Gweithwyr rhan-amser: Y gyfraith  

 

Y prif gyfreithiau sy’n diogelu eich hawliau fel gweithiwr rhan-amser yw:

  • Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
  • Y Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser

On this page

 

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwyr drin menywod neu ddynion yn llai ffafriol oherwydd eu rhyw.


Back to top^  

Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser

Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwyr drin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol na gweithwyr llawn amser cyfatebol.  Mae’r Rheoliadau’n gymwys i bob gweithiwr rhan-amser ac mae’r darpariaethau craidd yn cynnwys:

  • yr hawl i chi beidio â chael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr llawn amser cyfatebol gan gyflogwr. Mae hyn yn cynnwys telerau’r contract gwaith ac unrhyw niwed arall a achosir gan weithredoedd y cyflogwr.
  • yr hawl i dderbyn cyflog a buddion swydd pro rata i’r rheiny a dderbynnir gan weithwyr llawn amser cyfatebol.
  • yr hawl i dderbyn datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau pam yr ydych chi’n cael eich trin yn llai ffafriol.
  • diogelwch rhag cael eich diswyddo am fynnu eich hawliau o dan y Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser.


Back to top^  

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r Rheoliadau’n cynnwys amrywiaeth eang o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr  o dan gontract gwaith penodol, gweithwyr dros dro a rhai pobl hunangyflogedig.


Back to top^