Gwaith sy’n ystyriol o deuluoedd: Eich hawliau
Mae gennych chi’r hawl o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Gyflogaeth 2002) i ofyn am oriau gwaith hyblyg os byddwch chi’n bodloni amodau arbennig (y weithdrefn hawl i ofyn). Edrychwch ar Beth mae’r Gyfraith yn ei Ddweud am fwy o wybodaeth.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn galluogi dynion a menywod i herio penderfyniad i wrthod caniatáu iddynt weithio oriau sy’n ystyriol o deuluoedd a fyddai’n eu galluogi i reoli cyfrifoldebau teuluol. Nid yw hyn yn golygu bod gennych chi hawl awtomatig i gael newid eich patrwm gweithio. Mae’n golygu y gallwch chi herio penderfyniad i wrthod caniatâd neu i orfodi newid mewn oriau gwaith, os gallwch chi ddangos eich bod wedi dioddef gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw neu statws priodasol.
Oherwydd y ffordd y lluniwyd y gyfraith, rhaid i ddynion a menywod fynd ati mewn ffyrdd gwahanol i wneud hyn:
Gallai menyw hawlio gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw neu statws priodasol os yw wedi gofyn am ryw fath o hyblygrwydd er mwyn delio â’i chyfrifoldebau teuluol, a’i bod wedi cael ei gwrthod heb reswm dilys.
Gallai dyn hawlio gwahaniaethu uniongyrchol o ganlyniad i’w driniaeth anffafriol pe bai’n gallu dangos y byddai’r cyflogwr wedi caniatáu’r cais i fenyw yn yr un sefyllfa a’r un swydd.
Yn dibynnu ar ffeithiau eich achos, efallai y byddwch chi’n gallu cyflwyno achos o dan ddeddfwriaeth arall yn ogystal â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.
On this page
Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu.
Mae gan dadau’r hawl i gael pythefnos o absenoldeb tadolaeth â thâl. Mae’r un hawl gan bartner sifil yn yr un sefyllfa.
Rhoddir yr un cyfnod o absenoldeb mabwysiadu â thâl a’r un gyfradd safonol â thâl mamolaeth statudol, gan gychwyn o’r amser y rhoddir y plentyn yn y teulu am y tro cyntaf, ac mae ar gael i unrhyw un o’r rhieni.
Back to top^
Absenoldeb rhiant
Absenoldeb rhiant yw amser a gymerir o’r gwaith i ofalu am blentyn. Ni thelir cyflog yn ystod yr absenoldeb hwn ar hyn o bryd.
Pwy sy’n gymwys i’w gael?
Gall dynion a menywod gymryd absenoldeb rhiant os ydynt:
Pa mor hir yw absenoldeb rhiant?
Mae gan bob rhiant yr hawl i gael absenoldeb rhiant am 13 wythnos. Mewn achosion o enedigaethau lluosog, gall y rhieni gael 13 wythnos o absenoldeb rhiant i bob plentyn.
Mae gan rieni plentyn anabl yr hawl i gael 18 wythnos o absenoldeb rhiant.
Pryd ellir cymryd absenoldeb rhiant?
Rhaid i rieni plant a anwyd ar 15 Rhagfyr 1999 neu wedi hynny gymryd eu habsenoldeb rhiant erbyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed.
Rhaid i rieni plant a fabwysiadwyd ar 15 Rhagfyr 1999 neu wedi hynny gymryd eu habsenoldeb rhiant o fewn pum mlynedd i’r mabwysiadu, a chyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed.
Dim ond ar 10 Ionawr 2002 y daeth rhieni’r plant hynny a anwyd neu a fabwysiadwyd cyn 15 Rhagfyr 1999 yn gymwys i gael absenoldeb rhiant, a rhaid i’r rhain gymryd eu habsenoldeb rhiant o fewn tair blynedd a thri mis i’r dyddiad hwn.
Bydd rhieni plant anabl yn gallu defnyddio’u habsenoldeb dros gyfnod hirach, tan i’r plentyn fod yn 18 oed.
Mae’r gweithiwr yn parhau i fod yn gyflogedig yn ystod yr absenoldeb rhiant a bydd rhai telerau gwaith, megis hysbysiad contract a thelerau dileu swydd, yn dal i fod yn gymwys. Ar ôl yr absenoldeb rhiant, mae gan y gweithiwr yr hawl i ddychwelyd i’r un swydd os yw wedi cymryd pedair wythnos neu lai. Os nad yw hyn yn bosibl pan fydd cyfnod hirach wedi cael ei gymryd, mae ganddo’r hawl i gael swydd o’r un statws, a’r un telerau ac amodau â’r hen swydd, neu well.
