Addysg: eich hawliau
Mae gennych chi’r hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail eich rhyw. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi eisoes yn fyfyriwr neu os ydych chi wrthi’n gwneud cais i ddarparwr addysg am le.
Nid yw gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu famolaeth yn cael ei wahardd yn llwyr ym myd addysg fel y mae ym myd gwaith. Fodd bynnag, os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu ar sail eich beichiogrwydd yn yr ysgol neu’r coleg, efallai eich bod chi wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw.
On this page
Young people: know your rights
Here you can find information about rights regarding sex discrimination and equal pay, aimed at young people. It covers career choices, training, apprenticeships, further and higher education, getting a job and in work, and where you can go for advice and help.
This site is aimed primarily at young people, but also is a useful resource for parents, employers, lecturers and service providers.
Back to top^
Ysgolion un rhyw
Nid yw yn anghyfreithlon i ysgolion un rhyw wahaniaethu ar sail rhyw. Gall ysgol a oedd yn arfer dysgu plant o un rhyw ond sy’n newid i ysgol gymysg wneud cais am gael ei heithrio dros dro o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ystod y cyfnod pontio.
Back to top^
Addysg y tu allan i ysgolion a cholegau
Mae adrannau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw sy’n delio ag addysg yn ymdrin â gwahaniaethu gan y mathau penodol o sefydliadau a enwir yn y Ddeddf yn unig.
Mae rhai cyrsiau, yn arbennig rhai galwedigaethol, yn cael eu cynnig gan fathau eraill o sefydliadau’n aml (er enghraifft, cwmnïau hyfforddi preifat), ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw.
Fodd bynnag, bydd gan y sefydliadau hyn gyfrifoldebau fel cyflogwyr neu ddarparwyr gwasanaeth i osgoi gwahaniaethu. Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw, fe allech chi gyflwyno achos yn eu herbyn fel cyflogwr neu ddarparwr gwasanaeth o bosibl. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cyflogaeth [link to section] a Gwahaniaethu ar sail rhyw: hawliau defnyddwyr [link to section]
Back to top^
Gwisg ysgol
Nid yw’n anghyfreithlon i ysgol gael rheolau ynglŷn â safon gwisg ei disgyblion. Nid yw’r llysoedd wedi gorfod penderfynu ar unrhyw achos cyfreithiol ynglŷn â ph’un a fyddai ysgol yn gwahaniaethu o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw trwy bennu rheolau gwisg ysgol gwahanol ar gyfer bechgyn a merched.
Mae llawer yn dibynnu ar beth sy’n cael ei ystyried fel ‘ffurf gonfensiynol o wisgo’ ar hyn o bryd. Mae trowsusau smart yn cael eu derbyn yn eang bellach yn lle sgertiau i fenywod mewn gwaith, ac mae yna fanteision ymarferol dros wisgo trowsus yn yr ysgol.
Gan ei fod yn beth arferol i ferched wisgo trowsus, mae yna ddadl gref ei fod yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw i rwystro merch rhag gwisgo trowsus smart yn lle sgert fel rhan o gôd gwisg swyddogol.
Gan nad yw sgertiau’n ddillad confensiynol ar gyfer bechgyn ar hyn o bryd, nid yw’n debygol y byddai’n anghyfreithlon i rwystro bechgyn rhag gwisgo sgertiau o dan yr awdurdod cyfreithiol cyfredol.
Mae’r un ystyriaethau’n berthnasol i reolau am wallt a gemwaith: o ystyried y confensiynau cyfredol am ddillad, mae’n debygol o fod yn gyfreithlon i wrthod gadael i fechgyn gael gwallt hir a gwisgo clustlysau. Nid oes unrhyw achosion wedi cael eu penderfynu ynglŷn â chodau gwisg mewn ysgolion ac ni fyddai sicrwydd ynglŷn â chanlyniad her gyfreithiol.
I gael mwy o fanylion am wisg ysgol a gwahaniaethu ar sail rhyw, darllenwch Addysg: beth mae’r gyfraith yn ei ddweud [insert link to section] ac ewch i’r Ganolfan gyfreithiol [insert link to Legal centre] i gael enghreifftiau o achosion.
I gael gwybodaeth am wisg ysgol a gwahaniaethu ar sail hil, darllenwch Cydraddoldeb ac amrywiaeth: Hil: Addysg [insert link to section]
Back to top^
Cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol
Rhaid i ferched a bechgyn gael yr un mynediad i gwricwlwm yr ysgol a rhaid iddynt gael yr union yr un dewis o bynciau a derbyn yr un faint o addysgu mewn pynciau. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau addysg gorfforol.
Enghraifft:
Mae merch yn cael clywed na all hi gymryd rhan mewn criced na phêl-droed yn ystod gwersi chwaraeon yr ysgol, am fod ei hysgol yn ystyried y rhain fel chwaraeon i ‘fechgyn yn unig’. Mae hyn yn debygol iawn o fod yn gwahaniaethu yn anghyfreithlon ar sail rhyw.
Ceir eithriad i’r rheol hon yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, lle mae gweithgaredd ‘o natur gystadleuol’ a lle mae cryfder corfforol, stamina neu gorffoledd menyw yn ei rhoi dan anfantais i’r dyn cyffredin.
Gallai’r eithriad hwn ganiatáu i ysgolion gael timau ar wahân i fechgyn a merched mewn rhai chwaraeon. Fe allai’r eithriad fynd cyn belled â chaniatáu i ferched a bechgyn gael eu gwahanu mewn gwersi chwaraeon, ond dim ond os bydd y gwersi’n cael eu hystyried yn gystadleuol.
Back to top^
Astudio’n rhan-amser
Gan fod llawer mwy o fenywod na dynion yn dewis gweithio neu astudio’n rhan-amser, mae gwahaniaethu mwy cyffredinol yn erbyn gweithwyr neu fyfyrwyr rhan-amser yn aml yn achosi gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
Er enghraifft, pe baech chi’n astudio’n llawn-amser am dystysgrif ôl-radd ond eisiau newid i astudio’n rhan-amser er mwyn gofalu am eich baban, fe allai’r brifysgol fod yn euog o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw pe bai’n gwrthod gadael i chi newid eich patrwm astudio neu pe bai’n lleihau eich arian.
Back to top^