Recriwtio a dethol: Y gyfraith
Diogelir eich hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail eich rhyw mewn prosesau recriwtio a dethol gan:
Dylai cyflogwyr hefyd ddilyn y Cod Ymarfer ar Wahaniaethu ar sail Rhyw: Polisïau, Gweithdrefnau ac Arferion Cyfle Cyfartal mewn Cyflogaeth.
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei ryw neu statws priodasol wrth benodi ar gyfer swydd:
-
yn y trefniadau a wneir ar gyfer penderfynu pwy ddylai gael y swydd (gweler isod)
-
o ran unrhyw delerau a gynigir, megis cyflog, gwyliau neu amodau gwaith
-
trwy wrthod ymgeisydd neu osgoi ystyried ymgeisydd yn fwriadol.
-
mae’r ‘trefniadau’ ar gyfer penderfynu pwy ddylai gael y swydd yn cynnwys:
-
disgrifiad y swydd
-
manyleb y person, sef asesiad o’r sgiliau, profiadau a’r cymwysterau sydd eu hangen i wneud y swydd
-
yr hysbyseb (gan gynnwys hysbysebion a chylchlythyrau staff, swyddi a hysbysebir mewn ffenestri siopau, yn ogystal â phapurau newydd a chylchgronau, y rhyngrwyd, y teledu a’r radio)
-
y ffurflen gais llunio’r rhestr fer y cyfweliad
-
y dewis terfynol.
O dan y Ddeddf Partneriaethau Sifil, mae gan bartneriaid sifil yr un hawliau â phartneriaid priod.
Back to top^
Eithriadau i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, mae’n gyfreithlon i wahaniaethu wrth recriwtio, hyfforddi, rhoi dyrchafiad a throsglwyddo mewn swydd lle mae rhyw'r gweithiwr yn gymhwyster galwedigaethol gwirioneddol. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn caniatáu i gyflogwr gyfyngu ceisiadau am swydd i fenywod (neu ddynion) os yw natur hanfodol y swydd, neu ddyletswyddau arbennig y swydd, yn gofyn am fenyw (neu ddyn).
Back to top^
Cod Ymarfer ar wahaniaethu ar sail rhyw
Mae Cod Ymarfer ar Wahaniaethu ar sail Rhyw wedi’i gyhoeddi: Polisïau, Gweithdrefnau ac Arferion Cyfle Cyfartal mewn Cyflogaeth [link to PDF of Code]. Mae’r Cod yn rhoi canllawiau i gyflogwyr, undebau llafur ac asiantaethau cyflogaeth ar gamau y gellir eu cymryd i gyflawni cydraddoldeb rhwng dynion a menywod. Mae’r Cod yn cynnwys argymhelliad y dylai cyflogwyr sefydlu a defnyddio meini prawf cyson ar gyfer dethol gweithwyr, hyfforddi, rhoi dyrchafiad, dileu swydd a diswyddo. Mae’n cynghori y gallai fod yn anodd i benderfyniadau fod yn wrthrychol heb y cysondeb hwn, a gallai adael yr adwy’n agored i achosion o wahaniaethu anghyfreithlon.
Dyma argymhellion y Cod:
• Dylech chi gael eich asesu yn unol â’ch gallu personol i wneud swydd benodol. Ni ddylid tybio mai dim ond dynion neu ddim ond menywod a fydd yn gallu cyflawni mathau arbennig o waith.
• Dim nod os gellir cyfiawnhau hynny o ran y gwaith sydd angen ei wneud y dylid nodi cymwysterau neu ofynion ar gyfer swydd sydd, i bob pwrpas, yn atal un rhyw neu bobl briod rhag ymgeisio amdani.
Ni fyddai’r ffaith fod cyflogwr heb gymryd sylw o’r Cod yn profi gwahaniaethu ar sail rhyw yn ei hunan. Ond pan fydd yn ymddangos yn berthnasol, bydd tribiwnlys yn ystyried argymhellion y Cod wrth ddod i benderfyniad ynglŷn ag achos o wahaniaethu ar sail rhyw.
Back to top^