Back to top^
Cytundebau gweithlu a chydgytundebau
Mae’r Llywodraeth yn annog cyflogwyr ac undebau i ddod i gydgytundeb neu gytundeb gweithlu ynglŷn â sut i reoli absenoldeb rhiant. Gall cytundebau fod yn fwy hael na’r elfennau allweddol a nodwyd uchod, ond ni allant gynnig llai. Er enghraifft, gallai cynllun lleol:
-
ganiatáu i weithwyr gymryd absenoldeb rhiant fesul diwrnod, wythnos neu mewn un bloc mawr neu fel oriau gwaith llai, neu gymysgedd o’r rhain i gyd
-
cynnwys cyfnodau hysbysu, neu drefniadau ar gyfer gohirio absenoldeb am resymau busnes pwysig.
Os nad oes unrhyw gytundeb gweithlu na chydgytundeb, bydd y cynllun absenoldeb rhiant safonol isod yn gymwys. Gall cydgytundebau a chytundebau gweithlu gael gwared â’r cynllun hwn a’i ddisodli â threfniadau hollol wahanol.
Back to top^
Cynllun absenoldeb rhiant safonol
Mae’r cynllun safonol yn galluogi gweithwyr i gymryd eu habsenoldeb rhiant:
- mewn blociau neu fesul wythnos
- ar ôl rhoi 21 diwrnod o rybudd
- hyd at uchafswm o bedair wythnos o absenoldeb y flwyddyn;
- gall y cyflogwr ei ohirio am hyd at 6 mis os na all y busnes ymdopi;
- ni ellir gohirio’r absenoldeb pan fydd y gweithiwr wedi rhoi rhybudd ei fod am ei gymryd yn syth wedi i’r plentyn gael ei eni, neu gael ei leoli gyda theulu i’w fabwysiadu.
Bydd gan rieni plant anabl yr hyblygrwydd i gymryd eu habsenoldeb un dydd ar y tro neu’n hirach os ydynt yn dymuno. Plentyn anabl yw plentyn sy’n derbyn lwfans byw i’r anabl.
Back to top^
Diogelwch rhag niwed neu ddiswyddiad
Bydd gan weithwyr yr hawl i fynd i dribiwnlys cyflogaeth os bydd y cyflogwr yn ei rwystro neu’n ceisio ei rwystro rhag cymryd absenoldeb rhiant. Bydd gweithiwr sy’n cymryd absenoldeb rhiant yn cael ei ddiogelu hefyd rhag cael ei erlid, gan gynnwys ei ddiswyddo am wneud hynny.
Back to top^
Amser o’r gwaith ar gyfer pobl ddibynnol
Beth yw amser o’r gwaith ar gyfer pobl ddibynnol?
Cyfnod byr o absenoldeb o’r gwaith i ddelio ag argyfwng teuluol yw hwn.
Pryd ellir cymryd amser o’r gwaith ar gyfer pobl ddibynnol?
Gall gweithiwr gymryd yr amser pan fydd:
-
person dibynnol yn sâl neu’n cael ei anafu
-
y trefniadau ar gyfer gofalu am berson dibynnol yn chwalu’n annisgwyl
-
person dibynnol yn rhoi genedigaeth
-
person dibynnol yn marw
-
angen amser i ddelio â digwyddiad annisgwyl sy’n ymwneud â phlentyn dibynnol yn ystod oriau ysgol neu ar daith ysgol.
Pwy sy’n cael ei ystyried fel person dibynnol?
-
Diffinnir person dibynnol fel rhiant i’r gweithiwr
-
gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner
-
plentyn
-
rhywun sy’n byw fel rhan o’r teulu, a’r gweithiwr yw ei brif ofalwr.
Mewn achos o salwch neu anaf, neu lle mae’r trefniadau gofalu’n chwalu, gall person dibynnol hefyd fod yn rhywun sy’n dibynnu’n rhesymol ar y gweithiwr am gefnogaeth hefyd.
Back to top^
Diogelwch rhag niwed neu ddiswyddiad
Gall gweithwyr sy’n credu bod cael eu gwrthod rhag cymryd amser o’r gwaith yn benderfyniad afresymol, neu weithiwr sy’n dioddef niwed o ganlyniad i gymryd amser o’r gwaith ar gyfer pobl ddibynnol, wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth.
Nid yw’n deg i weithiwr gael ei ddiswyddo neu ei ddewis ar gyfer dileu ei swydd am gymryd, neu geisio cymryd, amser o’r gwaith yn unol â’i hawl.
Back to top^