Cydberthynas yn y gwaith: Y gyfraith  

 

Er mwyn cyflwyno achos o wahaniaethu ar sail rhyw, rhaid mai eich rhyw neu eich partneriaeth briodasol neu sifil oedd y prif reswm dros beth a ddigwyddodd i chi (er, nad yw’n gorfod bod yr unig reswm o reidrwydd).  Mae’r Ddeddf Partneriaeth Sifil yn berthnasol i gyplau o’r un rhyw, ac mae’n gofyn iddynt gael eu trin yn yr un ffordd â phobl briod yn y gweithle.

Mae angen i chi ddangos:

  • na fyddech chi wedi cael eich trin fel hyn oni bai am eich rhyw.  Gwneir hyn trwy gymharu eich hunan â’r ffordd y caiff aelod o’r rhyw arall ei drin, neu’r ffordd y mae’n debygol o gael ei drin, mewn amgylchiadau tebyg
  • na fyddech chi wedi cael eich trin fel hyn oni bai eich bod yn briod.  Nid yw’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i gyflogwr ddiswyddo rhywun am ei fod wedi priodi rhywun yn yr un sefydliad.  Mae gwahaniaethu ar sail statws priodasol yn anghyfreithlon pan fydd cyflogwr yn eithrio pobl briod yn gyffredinol (er enghraifft, trwy wrthod cyflogi unrhyw unigolyn priod); nid yw’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn gweithiwr oherwydd y sawl maent wedi’i briodi
  • bod eich cyflogwr wedi gosod amod neu ofyniad arbennig sy’n gwahaniaethu am ei fod yn rhoi un rhyw, neu bobl briod, dan anfantais, ac nad yw yn angenrheidiol.  Un enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw yw polisi sy’n nodi mai’r gweithiwr ar raddfa cyflog llai fydd yn cael ei drosglwyddo os bydd dau weithiwr yn cychwyn cydberthynas bersonol. Gallai hyn roi menywod dan anfantais mewn sefydliad lle mae gan fenywod raddfeydd cyflog is, o gymharu â’r dynion sydd ar raddau cyflog uwch.

O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, nid yw’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn rhywun am ei fod ef neu hi yn sengl.

On this page

 

Achosion o ddiswyddo deongliadol/diswyddo annheg

Os bydd rhaid i chi ymddiswyddo am na allwch chi ddioddef gweithio yn eich swydd mwyach oherwydd y ffordd yr ydych chi’n cael eich trin, efallai y gallwch chi gyflwyno achos o ddiswyddo annheg yn ogystal â gwahaniaethu os oedd yr hyn a ddigwyddodd i chi’n ddigon difrifol.  Ar y llaw arall, mae’n syniad da i gael cyngor cyfreithiol lle’n bosibl cyn ymddiswyddo.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw oherwydd cydberthynas yn y gwaith, darllenwch Defnyddio eich hawliau i gael mwy o wybodaeth am sut i gyflwyno achos.


Back to top^