn ystod beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth, ewch i wefan DirectGov.
Back to top^
Pan rydych chi’n feichiog ac yn gweithio
Pan rydych chi’n feichiog ond heb ddechrau ar eich absenoldeb mamolaeth, mae gennych hawl i beidio â chael eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich beichiogrwydd.
Er enghraifft:
Back to top^
Tâl salwch yn ystod salwch sy’n ymwneud â beichiogrwydd
Os bydd yn rhaid i chi gymryd amser o’r gwaith yn ystod eich beichiogrwydd am eich bod chi’n sâl, mae gennych chi hawl i gael tâl salwch yn unol â thelerau arferol eich contract.
Nid oes hawl gan eich cyflogwr i’ch trin chi’n llai ffafriol os yw’r salwch yn ymwneud â’ch beichiogrwydd.
Mae rhai cyflogwyr yn talu tâl salwch uwch ar sail ‘ddewisol'. Weithiau, hyd yn oed os yw cyflogwr yn cyfeirio at y taliadau fel rhai 'dewisol', gall gymryd eu bod yn rhan o’ch telerau, er na nodir hynny’n benodol yn eich contract.
Os mai hyn yw’r achos a bod eich cyflogwr yn gwrthod talu eich tâl salwch uwch i chi, a’ch bod chi’n credu mai’r rheswm yw bod eich salwch yn gysylltiedig â beichiogrwydd, efallai y gallwch gymryd camau o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal.
I wneud hawliad, byddai’n rhaid i chi ddangos bod gweithwyr cyflogedig eraill fel arfer yn cael tâl salwch llawn. Os ydych chi wedi cael eich tâl llawn yn y gorffennol am salwch nad oedd yn gysylltiedig â beichiogrwydd, byddai’n rhaid i chi ddangos hyn hefyd. O dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal, mae’n rhaid i chi nodi dyn i’w gymharu â’ch achos chi er mwyn gwneud hawliad, ond efallai y gallwch chi ddadlau hefyd nad oes angen gwneud hyn.
Os yw’r tâl salwch yn wirioneddol ddewisol ac nad yw’n rhan o’ch contract, ond eich bod chi’n teimlo nad yw’ch cyflogwr yn talu’ch tâl salwch uwch oherwydd bod y salwch yn gysylltiedig â beichiogrwydd, efallai y bydd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn hytrach na’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn berthnasol.
Nid yw’r ffin yn glir rhwng achosion sy’n dod o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal a rhai sy’n dod o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Y peth gorau i’w wneud weithiau yw cofrestru hawliadau o dan y ddwy Ddeddf i fod yn ddiogel. Os nad ydych chi’n siŵr dylech ofyn am gyngor pellach. Cofiwch mai 3 mis yw’r terfyn amser ar gyfer cofrestru hawliadau o gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, sy’n fyrrach nag o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal.
Os ydych chi’n cael eich disgyblu neu’ch diswyddo neu os yw eich swydd yn cael ei dileu oherwydd i chi fod i ffwrdd o’r gwaith yn sgil salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, efallai y gallwch gyflwyno hawliad o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw neu’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth.
Back to top^
Ar absenoldeb mamolaeth
Yn ystod absenoldeb mamolaeth arferol â thâl, mae gennych yr hawl i’r un manteision ag y byddech chi’n eu cael pe byddech chi’n gweithio’n llawn amser. Mae’n cynnwys pethau fel:
Fel arfer, ond nid bob amser, bydd gennych hawl i godiad cyflog a thaliadau bonws y byddech chi wedi’u derbyn pe byddech chi wedi bod yn gweithio’n llawn amser: gweler Cyflog cyfartal yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth: eich hawliau am fwy o wybodaeth am hyn.
Back to top^
Dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael baban
Mae’n rhaid i chi gael dod yn ôl i’ch swydd eich hun oni bai nad yw hyn yn wirioneddol bosibl: er enghraifft os cafodd eich swydd ei dileu tra’r oeddech chi i ffwrdd. Os yw hyn yn digwydd dylech chi gael cynnig dewis arall addas.
Er mwyn cael eich hawliau’n llawn, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr (yn ysgrifenedig os yw’n gofyn) eich bod yn feichiog, cyn gynted ag y byddwch yn gwybod o ddewis.
Dysgwch am bolisi mamolaeth eich cwmni. Efallai y bydd yn rhoi mwy i chi na’ch hawliau sylfaenol.
Back to top^