Cydberthynas yn y gwaith: eich hawliau  

 

Mae gan rai sefydliadau bolisi o beidio â chyflogi gweithwyr sydd mewn perthynas â rhywun sy’n gweithio i’r un cwmni.  Mae’r term ‘cydberthynas’ yn cynnwys y canlynol:

  • priod neu bartner sifil
  • cysylltiad teuluol
  • perthynas bersonol

Gallai cyflogwyr fod yn erbyn cydberthynas agos yn y sefydliad am amrywiaeth o resymau a allai fod yn gwbl amherthnasol i wahaniaethu ar sail rhyw.  Dyma rai o’r rhesymau posibl:

  • Natur y busnes ei hunan
  • Poeni y gallai cydberthynas agos eu rhoi mewn sefyllfa anodd neu gwneud iddynt deimlo’n chwithig o flaen cleientiaid  
  • Gallai amharu ar ansawdd y penderfyniadau a wneir
  • Gallai annog ymddygiad amhroffesiynol rhwng staff a rheolwyr
  • Gwneud y broses ddisgyblu’n anoddach
  • Gallai danseilio’r busnes, gan roi mantais i un o’r cystadleuwyr.

Gall cymdeithasau proffesiynol sydd â pholisi “dim cydberthynas bersonol” wrthod cais am aelodaeth.  Gall cyflogwyr wrthod recriwtio rhywun oherwydd y polisi, neu gallent ddefnyddio’r gweithdrefnau disgyblu yn erbyn gweithiwr sy’n cychwyn cydberthynas bersonol.  Gall hyn arwain at ddiswyddo weithiau.

Gall hyn arwain at wahaniaethu ar sail rhyw os bydd cyflogwr neu gymdeithas broffesiynol yn trin rhywun yn llai ffafriol am wneud hyn nag y byddai wedi trin rhywun o’r rhyw arall.