Recriwtio a dethol: eich hawliau  

 

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu mewn cyflogaeth ar sail rhyw neu statws priodasol. Felly, byddai hysbyseb am swydd ar gyfer ‘gwerthwraig’, neu hysbyseb sy’n dweud ‘rhaid cael dwylo ystwyth i weithio mewn amgylchedd sy’n cynnwys menywod yn bennaf’ yn awgrymu mai swyddi pacio ar gyfer menywod yn unig ydynt, ac felly byddai’n debygol o fod yn anghyfreithlon. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw o ran addysg a hyfforddiant hefyd, ac wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu werthu neu rentu eiddo.

I gael gwybod mwy am ddyletswyddau cyflogwyr wrth gyhoeddi hysbysebion swydd, darllenwch Cyflogwyr: hysbysebion swydd a chydraddoldeb.

I gael mwy o wybodaeth am wahaniaethu wrth recriwtio a dethol, gweler Hawliau ar waith: gweithio ac ennill cyflog.